Ysgol Haf 2025

Cynulleidfa
Uwch reolwyr ac arweinwyr o bob rhan o'r sector gwasanaeth cyhoeddus a'r sector gwirfoddol yng NghymruLleoliad
Preswyl
Campws Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantDyddiadau
1 i 4 Gorffennaf 2025Cost
Codir £600 + TAW ar gynadleddwyr
‘Cysylltiedig, Cydweithredol, Dewr: Trawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus gyda'n Gilydd’
Gwybodaeth
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Mai 2025.
Trosolwg
Bydd yr Ysgol Haf yn dathlu ugain mlynedd yn 2025, ac rydym yn falch iawn o ddod â phrofiad cyffrous, diddorol ac ysbrydoledig arall i chi eleni.
Mae'r Ysgol Haf yn brofiad preswyl trochol dros 4 diwrnod yn lleoliad hyfryd Llambed, Gorllewin Cymru. Mae'r Ysgol Haf yn dod ag arweinwyr at ei gilydd i rwydweithio, dysgu a mynd i'r afael â materion allweddol yn y gwasanaeth cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Beth i'w ddisgwyl yn yr Ysgol Haf:
- Byddwch yn darganfod safbwyntiau a syniadau newydd a fydd yn gwella eich sgiliau a'ch gwybodaeth
- Byddwch yn cael amser gwerthfawr i fyfyrio, dysgu wedi'i hwyluso a'r cyfle i rwydweithio a meithrin perthnasoedd â’ch cymheiriaid sy’n arweinwyr
- Byddwch yn ehangu eich rhwydweithiau y tu hwnt i'r gwasanaeth rydych chi'n gweithio ynddo
- Byddwch yn cynyddu eich gwelededd fel arweinydd sector cyhoeddus
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Mae gan Academi Wales safle unigryw yn nhirwedd Cymru. Gyda mynediad at arweinwyr ar draws gwasanaethau cyhoeddus, dealltwriaeth o anghenion arwain a thrawsnewid ein harweinwyr presennol ac yn y dyfodol, a lefelau uchel o arbenigedd wrth weithredu ymyriadau ystyrlon ac effeithiol, mae gennym ran allweddol i’w chwarae yn nyfodol Cymru.
Mae strategaeth newydd Academi Wales yn cyflwyno ein diben uchelgeisiol i drawsnewid Cymru drwy ragoriaeth mewn arweinyddiaeth.
Mae sawl edefyn aur yn rhedeg drwy bopeth a wnawn: Gwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ethos Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, pwyslais cryf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, hyrwyddo’r Gymraeg a defnyddio dulliau digidol a hybrid i gefnogi darpariaeth o ansawdd.
Yr hyn a ddywedodd cynadleddwyr y gorffennol
‘Roedd yn brofiad hollol ymdrochol sydd wedi gwneud i mi edrych o ddifrif ar bwy ydw i fel arweinydd a sut y gallaf wneud newidiadau cadarnhaol yn y gweithle’
‘Roedd yn brofiad gwerthfawr cyfarfod ag arweinwyr eraill o gymaint o wahanol feysydd, ac yn gyfle gwych i fyfyrio ar fy ngwaith a fy heriau personol.’
‘Diddorol iawn, gyda llawer o siaradwyr gwych yn rhoi tipyn i gnoi cil arno, yn ogystal â mynediad at rwydwaith o bobl o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd yn werthfawr iawn.’
‘Corwynt o syniadau cadarnhaol sy’n mynd â chi i’r uchelfannau, yn eich gollwng chi ac yn eich gadael wedi’ch rhyfeddu, anhygoel!’
Er mwyn eich helpu i gael blas ar brofiad yr Ysgol Haf, mae fideos o flynyddoedd blaenorol ar gael ar ein sianel YouTube.
Cadeiryddion a siaradwyr
Bydd y rhaglen 4 diwrnod lawn ac amrywiol yn cynnwys siaradwyr sy'n academyddion ac yn arbenigwyr yn eu maes dewisol. Bydd profiad yr Ysgol Haf yn rhoi cyfle i chi fynd amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol a gyflwynir gan academyddion, ac awduron a all rhoi dealltwriaeth a gwybodaeth i'ch cefnogi chi, eich sefydliadau, a'r gymuned rydych chi'n ei gwasanaethu.
-
Owen Evans
Estyn
-
Dr Stephanie Hare
-
Thimon de Jong
WHETSTON / strategic foresight
-
Ceri Witchard
Academi Wales
-
Dr Neil Wooding CBE
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Dysgwch fwy am y cadeiryddion a'r siaradwyr.
Bydd rhagor o fanylion am ein siaradwyr yn cael eu cyhoeddi’n fuan. Tanysgrifiwch i'n Bwletin, dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ewch i'n tudalennau gwe i gael y newyddion a'r diweddariadau diweddaraf am Ysgol Haf 2025.
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol
Cynulleidfa darged
Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at reolwyr ac arweinwyr lefel uwch yn unig sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector neu’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae’r Ysgol Haf yn addas ar gyfer y rhai sy’n arwain tîm, cangen neu adran yn eu sefydliad, gyda chyfrifoldeb am greu amgylchedd gwaith effeithiol i’w staff, ac am nodi a hwyluso unrhyw newidiadau sydd eu hangen i gyflawni amcanion eu sefydliad.
Cost
Codir tâl ar gynadleddwyr o £600 + TAW ar gyfer yr Ysgol Haf sy’n cynnwys cyfraniad at gostau dysgu’r digwyddiad.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Mai 2025.
Sylwch, os tynnwch chi’n ôl o’r rhaglen ar ôl i le gael ei ddyfarnu i chi ar yr Ysgol Haf, efallai y bydd yn ofynnol i'ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.
Bwrsariaethau
Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau i dalu 100% o gost cynadleddwyr Ysgol Haf 2025. Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir, grwpiau lleiafrifol a difreintiedig.
Gwnewch gais am yr Ysgol Haf!
Os ydych chi'n gweithio yn sectorau gwasanaeth cyhoeddus neu wirfoddol yng Nghymru ac os hoffech fod yn rhan o'r profiad dysgu deinamig hwn, gwnewch gais am Ysgol Haf 2025 erbyn 12 Mai 2025.
Os yw eich sefydliad ar y rhestr gyswllt ganlynol, efallai y byddwch am hysbysu cyswllt eich sefydliad i roi gwybod iddynt eich bod yn bwriadu gwneud cais.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych wedi derbyn lle erbyn 27 Mai 2025.
Mwy o wybodaeth
I ddarganfod mwy, gan gynnwys sut i gyflwyno cais cryf, gweler ein tudalen rhagor o wybodaeth.
Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
Cysylltwch â ni
Ysgol Haf
LinkedIn
Dilynwch ni ar Academi Wales
#UnGwasanaethCyhoeddusCymru