Cynhadledd Coetsio Rhithiol Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2021
Cynulleidfa:
Ymarferwyr coetsio a mentora o’r y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru
Dyddiad ac amser:
18 Tachwedd 2021
09:00 i 16:30
Lleoliad:
Ar-lein
Dim cost i gynrychiolwyr
Coetsio ar gyfer y normal newydd – heriau’r presennol ac wedi’r pandemig
Trosolwg
Mae’n bleser gennym gyhoeddi Cynhadledd Coetsio Rithwir Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2021, ‘Coetsio ar gyfer y Normal Newydd – Heriau’r Presennol ac wedi’r Pandemig.’
Mae pwysigrwydd Coetsio yn arwyddocaol iawn wrth gefnogi eraill i sicrhau meddwl cliriach, gwneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Bydd hyn yn arbennig o bwysig wrth lywio’r ansicrwydd a’r cymhlethdod dros y misoedd nesaf a thu hwnt wrth inni fynd drwy’r byd presennol ac ôl-pandemig a wynebu heriau’r normal newydd.
Dyluniwyd y rhaglen i gefnogi'r rhai sydd â rôl coetsio ffurfiol neu anffurfiol yn eu sefydliadau.
Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma
Manteision i chi
Bydd y Rhith-gynhadledd Coetsio hon yn eich galluogi i:
- ymgysylltu ag ymarferwyr ac arbenigwyr yn eu dewis feysydd a fydd yn rhannu eu profiadau, eu hadnoddau a’u technegau
- gwella’r gefnogaeth rydych yn ei ddarparu fel rhan o’ch arferion coetsio eich hun.
At bwrpas Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan ac aelodau Rhwydwaith Llywodraeth Cymru - bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gyfrif fel 6 awr o DPP at bwrpas eich cyfraniad at y rhwydweithiau hyn.
Barn y cynrychiolwyr am y Gynhadledd Coetsio Cymru Gyfan 2020 gyntaf erioed i’w chynnal yn rhithwir:
"Os ydych chi'n edrych i herio nid yn unig y ffordd rydych chi'n coetsio ond hefyd eich hun, yna dyma'r gynhadledd i chi. Amrywiaeth o siaradwyr gwybodus ac ymgysylltiol a phersbectif gwahanol. Cofrestrwch heddiw - ni fyddwch yn cael blinder Teams; mewn gwirionedd, byddwch yn cael eich ysgogi"
"Mae angen amynedd a dewrder i fod yn hyfforddwr er mwyn caniatáu i eraill ddod o hyd i ffordd eu hunain i'r canlyniad yn hytrach na'ch bod yn dangos eich ffordd chi iddynt. Gall hyn gymryd amser, rhywbeth sy’n brin gan bawb o bryd i’w gilydd, ond fe'm hatgoffwyd gan y gynhadledd hon o ba mor bwysig yw galluogi eraill; iddyn nhw ac i mi."
"Byddwn yn ei argymell. Fel hyfforddwr newydd heb fawr o brofiad, mae'r sesiwn hon wedi rhoi cipolwg i mi ar sut i wella fy ymarfer ynghyd â rhestr o lawer o adnoddau i ymchwilio ymhellach. Roedd yn ennyn brwdfrydedd o'r dechrau i'r diwedd. Methu aros am yr un nesaf."
"Roeddwn i'n betrus am gynhadledd diwrnod cyfan ar-lein ond mae’r diwrnod wedi bod yn ysbrydoliaeth mawr. Llawer o egni gan y siaradwyr ond hefyd y cynrychiolwyr."
Cadeirydd a siaradwyr
- Paul Schanzer
Academi Wales
- Ian Bancroft
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Bethan Emanuel
Call of the Wild
- Allison Holland
Leaderful Action
- Robert Holden, Ph.D.
Success Intelligence
- Byron Lee
Added Value Learning
- Rhodri Wyn Jones
Academi Wales
- Ross Storr
Academi Wales
- Roy Ellis
Academi Wales
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Dygnwch a gwydnwch
Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd
Hyrwyddo arloesi a newid
Datblygu cydweithio a phartneriaethau
Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol
Rhannu arweinyddiaeth
Synnwyr strategol
Cynulleidfa darged
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru sydd â rôl coetsio ffurfiol neu anffurfiol o fewn eu sefydliadau.
Croesewir ceisiadau gan unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau llywodraeth nad ydynt wedi’u datganoli yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r galw am leoedd bob blwyddyn yn fwy na’n disgwyliadau. Mae lleoedd mewn y cynhadledd yn gyfyngedig, a rhoddir blaenoriaeth i geisiadau gan unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau llywodraeth ddatganoledig a’r trydydd sector / sector gwirfoddol yng Nghymru.
Cost
Dim cost i gynrychiolwyr
Sut mae gwneud cais
Bydd ceisiadau'n cau ar ôl i ni gyrraedd capasiti llawn, neu erbyn 29 Hydref 2021 ar yr hwyraf.
Bydd angen i chi fod â chyfrif ar ein gwefan i ymgeisio am y digwyddiad yma. Rydych yn gymwys os ydych yn gweithio mewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig sy’n gweithredu yng Nghymru.
Gwneud cais am le
Unwaith y byddwch chi wedi mewngofnodi i’ch cyfrif, ewch i’r dudalen ymgeisio a cliciwch y botwm ‘Gwneud cais am le' i ddechrau eich cais.
Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar y digwyddiad hwn, a byddwn yn rhoi blaenoriaeth i goetswyr ar Rwydwaith Coetsio Cymru Gyfan a'r rhai sydd â rôl hyfforddi ffurfiol neu anffurfiol o fewn eu sefydliadau.
Bydd ceisiadau nad ydynt yn gysylltiedig â coetsio yn cael eu hystyried gan ymatebion i'r cwestiwn canlynol 'Rhannwch yr hyn yr ydych yn gobeithio ei gyflawni drwy fynychu'r gynhadledd hyfforddi a sut y bydd yn cefnogi coetsio ar eich cyfer chi a'ch sefydliad'.
Mwy o wybodaeth - Microsoft Teams
Os nad oes gennych gyfrif ‘Teams’, yna dewiswch Ymuno fel gwestai.
Gallwch ddefnyddio porwyr gwe Microsoft Edge a Google Chrome i ymuno fel gwestai. Os ydych chi’n defnyddio tabled neu ffôn clyfar, efallai y bydd angen ichi lawrlwytho app Microsoft Teams o’ch siop apiau cyn y gallwch chi ymuno â’r sesiwn.
Unwaith y byddwch chi’n ymuno â’r sesiwn, diffoddwch eich microffon oni bai bod yr hwylusydd yn gofyn ichi siarad.
- Adnoddau sydd ar gael
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
- Cysylltu â ni
Coetsio a mentora
- Twitter
Dilynwch ni ar Twitter @AcademiWales #UnGwasanaethCyhoeddusCymru