English

Amdanom ni

Academi Wales - Trawsnewid Cymru drwy ragoriaeth mewn arweinyddiaeth

Academi Wales yw’r ganolfan ragoriaeth ar gyfer arweinyddiaeth a rheoli gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd ym mis Medi 2012 ac mae Academi Wales yn rhan o bortffolio’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai yn y Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy amdanom drwy ddarllen ein Adroddiad Blynyddol 2022-23 (4MB).

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Rydym yn amcanu at greu dyfodol i Gymru ble mae arweinyddiaeth ein gwasanaethau cyhoeddus yn weledigaethol, cydweithredol, arloesol a llwyddiannus o ran creu gwelliannau ym mywydau pobl sy’n byw yng Nghymru. Mae ein dull o weithio yn seiliedig ar nifer o athrawiaethau dysgu yn cynnwys y syniadau bod raid i ni ‘arwain i ddysgu’ ac nad ydym byth yn rhoi’r gorau i ddysgu er mwyn cyflawni ein gwaith, beth bynnag fo’n hoedran neu ein hynafedd.

Rydym yn credu bod arweinwyr sy’n rhoi amser i fabwysiadu ymagwedd gadarnhaol tuag at eu dysgu eu hunain yn hapusach, yn byw yn ôl eu gwerthoedd, yn deall eu pwrpas personol ac yn cael mwy o lwyddiant personol a phroffesiynol.

Gan wybod ein bod angen arweinwyr sy’n optimistaidd yn wyneb newid ac yn llym o realistig ynglyn â maint yr ymdrech a’r dewrder sydd ei angen i lwyddo, gweithredu’r gwerthoedd hyn sy’n gwneud y gwir wahaniaeth. Rydym wedi mabwysiadu Gwerthoedd Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, sef Gweithio ar gyfer yr Hirdymor, Tyfu a Gwella Bob Amser, Cydweithio, Trin Pawb â Pharch a Rhoi Dinasyddion yn Gyntaf yn ein holl arferion gweithio.

Dan arweiniad ein Panel Arbenigwyr a’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, rydym yn gweithredu yn y gofod rhwng blaenoriaethau cenedlaethol ac angen lleol. Rydym yn gosod y safon ar gyfer arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus ac yn galluogi pobl i weithio gyda’r rhain er mwyn darparu gwasanaethau sydd wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth. Rydym yn parhau i helpu i harneisio talent arweinwyr ar draws ystod eang o feysydd proffesiynol a disgyblaethau ac rydym yn falch o weithio ar draws pob sector yng Nghymru.

Adroddiad Blynyddol

Darllenwch fwy amdanom drwy ddarllen Adroddiad Blynyddol Academi Wales.
Rydym yn awyddus bob amser i glywed gan ein partneriaid, ein rhanddeiliaid a’n cwsmeriaid. I gael cyngor, neu i drafod beth mae Academi Wales yn gallu ei gyflawni, cysylltwch â ni.