Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Cafodd Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru ei amlinellu gyntaf mewn araith yn Uwchgynhadledd y Gwasanaethau Cyhoeddus gan y Prif Weinidog Mark Drakeford AS, ac mae’n ymwneud â gwella'r lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i'n helpu i greu Cymru yr ydym am fyw ynddi nawr ac yn y dyfodol. Mae'n ffordd o feddwl ac ymddwyn – datblygu dyfodol lle gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd gyda phwrpas cyffredin, gan rannu gweledigaeth a gwerthoedd.
Rydym wedi creu set o werthoedd ac ymddygiadau arwain gwasanaeth cyhoeddus sy'n llywio sut rydym yn gweithio ar y cyd ac yn llunio’r ffordd rydym yn ymddwyn, gan eu datblygu mewn partneriaeth â staff ar bob lefel o'r gwasanaeth cyhoeddus ac ar draws ffiniau sectorau.
Mae byw’r gwerthoedd hyn yn golygu bod yn annibynnol ond yn atebol, bod yn ddewr ac yn feiddgar a chreu diwylliant sy'n agored ac yn dryloyw lle mae pobl yn cyflawni eu potensial. Mae'r gwerthoedd a'r ymddygiadau yn ategol, ac i'w defnyddio wrth weithio ar y cyd â sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus eraill, yn hytrach na’u bod yn gwrthdaro â gwerthoedd ac ymddygiadau arwain sy'n bodoli'n lleol i chi a'ch sefydliadau.
Maent yn cefnogi diwylliant sy'n torri ar draws ffiniau sefydliadol a sectorau, lle mae pawb sy'n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn rhan o'r ymdrech gyffredin hon, yn rhannu gwerthoedd cyffredin a gweithio gyda'i gilydd er budd pobl Cymru.