English

Sefydliadau dysgu’r gwasanaethau cyhoeddus

Mae'r sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus hyn yn cynnig ystod o raglenni dysgu ar gyfer staff gwasanaethau cyhoeddus a staff y trydydd sector yng Nghymru:

  • Yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru - yn cyfrannu at ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr a darpar arweinwyr ar draws y system addysg yng Nghymru.
  • Estyn - yn arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae digwyddiadau rhanddeiliaid yn codi ymwybyddiaeth ac yn cynnig arweiniad meddwl o fewn y sector addysg yng Nghymru.
  • Medr - yn gyfrifol am ariannu a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru i ddarparu profiad mwy di-dor i ddysgwyr.
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) - corff arweinyddiaeth cenedlaethol GIG Cymru - gosod cyfeiriad arweinyddiaeth ar draws pob lefel a rheoli cynllunio olyniaeth ar gyfer y rolau arwain mwyaf blaenllaw yn GIG Cymru
  • Conffederasiwn GIG Cymru - corff aelodaeth sy'n cynrychioli arweinwyr o bob rhan o'r GIG yng Nghymru
  • Dysgu@Cymru - cynnig cyrsiau ar amrywiol raglenni cenedlaethol i hysbysu, atgoffa ac addysgu
  • Y Coleg Heddlua - darparu rhaglenni arweinyddiaeth yr heddlu i swyddogion, staff, a gwirfoddolwyr ledled Cymru a Lloegr.
  • Civil Service Learning - dysgu a datblygu ar gyfer pob gwas sifil
  • Dysgu@Cymru - cynnig cyrsiau ar amrywiol raglenni cenedlaethol i hysbysu, atgoffa ac addysgu
  • Y Lab Dysgu - Dysgu a datblygu mewnol i staff Llywodraeth Cymru
  • Arweinwyr Cymdeithasol Cymru (Cwmpas) – rhaglen arweinyddiaeth i gefnogi arweinwyr gwirfoddol a chymunedol ac arweinwyr mentrau cymdeithasol ar bob cam o’u taith.
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) - hyfforddiant a digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar anghenion mudiadau gwirfoddol (elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau dielw sy'n gweithio yng Nghymru)
  • Dysgu@Cymru - cynnig cyrsiau ar amrywiol raglenni cenedlaethol i hysbysu, atgoffa ac addysgu
  • Gofal Cymdeithasol Cymru - ystod o fodiwlau dysgu digidol ar gyfer y sectorau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant