Springboard
Cynulleidfa
Yn agored i bob menyw yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gobeithio rheoli neu sydd yn ei swydd reoli gyntaf - Arweinwyr gyrfa gynnar
Hyd
4 diwrnod dros 4 mis
Trosolwg
Bwriad Springboard yw galluogi menywod i roi mwy a chael mwy allan o’u gwaith. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar y sector staff sy’n draddodiadol heb ei ddatblygu’n llawn: menywod nad ydyn nhw’n rheolwyr.
Mae’r rhaglen hon yn agored i bob menyw yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gobeithio rheoli neu sydd yn ei swydd reoli gyntaf.
Mae’r rhaglen o blaid menywod, nid yn erbyn dynion. Unig fwriad yr agwedd ‘menywod yn unig’ yw rhoi’r amgylchedd dysgu mwyaf ffafriol ichi ddysgu. Mae’n golygu bod y broses, y cynnwys, yr enghreifftiau a’r astudiaethau achos i gyd yn cyfeirio’n benodol at faterion menywod. Mae hyn yn cyflymu’r broses yn sylweddol, gan sicrhau bod amser ac egni’n cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Byddwch yn cael y gorau o’r rhaglen hon os ydych chi’n:
- eich enwebu eich hun – mae’n hanfodol mai chi sy’n penderfynu cymryd rhan, gan y byddwch yn edrych ar faterion personol ac yn gorfod rhoi o leiaf 3 awr o’ch amser eich hun bob wythnos. Mae’r rhaglen yn gofyn am ymrwymiad a’r gallu i’ch ysgogi eich hun
- agored eich meddwl ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd
- teimlo’n barod amdani – bydd y rhaglen yn gweithio orau os oes gennych brofiadau bywyd i dynnu arnynt ac os ydych yn awyddus i ailasesu a chynllunio eich camau nesaf
- gallu cefnogi eraill
- awyddus i ddatblygu eich potensial yn llawn
- teimlo mewn rhigol neu’n teimlo bod angen i chi adnewyddu ac adfywio
Oni bai am y meini prawf hyn, mae Springboard yn addas i fenywod o bob oedran ac ar bob cam o’u bywydau, boed yn abl neu’n anabl, o bob cefndir a hil a beth bynnag yw eich gobeithion a’ch amgylchiadau personol.
Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma
Manteision i chi
Byddwch chi’n gallu:
- asesu eich sefyllfa bresennol ac edrych ar eich hun o’r newydd
- datblygu’r hunanhyder i wneud i bethau ddigwydd
- gosod nodau personol a phroffesiynol a nodi camau ymarferol i’w cyflawni
- meithrin agwedd gadarnhaol a sgiliau i gymryd y camau nesaf
- cyfathrebu’n fwy penderfynol ac effeithiol
- eich ysgogi eich hun yn well
- ymdrin â straen
Cwrs gwych i’ch cael yn ôl ar y trywydd iawn a meddwl am eich uchelgeisiau, beth rydych chi am ei gyflawni a nodi beth sy’n bwysig i chi.
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol
Rhannu arweinyddiaeth
Cynulleidfa darged
Yn agored i bob menyw yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n gobeithio rheoli neu sydd yn ei swydd reoli gyntaf:
- Arweinwyr gyrfa gynnar - i'r rhai sydd ar gamau cynnar eu gyrfa arwain, neu'n newydd i'r pwnc, neu'n newydd i'r gwasanaeth cyhoeddus (fel arfer gyda 0 i 5 mlynedd o brofiad arwain)
Cost
Dim cost i gynrychiolwyr.
Sut i wneud cais
Am ddiweddariadau a rhybuddion tanysgrifiwch i’n rhestr bostio.
- Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
- Cysylltwch â ni
Datblygu Arweinyddiaeth
- X
Dilynwch ni @AcademiWales #UnGwasanaethCyhoeddusCymru