English

Rhaglen Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan

Gwybodaeth

Cyhoeddiad: Ni fyddwn yn rhedeg Rhaglen Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan yn ystod Blwyddyn Ariannol 2024/2025. Tanysgrifiwch i'n bwletin a dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a phopeth arall sydd gan Academi Wales i'w gynnig.

Graddedigion o unrhyw oedran sydd â 2.1 neu uwch (mewn unrhyw bwnc) neu cymhwyster uwch

Lleoliadau:

Gogledd Cymru
Gorllewin a Chanolbarth Cymru
De Ddwyrain Cymru

Rhaglen Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan

Mae Rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus yn gyfle unigryw i chi wella’ch sgiliau a datblygu’ch gyrfa.

Gwybodaeth

Mae’r rhaglen hon yn gyfle euraid a bydd yn anodd ei churo unrhyw le yn y byd

Bydd yn agor y drws i rolau a phrosiectau yn y dyfodol a fydd yn gyfle i chi ddatblygu ac ymestyn eich hun er mwyn cyflawni’ch potensial. Bydd yr agwedd newydd ‘Cymru gyfan’ yn gyfle unigryw i chi weithio ar draws ffiniau sefydliadau.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Fy nhaith fel myfyriwr graddedig yng Nghymru

Ffeindiwch allan beth wnaeth y graddedigion dysgu yn ystod ei brofiad gwaith ar draws Cymru drwy wylio'r fideos yma:

Bydd y rhaglen gyffrous hon yn eich herio

Rydym wedi llunio’r rhaglen hon i raddedigion er mwyn eich cefnogi a’ch ymestyn. Bydd cyfle i chi gynyddu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad, gan wella eich effeithiolrwydd, eich hyder a’ch gwytnwch personol hefyd. Byddwn yn eich helpu i fanteisio ar eich cryfderau a byddwch yn eu defnyddio i gryfhau’r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Wynebwch yr her - byddwch yn rhan o’r rhaglen hon sydd o’r radd flaenaf a gwnewch wahaniaeth go iawn yng Nghymru.

Byddwch yn rhan o ‘Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru’ ac yn cael eich annog i gysylltu’ch gwerthoedd a’ch credoau â’r gwaith rydych chi’n ei wneud. Bydd dod o hyd i ffyrdd o wneud pethau mewn ffordd well yng Nghymru yn rhoi digon o gyfleoedd i chi wella hyd a lled eich profiad gwaith.

Byddwn hefyd yn gwneud yn siwr eich bod yn cael adborth ystyrlon fel eich bod yn gallu datblygu rhagor. Byddwch yn gweithio tuag at amcanion a chanlyniadau clir ac yn cael adolygiadau rheolaidd o’ch perfformiad.

Cewch fwynhau amrediad o fanteision a fydd yn rhoi boddhad

  • Swydd go iawn yn y gwasanaeth cyhoeddus a fydd yn rhoi profiad o sefydliadau, rolau, adrannau a ffyrdd o weithio gwahanol i chi
  • Cymhwyster Meistr pwrpasol – byddwch yn dysgu am y theorïau, yr arferion gorau a’r datblygiadau diweddaraf o ran arweinyddiaeth ac yn rhoi hynny ar waith yn y gweithle wrth gwblhau traethawd estynedig yn benodol ar y sector gan roi sylw i faterion go iawn yn y sector cyhoeddus
  • Rhaglen ddatblygu dwy flynedd a arweinir gan Academi Wales. Mae’n cynnwys datblygiad personol, coetsio a setiau dysgu gweithredol
  • Mentor a fydd wedi cael ei ddewis i’ch cefnogi chi yn ystod y rhaglen

Rhagor o wybodaeth

Darganfyddwch fwy am broses ymgeisio a llinell amser Rhaglen Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru gyfan trwy ymweld â'n tudalen 'Mwy o Wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin' yma.