English

Rhaglen Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan 2022 - mwy o wybodaeth a cwestiynau cyffredin

Gwybodaeth

Cyhoeddiad: Ni fyddwn yn rhedeg Rhaglen Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru Gyfan yn ystod Blwyddyn Ariannol 2024/2025. Tanysgrifiwch i'n bwletin a dilynwch ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a phopeth arall sydd gan Academi Wales i'w gynnig.

  • Yn ystod y rhaglen unigryw 22 mis o hyd hon, byddwch yn:

    • ennill cyflog cystadleuol fydd yn dechrau ar £30,600 (yn amodol ar ddyfarniad cyflog posib)
    • gwella'ch gwybodaeth am werthoedd ac ymddygiad Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
    • gweithio ar brosiectau arloesol a chyffrous a fydd o fudd i bobl sy'n byw yng Nghymru
    • cael profiad o amrywiaeth o swyddi go iawn ar draws ystod o sefydliadau
    • cwblhau cymhwyster Meistr wedi’i deilwra ac yn cymryd rhan mewn rhaglen ddatblygu gydag Academi Wales
    • gwella'ch dysgu trwy berthnasoedd hyfforddi a mentora
    • cael cyfle i ymgysylltu ag arweinwyr ar y lefel uchaf yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru

    One Welsh Public Service

    Byddwch yn cael y profiad prin o weithio ar draws ffiniau sefydliadol gan fanteisio ar ein dull ‘Cymru Gyfan’ o weithredu. Byddwch yn ymuno â grwp o ddarpar arweinwyr uchelgeisiol ac yn cymryd eich cam cyntaf tuag at rôl arweiniol ar y lefel uchaf.

    Ar ôl i chi gwblhau’r rhaglen, byddem yn eich annog i aros yn gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru am dair blynedd.

  • Mae'r cyfleoedd wedi'u grwpio fesul rhanbarth a byddwch yn dewis un neu fwy o'r rhain pan fyddwch yn gwneud cais.

    Yn ystod y 22 mis, byddwch ar gylchdro gyda nifer o wahanol sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus. Bydd y sefydliadau wedi'u lleoli o fewn pellter teithio rhesymol i'w gilydd (hyd at awr). Bydd hyn yn caniatáu ichi gael profiad o ddulliau gweithio a diwylliannau gwahanol sefydliadau.

    Sefydliadau cyfranogol

    Nid yw'r sefydliadau fydd yn cymryd rhan yn y rhaglen wedi'u dewis eto. Byddwn yn rhannu manylion pellach gyda chi yn ystod y broses recriwtio.

    Faint o deithio y byddwch chi'n ei wneud

    Disgwylir i chi deithio i'r sefydliadau fydd yn cyfranogi. Bydd angen i chi hefyd fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau yn eich rhanbarth. Bydd angen i chi hefyd deithio er mwyn mynychu'r rhaglen Meistr a'r rhaglen ddatblygu.

    Ni fydd disgwyl i chi dalu am gost y teithio hwn - caiff ei reoli trwy'r gweithdrefnau sydd ar waith i gefnogi'r rhaglen

  • Bydd y sefydliadau'n cyd-weithio yn ystod eich rhaglen 22 mis er mwyn ei gwneud mor syml â phosibl i chi ar bob un o'ch cyfnodau ar gylchdro. Dim ond o amgylch sefydliadau yn eich rhanbarth dewisol y byddwch ar gylchdro (nid ar draws Cymru gyfan).

    • Y Gogledd – Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Gwynedd
    • Y Gorllewin a’r Canolbarth – Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
    • Y De-ddwyrain – Sir Fynwy, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Casnewydd, Torfaen, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent

    Gallwch ddewis un neu fwy o ranbarthau pan fyddwch yn gwneud cais.

    Penderfynu ar ba ranbarth/rhanbarthau i wneud cais amdanynt

    Dylech ystyried ardaloedd Cymru a'ch opsiynau teithio ac adleoli. A fyddech chi'n adleoli pe bai angen? A allwch chi deithio o'ch cartref presennol i bob ardal yn y rhanbarth?

    Wrth ichi symud ymlaen trwy'r broses recriwtio, bydd manylion penodol y sefydliadau a'r lleoliadau yn cael eu rhannu gyda chi.

    Sylwch: nid oes costau adleoli ar gael ar gyfer y rhaglen hon.

    Newid rhanbarthau yn ystod y broses recriwtio

    Ni fydd modd i chi newid eich rhanbarth/rhanbarthau. Mae'n bwysig eich bod yn gwneud cais am ranbarth/rhanbarthau yr hoffech gael eich ystyried ar eu cyfer, a hynny o'r cychwyn cyntaf.

  • Rydym yn chwilio am bobl sy'n frwd dros weithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, sydd â'r potensial i ddatblygu, rheoli rhaglen reoli gyffredinol heriol, 22 mis o hyd, a gwneud gwir wahaniaeth i ddinasyddion Cymru.

    Mae'r rhaglen yn agored i bawb sy'n cwrdd â'n gofynion hanfodol. Gallwch wneud cais os ydych chi eisoes yn gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus neu os ydych chi am ymuno.

    Rydym yn awyddus i groesawu ac annog ceisiadau gan y rhai sydd heb gynrychiolaeth yn ein gweithlu ar hyn o bryd, megis pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl.

    Gofynion hanfodol

    • TGAU Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth) ar Radd C neu'n uwch (neu gymhwyster uwch - gweler isod)
    • Gradd Dosbarth 2.1, neu'n uwch, erbyn Medi 2021
    • Yr hawl i weithio yn y DU
    • Gall gofynion Cymraeg fod yn berthnasol ar gyfer rhai swyddi
    • Mae gofynion cenedligrwydd a mewnfudo yn berthnasol i’r swyddi

    Cymwysterau uwch

    I fod yn gymwys ar gyfer y Rhaglen rhaid bod gennych radd dosbarth 2.1, neu uwch, mewn unrhyw bwnc gradd erbyn Medi 2021 neu un o'r cymwysterau uwch canlynol -

    Lefel 7

    Cymwysterau Lefel 7:

    • gradd meistr integredig, er enghraifft meistr peirianneg (MEng)
    • dyfarniad lefel 7
    • tystysgrif lefel 7
    • diploma lefel 7
    • NVQ lefel 7
    • gradd meistr, er enghraifft meistr yn y celfyddydau (MA), meistr mewn gwyddoniaeth (MSc)
    • tystysgrif ôl-raddedig
    • tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg (TAR)
    • diploma ôl-raddedig

    Lefel 8

    Cymwysterau Lefel 8:

    • doethuriaeth, er enghraifft doethur mewn athroniaeth (PhD neu DPhil)
    • dyfarniad lefel 8
    • tystysgrif lefel 8
    • diploma lefel 8

    Profiad, sgiliau ac oedran

    • Cynlluniwyd y rhaglen gyda’r nod o ddatblygu eich sgiliau rheoli ac arwain. Os oes gennych brofiad rheoli sylweddol, yna nid yw'r rhaglen hon ar eich cyfer chi a dylech archwilio opsiynau datblygu eraill
    • Nid yw profiad gwaith blaenorol yn y gwasanaeth cyhoeddus yn hanfodol. Cewch eich asesu yn erbyn Gwerthoedd ac Ymddygiad Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
    • Nid oes terfyn oedran

    Sgiliau Iaith Gymraeg

    • Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg neu Saesneg
    • Bydd lefelau'r Gymraeg sy'n ofynnol ar gyfer pob swydd/rhanbarth yn amrywio
    • Mae'n bwysig eich bod yn nodi lefel eich Cymraeg pan fyddwch yn llenwi'r ffurflen gais

    Cyngor i ymgeiswyr ag anabledd

    Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch i'ch galluogi i gwblhau'r broses asesu, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda pan fyddwch yn gwneud cais a byddwn yn trefnu hyn ar eich cyfer.

    Cyngor ar gyfer gweithwyr presennol y gwasanaeth cyhoeddus

    Os ydych chi eisoes yn gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus, efallai y bydd eich sefydliad yn cytuno i secondiad am gyfnod y rhaglen, ond nid yw hyn wedi'i warantu a byddai angen trafodaeth ar y mater rhwng eich sefydliad a Llywodraeth Cymru.

  • Cam a dyddiadGwybodaeth
    Cam 1: 28 Mehefin 2021 - 16 Gorffennaf 2021
    Ffurflen ar-lein – manylion personol a chymhwyster sylfaenol
    Mae'r ffurflen gais yn gofyn am fanylion personol sylfaenol ac yn gwirio'ch cymhwysedd i gymryd rhan yn y rhaglen. Os ydych chi'n gymwys, fe'ch gwahoddir i gwblhau prawf ar-lein.
    Cam 2: 28 Gorffennaf - 6 Awst 2021
    Prawf ar-lein – dyfarniad sefyllfaol
    Byddwch yn derbyn adborth ar ôl i chi gwblhau'r prawf, ni waeth a fyddwch chi'n symud ymlaen i'r cam nesaf ai peidio. Os byddwch chi'n llwyddiannus, fe'ch gwahoddir i fynd i ganolfan asesu.
    Cam 3: Medi / Hydref 2021
    Canolfan asesu a Chyfweliad
    Mae'r ganolfan asesu a'r cyfweliad yn cynnwys ymarferion asesu a chwestiynau panel. Byddwch yn derbyn adborth ar eich perfformiad, ni waeth a fyddwch chi'n derbyn cynnig apwyntiad ai peidio.
    Cam 4: Hydref / Tachwedd 2021Cynnig apwyntiad (yn amodol ar wiriadau cyn cyflogi) os byddwch yn llwyddiannus
    Cam 5: Ionawr 2022Dechrau yn y swydd

    Byddwch yn cwblhau'r broses Asesu ar-lein.

    Cyswllt yn ystod y broses ymgeisio

    Os cewch eich gwahodd i gymryd rhan yng ngham nesaf y broses recriwtio, byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost, felly gwnewch yn siwr eich bod yn cadw golwg ar eich blwch derbyn a'ch post sothach yn rheolaidd.

  • Dyddiad dechrau

    Byddwch yn cychwyn ym mis Ionawr 2022.

    Sylwch: ni fyddwch yn gallu gohirio mynediad i'r rhaglen.

    Cyflog

    Cyflog cystadleuol (blwyddyn un: £30,600, blwyddyn dau: £32,540 (yn amodol ar berfformiad a dyfarniad cyflog posib).

  • Cefnogir eich datblygiad trwy gydol y rhaglen gan Academi Wales.

    Fel rhan o Lywodraeth Cymru, Academi Wales yw'r ganolfan ragoriaeth ar gyfer arweinyddiaeth gwasanaeth y cyhoedd yng Nghymru, ac mae’n cefnogi arweinwyr ar bob lefel ar draws gwasanaeth y cyhoedd yng Nghymru.

    Mae'r rhaglen ddatblygu hon gan Academi Wales yn rhedeg ar draws eich lleoliad 22 mis a byddwch yn cael eich rhyddhau o'r gwaith er mwyn i chi allu mynychu. Er mwyn eich helpu i ddatblygu fel arweinydd, byddwch yn mynychu cyfuniad o weithdai, sesiynau prif siaradwyr a myfyrdod. Byddwn yn eich helpu i ddeall Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a byddwch yn rhannu eich profiadau gyda golwg ar sut y caiff ei gweithredu ar draws Cymru.

    Mae hon yn rhan bwysig o'ch datblygiad yn ystod y rhaglen ac mae’n ofynnol eich bod yn mynychu.

    Sut y caiff eich cynnydd ei fesur

    Byddwch yn dilyn proses Rheoli Perfformiad Llywodraeth Cymru ac yn gweithio gyda chynrychiolwyr Academi Wales, yr arweinydd graddedig a'r rheolwr llinell yn eich sefydliad. Bydd gennych amcanion clir a byddwch yn defnyddio tystiolaeth i ddangos sut mae eich gwaith yn cyfrannu at gyflawni eich amcanion.

  • Byddwch yn astudio tuag at ennill gradd Meistr wedi'i hariannu'n llawn. Rhaid i chi ennill y cymhwyster hwn er mwyn graddio o'r rhaglen.

    Cewch eich rhyddhau o'r gwaith er mwyn gallu cwblhau’r modiwlau a addysgir ar gyfer y radd Meistr. Byddwch yn astudio cyfres o fodiwlau sy'n gysylltiedig â'r heriau arweinyddiaeth sy'n wynebu'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

    Ymgeiswyr sydd â Gradd Meistr neu gymhwyster academaidd uwch

    Hyd yn oed os oes gennych gymhwyster gradd Meistr neu gymhwyster academaidd uwch yn barod, bydd gofyn i chi gwblhau'r radd Meistr sy’n benodol i’r rhaglen gan y bydd hyn yn cyflwyno'r theori a'r wybodaeth i gefnogi'ch datblygiad fel arweinydd gwasanaeth cyhoeddus.

  • Sut alla i ddod i wybod mwy am Werthoedd ac Ymddygiad Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru?

    Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanwl am y ddau beth hyn ar wefan Academi Wales:

    Pa fath o gyfleoedd gwaith y gallaf ddisgwyl eu cael ar ôl imi gwblhau'r rhaglen i raddedigion?

    Ar ôl cwblhau'r rhaglen i raddedigion yn llwyddiannus, rydym yn eich annog i aros yn gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru am dair blynedd.

    Am faint mae'r rhaglen yn para?

    Bydd y Rhaglen yn para am 22 mis; fodd bynnag, carem eich annog i aros yn gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru am dair blynedd ar ôl y rhaglen.

    Oes rhaid i mi fod yn siaradwr rhugl yn y Gymraeg i wneud cais i’r rhaglen?

    Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg neu Saesneg. Bydd lefelau'r Gymraeg sy'n ofynnol ar gyfer pob swydd/rhanbarth yn amrywio. Mae'n bwysig eich bod yn nodi lefel eich Cymraeg pan fyddwch yn llenwi'r ffurflen gais.

    Nid wyf yn un o raddedigion Cymru, a oes modd i fi ddal i wneud cais?

    Oes, mae'r rhaglen hon yn agored i bawb sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol.

    Alla’ i wneud cais os oes gen i radd o wlad arall?

    Rydym yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â graddau o wledydd tramor, ar yr amod eich bod yn gallu darparu tystiolaeth bod eich gradd ar lefel gymharol â'r hyn sy'n ofynnol gan Raglen Cymru Gyfan ar gyfer Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw darparu dogfennaeth briodol (gan gynnwys unrhyw gostau).

    Mae'r UK ENIC (Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol am Gydnabyddiaeth Academaidd) yn darparu gwybodaeth am gymaroldeb gwahanol gymwysterau rhyngwladol. Ni fyddem fel arfer yn gofyn am dystiolaeth o'r fath nes bod eich llwyddiant wedi’i ddatgan: byddai ei hangen wedyn ar gyfer ein gwiriadau cyn apwyntiad.

    Beth os cynigir lle i mi a finnau wedyn yn methu ennill gradd dosbarth 2: 1?

    Rhaid i chi ennill dosbarth 2: 1 neu uwch i fod yn gymwys i gymryd rhan yn y Rhaglen. Byddai unrhyw gynnig yn cael ei dynnu'n ôl os na fyddwch yn cyflawni hyn.