English

Rhaglen Darpar Aelodau Bwrdd

  • Cynulleidfa
    Yn agored i bobl sy'n byw yn y DU sy'n nodi eu bod o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol, gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

  • Dyddiadau
    Mai 2025 - Mai 2026

  • Lleoliad
    Dysgu cyfunol - bydd y rhaglen yn cynnwys cyfuniad o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a rhithiol. Bydd y Lleoliadau Bwrdd yn cael eu cynnal gyda chyrff iechyd yng Nghymru ac efallai y bydd angen teithio i ymgymryd â nhw.
    Carfan Gogledd Cymru
    Carfan De Cymru

  • Cyfnod
    12 mis

  • Cost
    Dim

Gwybodaeth

Mae’r rhaglen hon yn agored i drigolion y DU o gefndiroedd Du, Asiaidd, lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr, nad ydynt erioed wedi dal swydd bwrdd cyhoeddus, i gefnogi eu penodiad i fyrddau cyhoeddus, gan groesawu’n arbennig y rhai a dangynrychiolir, megis pobl anabl, pobl ifanc o dan 35, a phobl o grwpiau economaidd-gymdeithasol is.

Trosolwg

Mae’r Rhaglen Darpar Aelodau Bwrdd yn rhaglen datblygu arweinyddiaeth 12 mis a gynlluniwyd i gefnogi a pharatoi pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol ar gyfer Rolau Aelod Bwrdd Annibynnol (a elwir hefyd yn Gyfarwyddwyr Anweithredol) o fewn cyrff iechyd yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn ceisio galluogi amrywiaeth ehangach o unigolion i chwarae eu rhan yn nyfodol GIG Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnwys digwyddiadau dysgu, lleoliadau bwrdd, a choetsio annibynnol ym maes arweinyddiaeth.

Bydd y rhaglen yn cynnwys:

  • Digwyddiadau Dysgu: Yn canolbwyntio ar feithrin eich gwybodaeth, dealltwriaeth a hyder i ragori fel Aelod Bwrdd.
  • Lleoliadau Bwrdd: Ennill profiad ymarferol gyda bwrdd, gyda chefnogaeth noddwr sy'n aelod presennol o'r bwrdd.
  • Coetsio Annibynnol ym maes Arweinyddiaeth: Coetsio personol i wella eich sgiliau arwain a’ch datblygiad proffesiynol.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Pwy all ymgeisio

Mae'r rhaglen yn agored i bobl sy'n byw yn y DU sydd:

  • Yn nodi eu bod o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol, gan gynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
  • Erioed wedi bod â swydd ar fwrdd cyhoeddus (Aelod Bwrdd/Aelod Annibynnol/Cyfarwyddwr Anweithredol). Mae hyn yn cyfeirio at benodiadau cyhoeddus yn unig; mae croeso i unigolion sydd wedi bod â rôl ymddiriedolwr ar elusen neu rolau cymunedol gwirfoddol eraill wneud cais.

Cynlluniwyd y rhaglen i gefnogi unigolion o ystod eang o gefndiroedd, ac nid oes angen profiad yn y sector iechyd i wneud cais.

Croesewir yn arbennig geisiadau gan bobl sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd uchod ac sydd hefyd yn aelodau o grwpiau eraill a dangynrychiolir mewn penodiadau cyhoeddus, gan gynnwys:

  • Pobl anabl
  • Pobl iau na 35 oed
  • Pobl o grwpiau economaidd-gymdeithasol is

Sylwch: mae croeso i unigolion sy’n cael eu cyflogi gan y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd wneud cais am y rhaglen Fodd bynnag, mae polisi Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw unigolion yn gymwys i gael eu penodi i fwrdd corff iechyd os ydynt wedi cael eu cyflogi â thâl gan gorff iechyd yng Nghymru yn ystod y 12 mis blaenorol. Felly, er ein bod yn croesawu ymgeiswyr rhaglen sydd mewn cyflogaeth o’r fath ar hyn o bryd, os byddwch yn llwyddiannus ac yn cwblhau’r rhaglen byddech yn parhau i fod yn anghymwys i gael eich penodi i fwrdd corff iechyd yng Nghymru tan 12 mis ar ôl diwedd eich cyflogaeth berthnasol.

Manteision i chi

Byddwch yn:

  • Datblygu eich sgiliau arwain ymhellach ac yn cynyddu eich hyder
  • Dysgu gan aelodau bwrdd profiadol
  • Cael profiad ar lefel bwrdd mewn sefydliadau o faint a chymhlethdod sylweddol
  • Gwella eich dealltwriaeth o Fyrddau GIG Cymru a'u llywodraethiant, rolau a chyfrifoldebau
  • Gwella eich dealltwriaeth o'r broses penodiadau cyhoeddus a sut y gallwch chi ddangos tystiolaeth o'ch addasrwydd
  • Meithrin eich enw da ac adeiladu rhwydweithiau proffesiynol

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y profiad hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Rhannu arweinyddiaeth

Cost

Ni chodir tâl ar gynrychiolwyr a chaiff yr holl gostau teithio eu talu pan fo angen ymgysylltu wyneb yn wyneb.

Sut i wneud cais

Bydd ceisiadau ar gyfer y rhaglen ar agor o 4 Mawrth 2025 tan 18 Mawrth 2025.

Anogir unigolion sydd â diddordeb i ddod i un o'r sesiynau gwybodaeth galw heibio rhithiol.