English

Profiad Uwch Arweinyddiaeth

  • Cynulleidfa
    Uwch arweinwyr sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru

  • Dyddiadau
    Ebrill i Hydref 2023

  • Lleoliad
    Profiad hybrid, cymysgedd o ddigwyddiadau ar-lein a digwyddiadau wyneb yn wyneb
    Carfan Gogledd Cymru
    Carfan De Cymru

  • Cyfnod
    2.5 diwrnod (5 sesiynau dros 7 mis)

  • Cost
    Dim

Trosolwg

Os ydych chi’n uwch arweinydd deinamig a dewr, sy’n benderfynol o gael effaith ehangach drwy arwain ac ysgogi newid o fewn diwylliant o ymddiriedaeth a thrugaredd, yna dyma’r Profiad i chi.

Mae’r Profiad yn cyfuno diagnosteg â thrafodaeth ac adborth datblygiad personol, gan gynnig cefnogaeth a her mewn sesiwn goetsio gynhwysfawr er mwyn gwella myfyrio personol a throsglwyddo dysgu.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Manteision i chi

Fe fyddwch chi’n gallu:

  • archwilio eich ymddygiad personol a’ch arddulliau arwain, awyrgylch y tîm, perthnasoedd a deallusrwydd emosiynol
  • canfod meysydd ar gyfer twf personol a thwf y tîm, a datblygu arweinyddiaeth
  • cyfarfod cydweithwyr o wasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru a gweithio gyda nhw

"...cadarnhaol iawn wrth edrych ar gam nesaf y newid o fewn ein gwasanaeth, a’m rôl i yn hyn o beth. Mae’n ddefnyddiol er mwyn deall diwylliant y sefydliad yn well a sut mae hyn yn effeithio ar fy nhîm"
Cyfranogwr blaenorol

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y Profiad hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Rhannu arweinyddiaeth

Cynulleidfa darged

Ar agor i uwch arweinwyr sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru sy’n:

  • dymuno arwain drwy ansicrwydd, twf a newid yn eu sefydliadau
  • dymuno ailddiffinio ac ailystyried eu dealltwriaeth a’u syniadau eu hunain er mwyn gwella eu harferion arwain
  • arwain o leiaf 3 o bobl

Ymrwymiadau amser

Sesiwn friffio (1.5 awr, ar-lein) - 26 Ebrill 2023

Proffilio (1 diwrnod, yn y cnawd) - 18 Gorffennaf 2023

Sesiwn coetsio 1 (1.5 awr, ar-lein neu yn y cnawd) - 19 Gorffennaf 2023 i 26 Gorffennaf 2023

Sesiwn coetsio 2 (1.5 awr, ar-lein neu yn y cnawd) - 8 Medi 2023 i 15 Medi 2023

Dysgu ar waith (1 diwrnod, yn y cnawd) - 24 Hydref 2023

Sesiwn friffio (1.5 awr, ar-lein) - 25 Ebrill 2023

Proffilio (1 diwrnod, yn y cnawd) - 13 Gorffennaf 2023

Sesiwn coetsio 1 (1.5 awr, ar-lein neu yn y cnawd) - 14 Gorffennaf 2023 i 21 Gorffennaf 2023

Sesiwn coetsio 2 (1.5 awr, ar-lein neu yn y cnawd) - 1 Medi 2023 i 8 Medi 2023

Dysgu ar waith (1 diwrnod, yn y cnawd) - 19 Hydref 2023

Cost

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn hepgor y ffi arferol o £350+TAW ar gyfer y garfan hon.

Sylwch, os dyfernir lle i chi a’ch bod yn tynnu’n ôl, efallai y bydd yn ofynnol i'ch sefydliad dalu'r gost lawn.

Sut i wneud cais

Rhaid i chi allu cymryd rhan yn yr holl weithgareddau sy'n rhan o'r Profiad Uwch Arweinyddiaeth, a rhaid i'ch cais gael ei awdurdodi gan eich rheolwr llinell ac arweinydd DS eich sefydliad (neu gyfwerth). I wneud cais am le, llenwch y ffurflen gais erbyn 10 Mawrth 2023.

Ni dderbynnir ceisiadau ar gyfer y garfan Cymru De bellach.

Gwybodaeth

Sylwch na allwch wneud cais am y ddwy carfan.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y Profiad, edrychwch ar ein gwybodaeth fanwl.