Mwy o wybodaeth

Gweithgareddau
Mae’r Profiad Uwch Arweinyddiaeth yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:
Sesiwn friffio
Bydd y sesiwn friffio rithwir yn eich cyflwyno i'r fformat Profiad a'r hyn y mae angen i chi ei wneud i gwblhau'r cydrannau diagnostig.
Diagnosteg
Byddwch yn ymgymryd â chyfres gynhwysfawr o ymarferion diagnosteg ar-lein, wedi’u datblygu gan Korn Ferry, wedi’u hanelu at archwilio ymddygiad personol ac arddulliau arwain, awyrgylch y tîm, perthnasau a deallusrwydd emosiynol.
Bydd y ddiagnosteg rydych chi wedi'i chwblhau yn cael ei dwyn ynghyd i roi dau adroddiad Arweinyddiaeth i chi, 'About Me' a 'How I Lead'.
Er mwyn i chi gael y gorau o’r Profiad, mae’n hanfodol eich bod yn gallu adnabod o leiaf 3 pherson rydych chi’n eu harwain. Gall hyn fod yn berthynas reoli llinell ffurfiol neu’n berthynas lle rydych chi’n gweithio gyda’ch gilydd mewn ffordd debyg.
Sesiwn broffilio
Yn y sesiwn hon, byddwch yn cyfarfod ac yn gweithio gyda chyd-weithwyr eraill yn y gwasanaeth cyhoeddus ar y Profiad.
Byddwch yn archwilio'r modelau y tu ôl i'r ddiagnosteg fel y gallwch ddeall eich adroddiad pan fyddwch yn ei dderbyn. Bydd eich adroddiad yn rhoi cipolwg i chi i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich sesiynau coetsio. Felly, mae'n hanfodol eich bod yn mynd i’r diwrnod proffilio.
Sesiynau coetsio 1 a 2
Mae'r sesiynau coetsio yn rhan hanfodol o'r Profiad. Mae eich coetsiwr wedi'i achredu ym mhob un o'r ddiagnosteg ond mae'n gweithredu fel coetsiwr, nid hwylusydd adborth.
Dyma lle gallwch chi archwilio'r camau rydych chi am eu cymryd mewn meysydd fel twf personol a thîm a datblygu arweinyddiaeth.
Byddwch chi a'ch hyfforddwr yn cytuno ar ddyddiadau ac amseroedd eich sesiynau coetsio.
Diwrnod dysgu ar waith
Yn y bore, byddwch chi a chyfranogwyr eraill a'u rheolwyr llinell yn dod ynghyd, i rannu eich dysgu a'ch profiadau, ac i ddathlu'r hyn rydych wedi'i gyflawni. Ar ôl cinio, bydd gweithdy datblygu i'ch cychwyn ar ran nesaf eich taith arweinyddiaeth.
Cyflwyno'ch cais
Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer y Profiad hwn. Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu yn seiliedig ar gymhwysedd a datganiadau personol.
Mae’n rhaid cael negeseuon e-bost ar wahân gan eich rheolwr llinell a’ch arweinydd Datblygu Sefydliadol (neu swyddog cyfatebol) er mwyn cwblhau eich cais. Anfonwch eich negeseuon e-bost at AW.DatblyguArweinyddiaeth@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau.
Cofiwch wneud yn siŵr bod eich cais yn cynnwys:
- Caniatâd eich rheolwr llinell sy’n cymeradwyo eich cyfnodau o’r gwaith i astudio
- Caniatâd eich Arweinydd Datblygu Sefydliadol (neu swyddog cyfatebol)
Rheolwr Llinell
Mae’n rhaid i’ch rheolwr llinell gytuno i'r canlynol:
- y cewch ddefnyddio’r cyfnod o’r gwaith i astudio i ddod i holl sesiynau’r Profiad
- y bydd yn dod i gefnogi’ch datblygiad parhaus yn y Diwrnod Dysgu ar Waith
Arweinydd Datblygu Sefydliadol (neu swyddog cyfatebol)
Mae’n rhaid i’ch arweinydd Datblygu Sefydliadol gytuno i'r canlynol:
- cefnogi eich cais
- eich cefnogi i oresgyn unrhyw gyfyngiadau neu rwystrau sy’n ymwneud â rhoi eich dysgu ar waith