English

Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog

Cynulleidfa
Arweinwyr Dylanwadol sydd wedi cael eu henbwebu gan eu sefydliad a fynychodd y gweithdy ar 15 Mehefin 2023

Dyddiadau
5 sesiynau
Medi 2023 i Chwefror 2024

Lleoliad
Yr union leoliad i’w gadarnhau – ond yng nghyffinau Gorsaf Caerdydd Canolog

Cost
Dim ceiniog

Pwy sy’n trefnu?

Trefnir gan: Academi Wales, Is-adran Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a’n partner ni, Cadenza.

Trosolwg

Mae gyda ni uchelgais mawr ar gyfer ein hiaith ni, a chynlluniau lu i droi’r uchelgais yn realiti. Mae’n rhaglen ni, Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog, yn un o’r cynlluniau hyn. Mae’n gyfle i ddod at ein gilydd am ddiwrnod o weithdy gyda chyd-arweinwyr i archwilio ac arbrofi o ran sut mae datblygu diwylliant dwyieithog ein sefydliadau. Croeso i bawb, waeth faint o Gymraeg maen nhw’n ei medru. Y cwbl sydd ei eisiau yw chwilfrydedd, parodrwydd i sgwrsio ac agwedd positif. Canlyniad delfrydol y rhaglen fyddai datblygu’r arweinwyr sy’n mynychu i fod yn bencampwyr diwylliant i’r Gymraeg ffynnu ynddo. Awydd cael gwybod rhagor am ein huchelgais i’r Gymraeg? Piciwch draw i: Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg.

A chithau’n arweinydd dylanwadol, byddwch chi’n rhan o’n cymuned dysgu sydd am gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein sefydliadau fel bo modd i ddiwylliant dwyieithog ffynnu.

Ein taith iaith

Mae pawb ar daith iaith, yn sefydliadau ac yn unigolion. Ac mae pawb ar wahanol gam o’r daith ar wahanol adegau. I rai, megis dechrau byddwn ni, a bydd eraill wedi teithio ymhellach. Bydd y gymuned dysgu yma yn lle i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd, ble bynnag ry’n ni arni ar y daith.

Fe wnaeth y person wnaeth eich enwebu fynychu gweithdy ar 15 Mehefin. Byddan nhw wedi’ch cyfarfod i weithio ar asesiad o waelodlin diwylliant Cymraeg a dwyieithog eich sefydliad. Dewch â’r hyn rydych wedi’i ddarganfod gyda chi i’r sesiwn gyntaf ar 14 Medi. Bydd hyn yn gymorth i ni deilwra sesiynau a thrafodaethau, fel bo pawb yn cael rhywbeth gwerthfawr i fynd nôl i’w sefydliad. Bydd y waelodlin yn gymorth i ni gael syniad clir o beth yw’r man cychwyn ar gyfer gwaith i ddatblygu’r diwylliant arweinyddiaeth o gwmpas dwyieithrwydd.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ffyrdd o weithredu ar y cyd er mwyn gwella ansawdd bywyd i bawb.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Manteision i chi

Byddwch chi’n dysgu am y datblygiadau diweddaraf am y Gymraeg gan arbenigwyr. Ond mae’r rhaglen yn gwneud mwy o dipyn na dim ond cyflwyno gwybodaeth. Byddwn ni hefyd yn edrych ar ein syniadau am y Gymraeg, ein profiadau ohoni, a’n gobeithion ar ei chyfer, drwy lens arweinyddiaeth. Wrth i ni drafod, byddwn ni’n sicrhau bod buddion a heriau posibl yn dod yn fyw wrth i ni ddatblygu’r diwylliant arweinyddiaeth o gwmpas y Gymraeg yn ein sefydliadau.

Bydd y rhaglen yn cyflwyno sefyllfaoedd dwyieithog go iawn gan ganolbwyntio ar:

  • Sut mae modd i ni ddefnyddio a/neu ddatblygu sut ry’n ni’n ymddwyn fel arweinwyr i ‘osod y tôn’ ac i ddangos ein hymrwymiad i ddiwylliant positif o gwmpas y Gymraeg yn ein sefydliadau.
  • Bydd yn edrych ar ba priodweddau personol fydd yn ein helpu ni fel arweinwyr i gyfathrebu’n effeithiol mewn amgylchedd Cymraeg-Saesneg, pa lefel bynnag o Gymraeg sydd gyda ni.
  • Gyda’n gilydd, byddwn ni’n edrych ar syniadau ymarferol i’n helpu ni i ‘wneud’ Cymraeg 2050 yn ein sefydliadau ac i fod yn rhan o’n huchelgais cenedlaethol i gynyddu’r defnydd o’n hiaith ni.

Beth sy ddim yn rhan ohono fe?

  • Fydd y rhaglen ddim yn dehongli neu’n darparu hyfforddiant ar unrhyw agwedd ar gydymffurfedd â rheoliadau neu gyfraith yn ymwneud â’r Gymraeg.
  • Fydd y rhaglen ddim yn canolbwyntio ar ddysgu’r Gymraeg mewn sefydliadau.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Cynulleidfa darged

Arweinwyr Dylanwadol sydd wedi cael eu henbwebu gan eu sefydliad a fynychodd y gweithdy ar 15 Mehefin 2023.

Cost

Dim ceiniog.

Sut i wneud cais

Prin yw’r llefydd ar y cohort yma o’r rhaglen. Mae’r holl lefydd yn gyfyngedig i’r bobl hynny sydd wedi eu henwebu gan yr Uwch Arweinwyr a fynychodd y gweithdy ar 15 Mehefin 2023. Mae’r rhain i gyd wedi eu gwahodd yn bersonol.

Dyddiadau'r rhaglen

Faint o amser fydd ei angen?

Mae tri digwyddiad drwy’r dydd, a hynny wyneb yn wyneb, a dau fore rhwng y rheini pan fyddwn ni’n cwrdd drwy MS Teams.

Bydd peth gwaith darllen ac ychydig o bethau i'w gwneud rhwng y sesiynau. Mae hyn oll wedi’i ddylunio wrth ystyried pa mor brysur mae pawb.

14 Medi 2023, Sesiwn 1: Ble ry’n ni arni o ran dwyieithrwydd a’r Gymraeg?

Wyneb yn wyneb, drwy’r dydd.

  • Dod i adnabod ein gilydd
  • Rhannu lle mae pawb arni: trafodaeth am waelodlin yr asesiad diwylliannol byddwch wedi’i wneud cyn y sesiwn gyntaf yma
  • Chi a’r Gymraeg, eich sefydliad chi a’r Gymraeg: profiadau’r gorffennol a dyheadau ar gyfer ein hiaith ni
  • Cip ar ragfarn ac empathi isymwybodol o ran dwyieithrwydd Saesneg<>Cymraeg
  • Y math o iaith ry’n ni’n ei defnyddio wrth siarad ac ysgrifennu am ddwyieithrwydd

Dysgu ar waith: gwaith rhwng sesiynau.

26 Hydref 2023, Sesiwn 2: Adeiladu’r naratif a’r tîm

Ar-lein, 9yb-12yp gyda seibiannau.

  • Rhoi’r dysgu ar waith
  • Adeiladu’r naratif: diagnosis o’r hyn y mae angen i ni ei newid
  • Dwy iaith ar waith (ein stori ni)
  • Beth arall sydd angen i ni wybod mwy amdano?
  • Datblygu llysgenhadon yn eich sefydliad: neges i’n noddwyr

Dysgu ar waith: gwaith rhwng sesiynau.

7 Rhagfyr 2023, Sesiwn 3: Sut fydd hi’n teimlo pan fyddwn ni’n cyrraedd 2050?

Wyneb yn wyneb, drwy’r dydd.

  • Clymu pethe at ei gilydd: dwyieithrwydd, ein gwerthoedd a’n gweledigaeth sefydliadol ein hunain
  • Dwy iaith ar waith (ein stori ni)
  • Sut gall technoleg ein helpu ni i newid diwylliant?
  • Adeiladu ar gryfderau/mynd i’r afael â’r heriau a godwyd yn y sesiwn ddiwethaf

Dysgu ar waith: gwaith rhwng sesiynau.

18 Ionawr 2024, Sesiwn 4: Cynyddu’n cefnogwyr

Ar-lein, 9yb-12yp gyda seibiant.

  • A sôn am ddwyieithrwydd–sut mae’n mynd?
  • Offer defnyddiol ac ambell i bwt o gyngor ar gyfer dwyieithrwydd bob dydd
  • Profiadau unigolion a sefydliadau o ddwyieithrwydd.

Dysgu ar waith: gwaith rhwng sesiynau.

29 Chwefror 2024, Sesiwn 5: Cynnal y momentwm

Wyneb yn wyneb, drwy’r dydd.

  • Heddiw byddwn ni’n gwahodd ein noddwyr i ymuno â ni i drafod rhannu’r daith hyd yma ac i drafod beth mae modd ei wneud gyda’n gilydd (mewn cymuned ymarfer) ar gyfer dwyieithrwydd at y dyfodol.