Gwaith hwyluso a chefnogaeth wedi’u teilwra
Trosolwg
Gall ein tîm o ymarferwyr arweinyddiaeth profiadol gefnogi arweinwyr ar bob lefel mewn gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau cofrestredig ledled Cymru.
Ein nod yw dod ag arweinwyr o amrywiol sefydliadau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus ynghyd i feithrin rhwydweithio, hwyluso cyfnewid gwybodaeth, a hyrwyddo rhannu arferion gorau.
Gallwn ddarparu:
- Datblygiad ar gyfer Byrddau a phwyllgorau gwasanaethau cyhoeddus.
- Cyrsiau a rhaglenni datblygu arweinyddiaeth wedi'u teilwra
- Sesiynau arwain mewn cynadleddau a digwyddiadau
- Cyngor ac arweiniad ar gyfer arweinyddiaeth a datblygiad sefydliadol
Sut i ofyn am gefnogaeth
Os ydych chi'n gweithio i wasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig yng Nghymru, a’ch bod eisiau trefnu cefnogaeth ar gyfer eich gwaith datblygu arweinyddiaeth, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ffurflen gais isod i roi gwybod i ni:
- pa ganlyniadau yr hoffech eu cyflawni
- faint o bobl fydd yn cymryd rhan a'u swyddi
- eich dyddiad targed. Rydym angen o leiaf 8 wythnos o rybudd.
- manylion y lleoliad(au) a'r offer sydd ar gael
Byddwn yn ystyried pob cais. Rydym yn cynnig ein hamser a'n cefnogaeth heb unrhyw gost; fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i ni godi tâl am ddefnyddio deunyddiau trwyddedig neu ddulliau diagnostig.