Seicoleg Gadarnhaol Gymhwysol
Cynulleidfa
Yn agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru - Agosáu at uwch arweinyddiaeth
Lleoliad
Ar-lein
Hyd
2 oriau
Trosolwg
Mae’r sesiwn hon yn archwilio’r defnydd o seicoleg gadarnhaol yn y gwaith. Yn y sesiwn ymarferol a rhyngweithiol byddwch chi’n dysgu defnyddio’r offerynnau seicoleg gadarnhaol yn seiliedig ar dystiolaeth yn y gweithle.
Y syniad bod llwyddiant yn llifo o hapusrwydd yw un o egwyddorion craidd seicoleg gadarnhaol. Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gallwn ni greu gweithle hapusach a mwy llwyddiannus.
Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma
Byddwch yn darganfod:
- yr un gweithgaredd rhad, dyddiol a all sicrhau cynnydd o hyd at 35 y cant mewn cynhyrchedd ac ar yr un pryd lleihau straen a chynyddu hapusrwydd
- sut gall cynyddu’r gymhareb o sylwadau cadarnhaol yn y gwaith gynyddu cynhyrchedd
- pam fod ‘Meddylfryd Twf’ yn ein galluogi ni i roi adborth cadarnhaol sy’n ysbrydoli pobl i gyflawni eu potensial
- ein bod ni’n gallu cynllunio swyddi fel bod pobl yn profi rhagor o ‘Lif’
Manteision i chi
Byddwch chi’n gallu:
- cymhwyso egwyddorion seicoleg gadarnhaol yn y gwaith
- cynyddu hapusrwydd, boddhad a llwyddiant yn y gwaith i chi ac i bobl eraill drwy weithgareddau ymarferol dyddiol
- datblygu gwell cymhareb o sylwadau cadarnhaol yn y gwaith
- rhoi adborth mwy effeithiol sy’n creu’r Meddylfryd Twf
- cynllunio swyddi a thasgau i gynyddu profiad Llif
- creu ymddygiad cadarnhaol newydd a pharhaol i chi ac i eraill
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Dygnwch a gwydnwch
Datblygu cydweithio a phartneriaethau
Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol
Rhannu arweinyddiaeth
Cynulleidfa darged
Yn agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru:
- Agosáu at uwch arweinyddiaeth - gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau arwain, ac sy'n agosáu at lefel uwch arweinyddiaeth (fel arfer gyda 5 mlynedd neu fwy o brofiad arwain)
Cost
Dim cost i gynrychiolwyr.
Sut i wneud cais
- Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
- Cysylltwch â ni
Datblygu Arweinyddiaeth
- X
Dilynwch ni @AcademiWales #UnGwasanaethCyhoeddusCymru
Prif ddelwedd drwy garedigrwydd: Debbie Olivari (Clwb Camera yr Eglwys Newydd)