Insights Discovery

Cynulleidfa
Agored i staff y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru
Sesiwn rhithwir
3 awr
neu
Sesiwn wyneb yn wyneb
1 diwnod
Trosolwg
Bydd Insights Discovery yn newid y ffordd rydych chi'n gweld eich hun ac eraill. Mae'n gymorth pwerus i’ch helpu tuag at hunanymwybyddiaeth yn eich rôl fel arweinydd. Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn, sy’n defnyddio Insights Discovery, offeryn seicometrig sy'n seiliedig ar seicoleg Carl Jung, yn eich helpu i berfformio ar eich gorau trwy wella eich dealltwriaeth ohonoch chi eich hun ac eraill.
Mae methodoleg Insights Discovery yn defnyddio model pedwar lliw syml a chofiadwy i'ch helpu i ddeall eich arddull, eich cryfderau a'r gwerth rydych chi'n ei gyfrannu i'r tîm. Rydyn ni'n galw'r rhain yn egnïon lliw, a'r cymysgedd unigryw o egni Coch Tanllyd, Melyn yr Haul, Gwyrdd y Ddaear a Glas Ysgafn, sy'n pennu sut a pham mae pobl yn ymddwyn fel y maen nhw.
Bydd meysydd allweddol ar gyfer archwilio a chymhwyso’n cynnwys:
- archwilio dewisiadau personol gan ddefnyddio eich proffil Insights Discovery personol,
- cydnabod a gwerthfawrogi gwahaniaethau eraill, a,
- dysgu sut i addasu eich ymddygiad i ryngweithio ag eraill yn fwy effeithiol.
Manteision i chi
- Mwy o ymwybyddiaeth o'ch ymddygiadau personol gan ddefnyddio proffil personol manwl.
- Gwell perthnasoedd gwaith ag eraill yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth.
- Deall sut i wneud y mwyaf o'ch cryfderau a gwella'ch meysydd ar gyfer datblygu
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Datblygu cydweithio a phartneriaethau
Cynulleidfa darged
Mae'n agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru.
Cost
Nid oes unrhyw dâl.
Sut i wneud cais
Mwy o wybodaeth
Bydd angen i ddysgwyr gwblhau ffurflen werthuso cyn dod i'r gweithdy – mae'n cymryd tua 20 munud i'w chwblhau.
Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
Cysylltwch â ni
Datblygu Arweinyddiaeth
LinkedIn
Dilynwch ni ar Academi Wales
#UnGwasanaethCyhoeddusCymru