Deallusrwydd Emosiynol

Cynulleidfa
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru
Lleoliad
Rhithwir
Hyd
1.5 awr
Cost
Dim cost i gynrychiolwyr
Trosolwg
Mae'r sesiwn ryngweithiol hon yn cynnig cyflwyniad i Ddeallusrwydd Emosiynol a pham ei fod yn bwysig mewn arweinyddiaeth.
Byddwn yn archwilio beth yw Deallusrwydd Emosiynol, sut mae'n wahanol i Gyniferydd Deallusrwydd (IQ), a pham mae'n chwarae rhan mor bwysig yn y ffordd rydyn ni'n ymddangos yn y gwaith. Gyda'n gilydd, byddwn yn myfyrio ar sut y gall datblygu mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth emosiynol ein helpu i arwain yn fwy effeithiol, yn enwedig mewn amgylcheddau heriol neu brysur.
Bydd lle i rannu syniadau, myfyrio ar eich profiadau eich hun, ac ystyried camau bach, realistig y gallech eu cymryd i ddatblygu eich deallusrwydd emosiynol dros amser.
Byddwch yn:
- Archwilio beth yw deallusrwydd emosiynol a pham mae'n bwysig mewn arweinyddiaeth
- Myfyrio ar sut mae eich emosiynau’n effeithio ar eich ymddygiad a'ch perthnasoedd
- Ystyried ffyrdd syml, ymarferol o ddatblygu ymwybyddiaeth emosiynol a’r gallu i reoleiddio emosiynau
- Cysylltu ag eraill a rhannu profiadau arweinyddiaeth
Manteision i chi
- Mwy o ymwybyddiaeth o'ch arferion emosiynol a'ch cryfderau emosiynol
- Syniadau ar gyfer rheoli emosiynau'n fwy effeithiol yn y gwaith
- Sylfeini cryfach ar gyfer cyfathrebu a chydweithio
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol
Cynulleidfa darged
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru:
- Arweinwyr gyrfa gynnar - i'r rhai sydd ar gamau cynnar eu gyrfa arwain, neu'n newydd i'r pwnc, neu'n newydd i'r gwasanaeth cyhoeddus (fel arfer gyda 0 i 5 mlynedd o brofiad arwain).
- Agosáu at uwch arweinyddiaeth - gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau arwain, ac sy'n agosáu at lefel uwch arweinyddiaeth (fel arfer gyda 5 mlynedd neu fwy o brofiad arwain).
Cost
Dim cost i gynrychiolwyr.
Sut i wneud cais
Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
Cysylltwch â ni
Datblygu Arweinyddiaeth
LinkedIn
Dilynwch ni ar Academi Wales
#UnGwasanaethCyhoeddusCymru