Cyfres dosbarthiadau meistr
Trosolwg
Bydd y damcaniaethwyr blaenllaw yn rhai rhyngwladol, cenedlaethol a lleol a byddant yn cynnig syniadau unigryw, rhagweithiol ac arloesol i alluogi arweinwyr y gwasanaeth cyhoeddus i ddefnyddio syniadau'r dyfodol i roi cysyniadau heddiw ar waith.
Manteision i chi
Mae’r gyfres hon o ddosbarthiadau meistr wedi’u datblygu gan Academi Wales. Ei hamcan yw rhoi cyfle i arweinwyr y gwasanaeth cyhoeddus gymryd rhan mewn archwiliad cyfredol o'r heriau y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu yn yr hinsawdd sy’n newid. Gobeithiwn y cewch eich ysbrydoli gan y siaradwyr dawnus ac y byddwch yn achub ar y cyfle i rwydweithio a dysgu oddi wrth y cyfranogwyr eraill yn y dosbarthiadau meistr.
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y gyfres hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Rhannu arweinyddiaeth
Synnwyr strategol
Cynulleidfa darged
Mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at unrhyw un ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru:
- Agosáu at uwch arweinyddiaeth - gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau arwain, ac sy'n agosáu at lefel uwch arweinyddiaeth (fel arfer gyda 5 mlynedd neu fwy o brofiad arwain)
- Uwch arweinyddiaeth - arweinwyr a swyddogion gweithredol uwch / haen uchaf, megis Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr
Cost
Dim cost i gynrychiolwyr.
Sut i wneud cais
- Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
- Cysylltwch â ni
Datblygu Arweinyddiaeth
- X
Dilynwch ni ar X @AcademiWales #UnGwasanaethCyhoeddusCymru