English

Cyflwyno gwelliant parhaus

Cynulleidfa
Agored i sefydliad sector cyhoeddus ac elusen gofrestredig yng Nghymru - Arweinwyr gyrfa gynnar

Lleoliad
Ym mherson

Hyd
1 diwrnod

Nifer o gynrychiolwyr
16 i 20

Trosolwg

Ydych chi eisiau gwella eich gwasanaethau? Ydych chi wedi clywed am welliant parhaus, Syniadaeth Ddarbodus (Lean), Six Sigma neu Meddwl trwy Systemau (Systems Thinking), ond ddim yn siŵr beth yn union ydyn nhw? Hoffech chi ddysgu mwy? Dyma’r gweithdy i chi.

Mae'r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar Welliant Parhaus (CI) a bydd yn rhoi cyfle i chi ddod yn gyfarwydd â’r hanfodion. Byddwch yn dod i ddeall beth yw Gwelliant Parhaus, pam fod angen i ni wella, a beth rydym yn ceisio’i wella. Byddwn yn eich cyflwyno i ddulliau ac offer defnyddiol, a byddwch yn dysgu sut i fabwysiadu dull strwythuredig wrth ddatrys problemau. Byddwn hefyd yn rhoi cyflwyniad ar feysydd rheoli newid a chynaliadwyedd.

Yn y sesiwn ryngweithiol hon, byddwn yn dangos gwelliant ar waith ac yn pwysleisio pwysigrwydd data ar y daith Gwelliant Parhaus.

Manteision i chi

Byddwch yn deall:

  • Cefndir a bwriad gwelliant parhaus
  • Sut i ddatrys problemau mewn ffordd strwythuredig
  • Manteision ac anfanteision yr offer a'r methodolegau canlynol:
  • Syniadaeth Ddarbodus a Gwastraff (Lean and Waste)
  • Six Sigma a DMAIC
  • Meddwl trwy Systemau
  • Y gwahanol gyfnodau o newid a rheoli newid
  • Sut i newid mewn ffordd sy’n gynaliadwy yn y tymor hir

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Cynulleidfa darged

Ar agor i sefydliad sector cyhoeddus ac elusen gofrestredig yng Nghymru. Bydd angen 16 i 20 o gynrychiolwyr arnom er mwyn i’ch staff allu dysgu’n fwyaf effeithiol:

  • Arweinwyr gyrfa gynnar - i'r rhai sydd ar gamau cynnar eu gyrfa arwain, neu'n newydd i'r pwnc, neu'n newydd i'r gwasanaeth cyhoeddus (fel arfer gyda 0 i 5 mlynedd o brofiad arwain)

Cost

Nid oes cost ar gyfer y gweithdy hwn.

Sut i wneud cais

Mae'r rhain yn ddigwyddiadau sy’n cael eu teilwra i'ch sefydliad. I fynegi diddordeb, llenwch ein ffurflen gais am gefnogaeth wedi’i deilwra.