Arwain ar Iâ
Cynulleidfa
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru - Agosáu at uwch arweinyddiaeth
Hyd
3 awr (gan gynnwys amser am egwyl)
Sesiynau’r bore: 10yb i 1yp
Sesiynau’r prynhawn: 1yp i 4yp
Trosolwg
Mae Shackleton wedi cael ei alw’n ‘arweinydd gorau erioed daear Duw, yn ddieithriad,’ ond eto ni arweiniodd dîm gyda mwy na 27 o bobl erioed, methodd gyflawni pob nod a osododd iddo’i hun bron a than yn ddiweddar, nid oes llawer o gof wedi bod amdano ers ei farwolaeth yn 1922. Roedd Shackleton a’i dîm wedi’u hynysu ym môr rhewllyd yr Antarctig am bron i ddwy flynedd, lle gwnaethant oddef tymereddau eithafol, iâ peryglus, gorfod gwneud â llai a llai o fwyd a bod yn gwbl ynysig. Er gwaethaf y rhwystrau a oedd yn ymddangos yn amhosib eu trechu, llwyddodd i grwp i gadw’n gydlynol, yn gydnaws, ac yn fyw diolch byth - ac nid dim ond lwc sy’n gyfrifol am hynny, ond arweinyddiaeth heb ei hail.
Gan dynnu ar stori ryfeddol a gwir taith yr ‘Endurance’, bydd y gweithdy ar-lein addysgiadol, rhyngweithiol ac ysbrydoledig hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol arweinyddiaeth y 'Gwir Ogledd' wrth ymateb i'r heriau, ac yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd, sy'n dod i'r amlwg ar adegau o adfyd, ansicrwydd a newid.
Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma
Manteision i chi
Bydd y gweithdy ar-lein hwn yn eich ysgogi i:
- Ddilyn eich pwrpas gydag angerdd
- Ymarfer gwerthoedd cadarn
- Arwain gyda’ch calon, yn ogystal â’ch pen
- Sefydlu perthnasoedd parhaus
- Arddangos mwy o ffocws a hunanddisgyblaeth
‘Roeddwn i wrth fy modd â hanes Shackleton; doeddwn i’n gwybod dim am yr hanes o’r blaen! Roedd yr ymarferion yn annog pobl i gymryd rhan ac roedd yr hwylusydd yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle, ac yn rheoli’r ‘sgyrsiau’ yn ofalus hefyd.’
Fel arweinydd, bydd gennych lawer i'w ddysgu o’r hanes gafaelgar ac ysbrydoledig hwn am oroesi er gwaethaf popeth, wrth i chi geisio arwain a chyflwyno gwasanaethau’n effeithiol mewn amgylchedd llawn pwysau, sy’n symud yn gyflym ac sydd bob amser yn newid.
"Es i ar y cwrs Arwain ar Iâ (mae’n gas gen i hyfforddiant!), a dyma’r cwrs gorau o bell ffordd… cymaint felly nes y gwnes i ofyn i’m pennaeth a allwn i fynd arno eto! Des i’n ôl i’r swyddfa yn fwrlwm i gyd ac rydw i wedi ei argymell i nifer o’m cydweithwyr." Cyngor Sir Ddinbych
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Dygnwch a gwydnwch
Hyrwyddo arloesi a newid
Datblygu cydweithio a phartneriaeth
Datblygu cydweithio a phartneriaeth
Rhannu arweinyddiaeth
Synnwyr strategol
Cynulleidfa darged
Ar agor i staff y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yng Nghymru:
- Agosáu at uwch arweinyddiaeth - gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau arwain, ac sy'n agosáu at lefel uwch arweinyddiaeth (fel arfer gyda 5 mlynedd neu fwy o brofiad arwain)
Cost
Dim cost i gynrychiolwyr.
Sut i wneud cais
- Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
- Cysylltwch â ni
Datblygu Arweinyddiaeth
- X
Dilynwch ni ar X @AcademiWales #UnGwasanaethCyhoeddusCymru