Arwain ar Gyflymder Ymddiriedaeth

Cynulleidfa
Yn agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru - Agosàu at uwch arweinyddiaeth
Lleoliad
Wyneb yn wyneb
Hyd
1 diwrnod
Trosolwg
Mae Arwain ar Gyflymder Ymddiriedaeth yn weithdy undydd lle byddwch nid yn unig yn archwilio pwysigrwydd hanfodol ymddiriedaeth mewn perthnasoedd ond hefyd yn gwella eich gallu i greu ac arwain timau a sefydliadau ymddiriedaeth uchel. Mae ymddiriedaeth yn ffurfio ac yn cynnal amgylchedd lle mae pobl yn hyderus ac yn hapus; mae hefyd yn gwella cyfathrebu, creadigrwydd, ymgysylltu a chynhyrchiant o fewn timau a sefydliadau.
Nid yw ymddiriedaeth yn rhinwedd sydd gennych chi neu nad oes gennych chi; mae'n sgil y gellir ei dysgu a'i datblygu. Mae datblygu ymddiriedaeth yn eich helpu chi ac aelodau eich tîm i fod yn egnïol ac i fod yn rhan o bethau ac yn galluogi pawb i gydweithio'n fwy effeithiol, gweithredu'n gyflymach a chyflawni canlyniadau cynaliadwy.
Mae'r gallu i feithrin, tyfu, ymestyn ac adfer ymddiriedaeth yn gymhwysedd arweinyddiaeth hanfodol.
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Manteision i chi
- Adeiladu eich 'achos dros ymddiriedaeth' eich hun.
- Cynyddu effeithiolrwydd eich arweinyddiaeth bersonol a pherfformiad eich tîm trwy gymhwyso'r '4 Craidd Hygrededd' a'r '13 Ymddygiad Ymddiriedaeth Uchel'.
- Adnabod 'ymddygiadau ffug' ac ysbrydoli 'ymddiriedaeth glyfar' trwy weithredu gydag uniondeb.
- Paratoi sgyrsiau allweddol i feithrin, tyfu, ymestyn ac adfer ymddiriedaeth.
- Arwain a chysoni eich hun, y tîm a'r sefydliad ag egwyddorion ymddiriedaeth uchel.
Ymddygiadau arwain
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Dygnwch a gwydnwch
Datblygu cydweithio a phartneriaethau
Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol
Rhannu arweinyddiaeth
Cynulleidfa
Agored i holl staff y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru.
- Agosàu at uwch arweinyddiaeth - Gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau arwain, ac sy'n agosáu at lefel uwch arweinyddiaeth (fel arfer gyda 5 mlynedd neu fwy o brofiad arwain).
Cost
Nid oes unrhyw dâl.
Sut i wneud cais
Adnoddau dan sylwDod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
Cysylltwch â niDatblygu Arweinyddiaeth
LinkedInDilynwch ni ar Academi Wales
#UnGwasanaethCyhoeddusCymru