English

Ysgol Haf 2024 - mwy o wybodaeth

Gwnewch gais am Ysgol Haf

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch yr Ysgol Haf.

Mae Barbara yn addysgwr, yn siaradwr, yn hyfforddwr gweithredol ac yn awdur. Mae ei llyfr, 'The Model Black', wedi’i ddisgrifio gan y Financial Times fel “a timely exploration of race in the workplace” ac roedd ar restr fer Gwobrau Llyfrau Busnes 2023.

Gyda gyrfa ddeinamig yn rhychwantu diwydiant, ymgynghori, ac addysg, mae Barbara yn cydweithio â sefydliadau byd-eang ar brosiectau cymhleth, gan gyd-blethu strategaeth fusnes, datblygu arweinyddiaeth, a newid sefydliadol. Mae hi'n llenwi ei gwaith ag egni bywiog, gonestrwydd adfywiol, a phwrpas diwyro.

Mae Barbara yn Athro Gwadd yn Ysgol Reolaeth Rotterdam, yn addysgwr yn Duke Corporate Education, ac yn Athro Ymarfer mewn strategaeth ac arweinyddiaeth yn Hult Executive Education.
Yn ei gyrfa gynharach, bu Barbara mewn swyddi gwerthu a marchnata uwch gyda Fisons Pharmaceuticals, Boots Pharmaceuticals, Boots the Chemist a BASF Pharma, gan weithio ar draws Ewrop, Gogledd America ac Asia.

Mae Barbara yn credu yn ein pŵer cynhenid i ysgogi newid trwy hunanymwybyddiaeth, dealltwriaeth a gwybodaeth. Mae hi'n hyrwyddo hud deialog effeithiol i'n helpu i wneud penderfyniadau mwy empathetig, cynhwysol a dylanwadol.

Mae hi'n hyfforddi arweinwyr ledled y byd, ar draws cleientiaid a chyd-destunau amrywiol, gan weithio yn y foment gyda sensitifrwydd. Wedi’i llywio gan ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Rhydychen, mae Barbara yn hyrwyddo’r cysylltiad hollbwysig rhwng addysg ym maes rheolaeth a chymhwyso ymarferol yn y gweithle, gan roi bywyd i ddamcaniaeth academaidd mewn ffyrdd adfywiol a difyr.

Connor Swenson Coaching Ltd

Mae Natalia Bojanic wedi hwyluso gweithdai mewn ystod eang o leoliadau, o elusennau i gwmnïau cyfreithiol ac mae wedi gweithio gyda chwmnïau ar draws gwahanol ddiwydiannau, megis Lululemon, Amex a CancerCare. Mae ei chefndir addysgu’n amrywiol, gan gyfuno doethineb hynafol o Fwdhaeth Tibet ag ymwybyddiaeth ofalgar seciwlar o Search Inside Yourself, Sefydliad Arweinyddiaeth a ddechreuodd yn Google ac a ddatblygwyd gan arweinwyr meddwl ym maes deallusrwydd emosiynol, ymwybyddiaeth ofalgar a niwrowyddoniaeth. Ar hyn o bryd mae Natalia yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Seicoleg a Niwrowyddoniaeth Iechyd Meddwl yn King's College Llundain.

Mae hi hefyd yn gyd-sylfaenydd Form Nutrition, sef B Corp sy'n defnyddio busnes fel grym er daioni. Mae’n fusnes newydd a ddisgrifiwyd gan y Telegraph fel brand 'sy’n trawsnewid'. Cyn hynny roedd hi'n Gyfarwyddwr Cysylltiadau Cyhoeddus yn y diwydiant nwyddau moethus, yn gweithio i frandiau fel LVMH a Land Rover.

Athro Astudiaethau Trefniadaeth, Ysgol Busnes a Rheolaeth, Prifysgol y Frenhines Mary, Prifysgol Llundain

Mae Nelarine Cornelius yn Athro Astudiaethau Trefniadaeth, Ysgol Busnes a Rheolaeth, Prifysgol y Frenhines Mary, Prifysgol Llundain. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi mewn nifer o gylchgronau a llawlyfrau rhyngwladol.

Cyd-arweiniodd y tîm ymchwil a luniodd yr adroddiad, 'Delivering Diversity, Race and Ethnicity in the Management Pipeline (2017)' ar brofiad rheolwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (BAME) yng nghwmnïau can cwmni'r FTSE (a noddwyd gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig ac Academi Rheolaeth Prydain), ac arweiniodd y tîm ymchwil a ddadansoddodd brofiadau hil yn y gwaith ar gyfer Busnes yn y Gymuned, a gyhoeddwyd yn ‘Voices from the Race at Work Surveys Report 2024'. Ar hyn o bryd mae'n ymgymryd ag ymchwil ar symudedd cymdeithasol mewn ysgolion ac yn y gweithle, a ariennir gan Santander UK.

Mae'n ymgynghori ac yn cynghori'n eang ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a chymdeithasol, yn ogystal â chynnal adolygiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant o’r ‘llawr gwaith i'r bwrdd’. Mae'r Athro Cornelius yn Is-lywydd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) gyda chyfrifoldebau am Aelodaeth a Chymwysterau, ac mae'n arwain ar ymgorffori dysgu Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym meysydd llafur cymwysterau proffesiynol y CIPD newydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gydnabod gan amryw o sefydliadau, gan gynnwys Cymrodoriaethau Academi y Gwyddorau Cymdeithasol ac Academi Frenhinol y Celfyddydau.

Cadeirydd Sero Net 2035 Cymru ac awdur #futuregen

Jane Davidson yw Cadeirydd Sero Net 2035 Cymru ac awdur #futuregen: Lessons from a Small Country – hanes sut y daeth Cymru i fod y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Mae ganddi genhadaeth i brif ffrydio cynaliadwyedd. Mae’n byw ar dyddyn yng ngorllewin Cymru a’i nod yw lleihau ei hôl troed carbon ac ecolegol bob blwyddyn.

Mae hi’n noddwr Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol y DU ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor Emeritws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. O 2000 - 2011, hi oedd y Gweinidog Addysg, ac yna Gweinidog yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yng Nghymru lle cyflwynodd ddeddfwriaeth i wneud cynaliadwyedd yn egwyddor drefniadol ganolog y llywodraeth: daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gyfraith yn 2015.

Cyflwynodd y newidiadau cwricwlwm peilot sydd bellach wedi'u hymgorffori yn y cwricwlwm newydd i Gymru; y tâl cyntaf am fagiau plastig yn y DU, y rheoliadau ailgylchu sydd wedi mynd â Chymru i’r safle trydydd gorau yn y byd, Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, swydd y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, Datblygiadau Un Blaned a Llwybr Arfordir Cymru.

Mae hi’n Gomisiynydd Dyfodol Trefol yr RSA ac yn gyfrannwr rheolaidd i’r rhaglen Addysg Weithredol ar gyfer Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd yn Ysgol Iechyd y Cyhoedd T.H. Chan, Prifysgol Harvard
Daw ei hegwyddor arweiniol oddi wrth John Rawls: ‘Do unto future generations what you would have had past generations do unto you.’

Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Mae Owen Evans yn gyfrifol am arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn ogystal â rheolaeth, staffio a threfniadaeth Estyn. Mae’n rhoi cyngor annibynnol i Weinidogion Cymru, sy’n cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau yng Nghymru. Yn ogystal, mae Owen yn chwarae rôl allweddol yn gweithio’n agos gyda chyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio eraill yng Nghymru, i roi sylfaen i gynllunio a gweithio ar y cyd. Yn ogystal, fel Swyddog Cyfrifyddu Estyn, mae’n sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n briodol a’u bod yn rhoi gwerth am arian. Yn ogystal, mae’r Prif Arolygydd yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar safonau ac ansawdd addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Cafodd Owen, sy’n Gymro Cymraeg, ei addysg yn Ysgol Penweddig a Choleg Ceredigion, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ymunodd Owen ag Estyn o’i swydd fel Prif Weithredwr S4C, y darlledwr Cymraeg. Cyn ymuno ag S4C, roedd yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus. Rhwng 2008 a 2010, roedd yn gyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned Cymru, ac am 10 mlynedd cyn hynny bu’n gweithio i BT, gan gynnwys fel aelod o dîm y DU yn datblygu strategaeth band eang BT. Mae wedi gwasanaethu fel aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn flaenorol bu’n gadeirydd Bwrdd Datblygu Addysg Caerdydd.

Ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd cynghori Marie Curie yng Nghymru, yn rhan o’r rhaglen Siaradwyr i Ysgolion ac mae’n gadeirydd WEPCo. Mae’n aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth.

Pennaeth Prosiect 2050 yn Llywodraeth Cymru

Dr Jeremy Evas yw Pennaeth Prosiect 2050 yn Llywodraeth Cymru. Cyn hyn roedd yn Bennaeth Hybu’r Gymraeg a Newid Ymddygiad yn Llywodraeth Cymru ac yn ddarlithydd mewn polisi a chynllunio iaith yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Strategol Comisiynydd y Gymraeg, ac yn Gyfarwyddwr Polisi a Chynllunio Corpws ym Mwrdd yr Iaith Gymraeg gynt. Ei brif ddiddordebau yw canfod a gweithredu sbardunau ymddygiadol ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

Mae wedi goruchwylio’r traethodau doethuriaethol ar saernïo dewis iaith, awtomeiddio cyfieithu, a seicoleg ymddygiadol (fel y’i cymhwysir i ryngweithio rhwng cyfrifiaduron a bodau dynol). Mae hefyd wedi cyhoeddi ymchwil ar y ffactorau sy’n effeithio ar drosglwyddo’r Gymraeg rhwng cenedlaethau. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth Rhwystrau ar Lwybr Dwyieithrwydd, o dan oruchwyliaeth yr Athro Colin H. Williams yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn 1999.

Yn Llywodraeth Cymru, mae’n gyfrifol am raglenni i gynyddu’r defnydd anffurfiol o’r Gymraeg mewn plant oedran ysgol, trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd, technoleg a’r Gymraeg, y Gymraeg yn y sector preifat ac agweddau ar y Gymraeg fel iaith gwaith. Mae’n gweithredu rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog ar y cyd ag Academi Wales ac mae’n hwylusydd ar Ysgol Haf a Gaeaf Academi Wales. Y tu allan i’r gwaith, fel arfer bydd i’w ganfod ar ei feic ar ben mynydd.

Mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, yn Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yn Ieithydd Siartredig, ac yn Gymrawd y Chartered Institute of Linguists.

Wedi'i ddisgrifio fel 'y guru arweinyddiaeth cyntaf ar gyfer y genhedlaeth ddigidol' a'r 'llais mwyaf ffres ym maes arweinyddiaeth heddiw', mae Emmanuel wedi cynghori sefydliadau ledled y byd ar ddatblygu arweinwyr, sefydlu timau, a newid diwylliant.

Mae’n un o siaradwyr mwyaf poblogaidd Ewrop ym maes arweinyddiaeth, ac yn awdur a chyd-awdur 7 llyfr sydd wedi bod yn werthwyr gorau yn y DU a'r Unol Daleithiau, ac mae'r diweddaraf ohonynt 'This is Not a Leadership Book' a gyhoeddwyd gan Routledge wedi sicrhau ei fod yn cael ei ystyried yn un o feddylwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes rheolaeth.

Ers dros 20 mlynedd mae ei waith wedi bod yn seiliedig ar ei fantra - 'mae'n rhaid bod ffordd well a gyda'n gilydd gallwn ddod o hyd iddi’.

Daw Emmanuel o Ffrainc a symudodd i'r DU ym 1985. Mae ganddo Fagloriaeth Ryngwladol o Goleg yr Iwerydd, MA (Anrh) o Brifysgol St Andrews a Diploma mewn Gwyddor Rheolaeth o Brifysgol Nottingham Trent. Mae’n dad i ddau o blant (Charlotte a George) sydd bellach yn oedolion, ac mae Emmanuel yn byw yn Llundain gyda'i wraig Katherine Thomas.

Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Penodwyd Dr Andrew Goodall i rôl Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021 ac mae’n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru wrth gyflawni blaenoriaethau’r Prif Weinidog ac yn gweithredu fel Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer Llywodraeth Cymru. Cyn hyn bu'n Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, swydd yr oedd wedi'i dal ers mis Mehefin 2014.

Mae Dr Goodall wedi bod yn Brif Weithredwr GIG yng Nghymru ers 16 mlynedd. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, swydd a oedd ganddo o ddechrau’r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2009 tan 2014 ar ôl ad-drefnu’r GIG i fodel Byrddau Iechyd integredig. Yn ystod ei yrfa 30 mlynedd yn y GIG, mae Dr Goodall wedi dal swyddi cynllunio a gweithredol ar draws nifer o sefydliadau GIG ar draws De Cymru yn ogystal â rolau cenedlaethol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn gwella diogelwch cleifion, ansawdd a phrofiad y claf; gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus; a darparu gwasanaethau rheng flaen drwy wella a moderneiddio gwasanaethau.

Mae gan Dr Goodall radd yn y gyfraith o Brifysgol Essex a Doethuriaeth mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd o Ysgol Busnes Caerdydd. Dyfarnwyd CBE i Dr Goodall yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2018 am ei wasanaethau i’r GIG ac i wasanaethau cyhoeddus

Academi Wales

Mae Ian yn gweithio i Academi Wales, Llywodraeth Cymru, yn rhedeg ei fusnes datblygu arweinyddiaeth a hyfforddi ei hun, a dychwelodd i'r GIG yn ystod pandemig COVID-19 lle bu'n gweithio'n rhan-amser fel nyrs staff. Mae Ian wedi bod mewn swyddi arweinyddiaeth a rheoli uwch mewn amrywiaeth o leoliadau sefydliadol, wedi cyflwyno llawer o bapurau arloesol ar arweinyddiaeth, hyfforddi a mentora mewn Cynadleddau yn y DU ac Ewrop, yn ogystal ag mewn cyhoeddiadau cyfnodolion. Yn flaenorol bu'n swyddog yng Ngwasanaethau Meddygol y Fyddin.

Agwedd Ian at fywyd yw 'byw bob dydd gyda phwrpas, ffydd ac angerdd, bod yn fodlon dysgu a pharhau i ddysgu o hyd'; mae’n ymdrechu i gael cydbwysedd iach mewn bywyd drwy weithgareddau sy'n cynnwys chwarae'r piano a'r gitâr, canu, actio, gwirfoddoli, gwylio adar, cerdded bryniau a physgota â phlu.

Microsoft

Yn Microsoft, mae fy rôl i fel Uwch Arbenigwr Technegol Azure yn golygu meithrin diwylliant ac arloesedd Data ac AI ar draws y Sector Cyhoeddus. A defnyddio strategaethau AI a data i saernïo atebion sy’n cyd-fynd ag amcanion y sefydliad ac wedi eu hadeiladu gydag arferion llywodraethu data ac AI cyfrifol.

Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Corfforaethol ac Arolygiaethau, Llywodraeth Cymru

Penodwyd Tim yn Brif Swyddog Gweithredu ym mis Medi 2022, ac mae'n gyfrifol am ystod o swyddogaethau corfforaethol gan gynnwys Cyllid, y Trysorlys, Adnoddau Dynol, Ystadau, Diogelwch, Cyfreithiol, Data Digidol a Thechnoleg, Masnachol a Chaffael yn ogystal â goruchwylio tair arolygiaeth annibynnol, Arolygiaeth Gofal Cymru, Arolygiaeth Iechyd Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.

Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, ef oedd Prif Weithredwr y Swyddfa Eiddo Deallusol, lle'r oedd yn gyfrifol am gynghori Gweinidogion ar yr holl faterion polisi eiddo deallusol ac am weithrediad y Swyddfa.

Daeth Tim i'r Swyddfa Eiddo Deallusol o Dŷ'r Cwmnïau lle'r oedd yn Gofrestrydd Cwmnïau i Gymru a Lloegr a Phrif Weithredwr. Bu'n gweithio yn Nhŷ'r Cwmnïau ers 2002 lle bu ganddo nifer o uwch swyddi gwahanol o fewn y sefydliad. Roedd ei bortffolio gwaith helaeth yn cynnwys arwain ar yr agenda digidol, cyflawni gweithredol, strategaeth fusnes a pholisi corfforaethol.

Mae gyrfa Tim hefyd yn cynnwys 12 mlynedd mewn uwch rolau gweithredol yn y diwydiant gweithgynhyrchu; mae ganddo radd yn y Gwyddorau Naturiol o Brifysgol Caergrawnt, MBA o Brifysgol Abertawe ac mae'n byw ar fferm yn Ne Cymru ac yn briod gyda dau o blant. Derbyniodd CBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2016 am wasanaethau i'r economi a phobl Abertawe.

Arbenigwr cyfathrebu unigryw

Mae Neil Mullarkey yn arbenigwr cyfathrebu unigryw. Efallai y byddwch yn ei adnabod o'i berfformiadau yn 'Whose Line Is It Anyway' a dwy ffilm 'Austin Powers'. Mae'n dal i berfformio bron bob dydd Sul gyda'r Comedy Store Players, sef y cwmni byrfyfyr gorau yn Ewrop, a sefydlodd ar y cyd â Mike Myers. Ond mae bellach yn teithio'r byd gan ddod â sgiliau theatr, ac yn arbennig sgiliau byrfyfyr, sy'n canolbwyntio ar greadigrwydd, cydweithredu ac arweinyddiaeth, i gleientiaid gan gynnwys EY, Deloitte, Vodafone, Accenture ac Unilever.

Mae ei lyfr newydd, 'In The Moment'  wedi'i enwebu ar gyfer Gwobrau Llyfrau Busnes 2024.
Dywed Matt Brittin (Llywydd Google yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica), ‘Mae model Neil a sut mae'n ei roi ar waith mewn gwahanol ffyrdd yn syml iawn ond yn bwerus. Mewn byd sy'n fwy cyfnewidiol ac ansicr nag erioed, mae angen arweinwyr ar fusnesau sy'n gallu bod yn hyblyg, yn addasol, yn arloesol. Mae Neil wastad wedi hyrwyddo hyn yn wych, ond heb y jargon busnes. ’

Ewch i http://neilmullarkey.com/ am fwy o wybodaeth. (Ac, ie, Mullarkey yw ei enw iawn)

Coaching On the Go

Dechreuodd Dr Phil Renshaw ei yrfa mewn bancio a thrysorlys rhyngwladol, gan fynd ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Cyllid yn y sector TG. Fe gymerodd 20 mlynedd cyn iddo sylweddoli nad canolbwyntio ar "y rhifau" yn unig yw'r llwybr at lwyddiant busnes a llwyddiant sefydliadol, ond yn hytrach y gydnabyddiaeth mai "pobl yw popeth". Wrth i Phil symud i faes arweinyddiaeth a datblygiad, gwawriodd rhywbeth arall arno - mae ein hymdrechion i feithrin sgiliau hyfforddi i arweinwyr a rheolwyr yn gwastraffu llawer iawn o amser ac arian oherwydd ein bod yn methu deall nad yw arweinydd sy'n hyfforddi yn defnyddio eu sgiliau yn yr un modd â hyfforddwyr proffesiynol. Yn hytrach, maent yn hyfforddi wrth weithio.

Cenhadaeth Phil, ochr yn ochr â'i bartner busnes a'i gyd-awdur, Dr Jenny Robinson, yw ein rhyddhau ni i gyd i fod yn arweinwyr sy’n hyfforddi. Maent wedi datblygu teclyn arloesol ac unigryw yn fyd-eang sy'n seiliedig ar ymchwil i unrhyw un ddatblygu'r sgiliau hyn. Fel y dywedodd Marshall Goldsmith am eu llyfr: "Mae arweinwyr llwyddiannus yn cyflawni newid trwy hyfforddi effeithiol. Mae'r llyfr hwn yn dangos y ffordd, gan ddechrau heddiw." Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn derbyn copi am ddim o'n llyfr 'Coaching On the Go’.

Burnoutologist

Burnoutologist yw Kelly, ac mae hi’n helpu Arweinwyr mewn byd gwaith newidiol i amddiffyn eu hunain ac eraill rhag gorweithio.

Mae hi’n adnabyddus am fod yn dipyn o rebel, ac mae hi wedi bod torri ei chŵys ei hun er 2002, pan sylweddolodd nad yw’n dulliau o weithio yn gweithio bellach, a bod y ffyrdd rydym yn cael ein dysgu i ddiffinio llwyddiant yn hen ffasiwn.

Pan fyddwn ni’n caniatáu i ni’n hunain, fel yr ydym mewn gwirionedd, fyw ac arwain, gallwn fwynhau llwyddiant ar ein telerau ein hunain ac yn ein ffordd ein hunain, heb deimlo’n euog, heb orflino, a heb orweithio.

Erbyn hyn, mae Kelly’n helpu arweinwyr o bedwar ban byd i ganfod llwyddiant heb orfod ildio eu gyrfaoedd neu beryglu eu llesiant, a hynny trwy gydnabod mai pobl ydyn nhw hefyd, rhywbeth sydd yn ei dro’n creu amgylcheddau gwaith sy’n well i bawb…

Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (LDBCW) ac Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Cymru (BCW)

Shereen Williams MBE OStJ DL yw Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (LDBCW) ac Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Cymru (BCW). Mae hi wedi gweithio mewn amrywiaeth o wahanol sectorau yn ystod ei gyrfa, gan gynnwys diwygio etholiadol, cydlyniant cymunedol, a’r gwasanaethau cyhoeddus.

Am 4 blynedd bu'n arwain rhaglen ddiwygio etholiadol uchelgeisiol ledled Cymru, rhaglen a berodd y newidiadau mwyaf helaeth i drefniadau etholiadol llywodraeth leol mewn dros ddau ddegawd, ac a ddilynwyd gan Adolygiad Etholaethau Seneddol 2023 a arweiniodd at sefydlu 32 etholaeth seneddol newydd Cymru. Yn nes ymlaen eleni, bydd yn dechrau’r adolygiad o Etholaethau'r Senedd, pan fydd LDBCW yn cael ei drawsnewid i fod yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Cyn hyn, treuliodd bron i ddegawd yn gweithio ym maes llywodraeth leol fel Rheolwr Cysylltu Cymunedau gydag Awdurdodau Lleol Casnewydd a Sir Fynwy, a chyn hynny hi oedd Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol Dwyrain Gwent. Hi fu’n rheoli’r tîm a oedd â chyfrifoldeb dros gyflawni blaenoriaethau strategol, gan gynnwys ymfudo, gwrtheithafiaeth a chydraddoldeb.

Dros yr 17 mlynedd diwethaf, mae wedi gwirfoddoli mewn nifer o wahanol rolau yn y Trydydd Sector yn ogystal ag â chyrff statudol, ac ar hyn o bryd mae'n un o ymddiriedolwyr Ambiwlans St John Cymru a'r Sefydliad Materion Cymreig. Yn 2010, derbyniodd Wobr Cydnabod Llwyddiant Llywodraeth Cymru am wasanaethau i Gydlyniant Cymunedol gan Brif Weinidog Cymru ar y pryd, y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC. Yn 2017, cafodd MBE er anrhydedd am ei gwasanaeth i’r gymuned, ac yn 2018 cafodd ei chydnabod yn Her Arweinwyr Dylanwadol yr AACSB, sy'n anrhydeddu cyn-fyfyrwyr rhyngwladol nodedig o ysgolion busnes sydd wedi'u hachredu gan AACSB. Ar ôl cael ei hurddo fel Swyddog Urdd St John ym mis Chwefror 2020, cafodd ei phenodi'n Ddirprwy Raglaw yng Ngwent ym mis Tachwedd 2021.

Yn 2023, fe'i gwahoddwyd gan Lywodraeth Cymru i gadeirio'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd, sy'n canolbwyntio ar yr heriau y mae Cynghorau Cymuned a Thref yn eu hwynebu o ran ymgysylltu a chyfranogi.

Pan nad yw’n gweithio, mae hi'n ynad ar fainc Gwent ac yn llywodraethwr mewn dwy ysgol gynradd Gymraeg yng Nghasnewydd.

Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar y rhaglen hon, a ddyfernir drwy broses ddethol gystadleuol. Mae’n bwysig eich bod yn cyflwyno amcanion a chanlyniadau cryf sy’n cyd-fynd â chi’ch hun a’ch sefydliad. Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais.

Er mwyn sicrhau bod y grwp cynrychiolwyr yn elwa o gymysgedd perthnasol o brofiad rydym yn defnyddio nifer o feini prawf i ddidoli ceisiadau gan gynnwys cymhelliant i wneud cais a sut y bydd ymgeiswyr yn cymhwyso’r dysgu er budd eu hunain, eu sefydliad, a’r gwasanaeth cyhoeddus ehangach, ystyrir hefyd yn cael ei roi i gynrychiolaeth sector a rhanbarthol.

Bydd lleoedd yn cael eu dyfarnu i'r ymgeiswyr hynny sy'n darparu amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Haf ac sy'n gallu dangos eu hadenillion ar fuddsoddiad.

Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais:

  • Amcanion Personol- Yn gryno, disgrifiwch eich rôl arwain a’ch cyfrifoldebau ar hyn o bryd (rhwng 100 a 150 gair)
  • Amcanion yr Adran/Sefydliad- Beth yw eich amcanion dysgu ar gyfer yr Ysgol Haf? (rhwng 100 a 150 gair)
  • Datganiad Canlyniadau Personol- Sut bydd yr Ysgol Haf yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn eich gwaith? Sut byddwch chi'n defnyddio'r gwersi a ddysgir? (rhwng 100 a 150 gair)

Mae deilliannau dysgu’n ddatganiadau sy’n disgrifio dysgu arwyddocaol a hanfodol y mae dysgwyr wedi’i gyflawni ac y gallant ei arddangos mewn ffordd ddibynadwy ar ôl yr Ysgol Haf. Mewn geiriau eraill, mae deilliannau dysgu’n dangos yr hyn y byddwch yn gallu ei wneud erbyn diwedd y rhaglen.

Dylai deilliannau dysgu:

  • Adlewyrchu gwybodaeth, sgiliau neu ymddygiadau hanfodol
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau’r profiad dysgu
  • Adlewyrchu canlyniad dymunol y digwyddiad, nid y dull na’r broses
  • Bod o leiaf 100 gair a hyd at 150 o eiriau.

Esiampl o beth sy'n addas mewn cais -

Fel Pennaeth Gwasanaeth yn yr awdurdod, rhan o fy rôl yw adeiladu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol (ac wedi’u datblygu’n gydweithredol). Mae angen i mi allu ymgysylltu’n llawn â fy rhanddeiliaid a fy nhîm i helpu i fwrw ymlaen â’r agenda hon. Rwyf yn gallu adeiladu ar fy sgiliau drwy gael dealltwriaeth o’r pecynnau cymorth a’r technegau sy’n gallu helpu i ymgysylltu’n effeithiol ag eraill.

Mae’r amcan hwn yn rhan allweddol o fy nghynllun datblygiad personol a bydd yn cael ei fesur fel rhan o fy mherfformiad cyffredinol. Ar ôl dychwelyd i’r gwaith ar ôl yr Ysgol Haf, byddaf yn adolygu fy nysgu gyda fy rheolwr ac yn ystyried sut y gall fy helpu i gwblhau fy ngweithredoedd.

Rwyf yn awyddus i glywed mwy am waith Emmanuel Gobillot ar ymgysylltu â chyflogeion a’u lles; yn enwedig yng ngoleuni’r heriau mae fy nhîm yn eu hwynebu wrth geisio cyflawni ein hamcanion busnes yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Ar ddiwedd wythnos yr Ysgol Haf, rwyf yn bwriadu creu cynllun gweithredu i fy helpu i drosi dysgu’r wythnos i weithredoedd drwy ddefnyddio’r pecynnau a’r technegau rwyf yn eu dysgu, ynghyd ag arferion da, meddwl newydd a chymorth cymheiriaid. Byddaf yn cwrdd â fy Mhrif Weithredwr ym mis Gorffennaf i adrodd yn ôl ar yr Ysgol Haf a fy nghynllun gweithredu.

Esiampl o beth sy'n anaddas mewn cais -

Rwyf yn disgwyl gwella fy sgiliau ymgysylltu yn yr Ysgol Haf drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a thrwy wrando ar y siaradwyr.

Mae’n bwysig fy mod yn meddu ar y sgiliau hyn i fy ngalluogi i wneud fy ngwaith.

Mae rhaglen yr Ysgol Haf yn ymddangos yn ddiddorol dros ben a dylai nifer o’r sesiynau fy helpu gyda fy nysgu a fy natblygiad.

Esiampl o beth sy'n addas mewn enghraifft bersonol -

O ganlyniad i fynychu’r Ysgol Haf, byddaf yn deall fy sgiliau ymgysylltu’n well, gan gynnwys fy nghryfderau a meysydd i’w gwella. Bydd yr wybodaeth hon, ynghyd â fy nghynllun gweithredu o’r Ysgol Haf, yn fy helpu i asesu fy nghynnydd yn y maes hwn yn ystod y 12 mis nesaf. Bydd hyn hefyd yn cael ei drafod a’i fesur fel rhan o’r broses o adolygu fy nghynnydd gyda fy rheolwr.

Esiampl o beth sy'n anaddas mewn enghraifft bersonol -

Hoffwn fynychu’r Ysgol Haf fel yn gallu bod yn arweinydd sy’n ymgysylltu’n well.

Esiampl o beth sy'n addas mewn enghraifft sefydliadol -

O ganlyniad i fynychu’r Ysgol Haf, byddaf yn gallu defnyddio amrywiaeth o becynnau a thechnegau i ymgysylltu ag eraill yn y broses o ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau, annog rhanddeiliaid, cymunedau ac unigolion allweddol i gyfrannu at hyn ac i berchnogi’r canlyniadau.

 

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i fy ngwaith gyda thimau gwasanaethau brys yng Nghanolbarth Cymru, i ystyried sut y gallwn ddatblygu gwasanaeth mwy ymatebol, cydlynus sy’n berthnasol i gymunedau yn yr ardal.

 

Ym mis Gorffennaf, byddaf yn trefnu sesiwn ar gyfer fy nhîm i rannu’r pecynnau a’r technegau a ddysgwyd yn yr Ysgol Haf ac i ymgorffori’r rhain yn ein cynlluniau ar gyfer y tîm er mwyn bwrw ymlaen â’n prif amcanion busnes. 

 

Esiampl o beth sy'n anaddas mewn enghraifft sefydliadol -

Rwyf eisiau gallu ymgysylltu'n well ag eraill a gobeithiaf y bydd yr Ysgol Haf yn rhoi'r sgiliau i mi i wneud hyn.

£600 + TAW. Mae hyn yn cynnwys:

  • Mynediad at raglen ddysgu lawn yr Ysgol Haf
  • Pecyn cynrychiolydd
  • Llety (nos Fawrth 25 Mehefin i nos Iau 27 Mehefin 2024)
  • Brecwast, cinio a phryd nos yn ystod y digwyddiad

Rhaid i chi dalu unrhyw gostau cysylltiedig personol, megis teithio i’r digwyddiad ac yn ôl, papurau newydd, bil bar ac yn y blaen.

Sylwch, os tynnwch yn ôl o’r Ysgol Haf ar ôl i le gael ei ddyfarnu i chi, efallai y bydd yn ofynnol i'ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.

Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau i dalu 100% o gost cynadleddwyr Ysgol Haf 2024. Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir, grwpiau lleiafrifol a difreintiedig a/neu lle mae gan sefydliadau cyflogi arian cyfyngedig.

I wneud cais am fwrsariaeth

Rhowch dystiolaeth eich bod yn bodloni’r cymhwysedd (50 i 100 gair). Mae angen i’ch ymateb alinio â’r meini prawf isod:

  • Rydych chi’n rhan o grwp sy’n cael ei dangynrychioli, grwp lleiafrifol neu grwp difreintiedig o fewn eich sefydliad trydydd sector neu sector gwirfoddol.
  • Maint eich sefydliad.

Mae Academi Wales yn rhan o Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi ddarparu'r manylion canlynol yn eich cais:

  • Enw’r sefydliad sy'n talu i chi fod yn bresennol
  • Enw a chyfeiriad y swyddog bilio
  • Cyfeiriad e-bost y swyddog bilio

Cyflenwr: Llywodraeth Cymru
Cyfeiriad cyflenwr: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ

I gadarnhau eich lle, rhaid i chi roi rhif archeb brynu i ni. Byddwn yn anfonebu eich sefydliad am eich ffi cynadleddwyr ar ôl yr Ysgol Haf.

Gellir talu hefyd â cherdyn credyd busnes trwy Gov.pay.

Os oes angen rhagor o fanylion arnoch am y gofynion anfonebu, cysylltwch â'n tîm cyllid yn AW.Busnes@llyw.cymru.

Mae Academi Wales yn rhan o Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi ddarparu'r manylion canlynol yn eich cais:

  • Cyfeiriad e-bost rheolwr cyllid cangen

I gadarnhau eich lle, rhaid i'ch rheolwr cyllid cangen ddarparu'r manylion canlynol i AW.Busnes@llyw.cymru:

  • Canolfan elw / Canolfan cost
  • Cod WBS
  • Eich rhif staff / cyflogres 6 digid

Byddwn yn cyhoeddi trosglwyddiadau cofnodi i gasglu ffioedd y cwrs ar ôl y digwyddiad.

Sylwer: gallai peidio â darparu’r wybodaeth briodol am gyllid beryglu eich lle fel cynadleddwr.

Os oes arnoch angen rhagor o fanylion am y gofynion trosglwyddo, cysylltwch â’n Tîm Cyllid AW.Busnes@llyw.cymru.

Dydd Mawrth 25 Mehefin

  • 9.30yb to 11.30yb: cofrestru a phennu pwy sy'n aros ble
  • 12.00yp: cinio
  • 1.00yp: rhaglen yn dechrau

Dydd Gwener 28 Mehefin

  • 12.30yp: diwedd y rhaglen

Oes rhaid i mi aros am yr wythnos gyfan?

Mae'r Ysgol Haf wedi cael ei datblygu yn brofiad dysgu cynhwysfawr sy’n para am 4 diwrnod. Dylech gwblhau'r wythnos gyfan er mwyn elwa i’r eithaf ar y cyfle hwn.

Beth os ydw i'n byw yn ardal y brifysgol? Oes rhaid i mi breswylio yno?

Rydym yn annog y cynrychiolwyr i breswylio ar y cwrs, ond efallai y byddai'n well gennych aros gartref a theithio os ydych yn byw yn yr ardal. Mae disgwyl i'r holl gynrychiolwyr ddod bob diwrnod i fanteisio ar y dysgu. Rhowch wybod cyn gynted â phosibl os nad oes angen llety arnoch chi.

Oes cyfleusterau gofal plant neu crèche ar gael yn yr Ysgol Haf?

Nid oes cyfleusterau gofal plant na crèche yn y brifysgol. Bydd disgwyl i'r cynrychiolwyr wneud eu trefniadau gofal plant eu hunain.

Prydau a lluniaeth

Mae prydau a lluniaeth wedi'u cynnwys yn y rhaglen (fodd bynnag nid yw alcohol na lluniaeth y bar neu'r caffi yn gynwysedig).

  • Brecwast: rhwng 7.00yb a 8.30yb
  • Swper: 7.30yp

Beth y dylwn ei wneud os oes gennyf ofyniad arbennig o ran deiet neu ofynion meddygol eraill?

Byddwn yn casglu’r wybodaeth hon fel rhan o’r broses gwneud cais. Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw anghenion meddygol neu ddeietegol penodol.

O ran gofynion deiet, noder fod y brifysgol yn gweini amrywiaeth o fwyd. Hefyd mae archfarchnad o fewn pellter cerdded i'r campws.

Cyswllt ffôn symudol / y we

Nodwch fod y signal ffôn a gwe yn gallu bod yn afreolaidd o achos y lleoliad anghysbell, ac yn ddibynnol ar y tywydd

Mae cyswllt diwifr ar gael yn y brif neuadd

Beth fyddai'n ddefnyddiol i'w bacio?

  • Pethau ymolchi, sychwr gwallt ac ati
  • Fflip fflops/sliperi i’w gwisgo yn y blociau llety
  • Drych
  • Cyflenwad o de, llaeth a bisgedi, gan fod gan rai o'r bythynnod geginau (ond cyflenwir yr holl fwyd a lluniaeth eraill yn ystod y digwyddiad)

Cod gwisg

Lled-ffurfiol

Ffotograffiaeth/recordio fideo

Byddwn yn tynnu lluniau ac yn gofyn am adborth a sylwadau gydol y digwyddiad. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu'r deunyddiau ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol; neu mae'n bosibl y byddwn yn eu defnyddio at ddibenion marchnata'r digwyddiad a hyfforddiant gan Academi Wales yn y dyfodol. Bydd cyfle i chi gytuno i ymddangos yn y deunyddiau hyn neu optio allan wrth i chi lenwi’r ffurflen gais.

Cymraeg

Cyflwynir yr Ysgol Haf yn Saesneg. Fodd bynnag, darperir pecynnau a deunyddiau dwyieithog, ac mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael yn yr ystafell lawn. Os byddai’n well gennych ymuno â grwp hwyluso sy’n siarad Cymraeg, nodwch hyn yn eich cais.

Paratoadau personol

Lle y bo’n briodol, mae’n rhaid i chi gwblhau'r holl waith a osodir gan y siaradwyr ymlaen llaw.

Hyb cynadleddwyr

Gwahoddir cynadleddwyr llwyddiannus i gofrestru ar Hyb Cynadleddwyr yr Ysgol Haf. Mae hwn yn safle caeedig diogel a gellir ei gyrchu unrhyw bryd, unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Bydd y Hyb yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth bwysig cyn y digwyddiad, cael trafodaethau a rhwydweithio gyda'ch cyd-gynadleddwyr.

Mae'n bwysig eich bod yn mewngofnodi i'r Hyb i dderbyn diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth allweddol am y rhaglen. Rydym yn argymell eich bod yn clicio’r botwm Tanysgrifio, a dewiswch yr opsiwn Fel maen nhw'n digwydd i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth iddi gael ei rhannu.

Bydd angen porwr gwe cyfredol arnoch fel Microsoft Edge neu Google Chrome i gael mynediad i'r Hyb.

Cyrraedd y Llanbed (dolen allanol)

Trenau - Trafnidiaeth Cymru (dolen allanol)

Amserlennu bysiau (dolen allanol)

Rhannu car

Gyda'ch sêl bendith fe wnawn ni rannu eich manylion cyswllt pan fydd y rhestr o gynrychiolwyr wedi ei chadarnhau. Yna gallwch wneud eich trefniadau eich hunain ar gyfer rhannu car i'r digwyddiad ac oddi yno.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch yr Ysgol Haf.