Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2023
Cynulleidfa
Uwch reolwyr ac arweinwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng NghymruDyddiadau
26 i 30 Mehefin 2023Location
Preswyl
Campws Llambed, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi SantCost
£750 + TAW
'Cefnogi arweinwyr heddiw i greu yfory mwy disglair i Wasanaethau Cyhoeddus Cymru - dathlu’r 10 mlynedd'
Trosolwg
Gan ddathlu ei deunawfed flwyddyn, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn cynnal Ysgol Haf fyw eleni. Mae’r Ysgol Haf yn brofiad dysgu preswyl dwys, 5 diwrnod o hyd, sy’n dod ag arweinwyr ac uwch reolwyr ynghyd i fynd i’r afael â materion allweddol ar bwnc penodol yn ymwneud ag arweinyddiaeth.
Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma
Rydym yn croesawu’r cyfle i barhau i gefnogi ein cydweithwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru. Mae rhaglen yr Ysgol Haf 5 diwrnod yn ysbrydoledig ac yn dreiddgar! Byddwch yn darganfod safbwyntiau a syniadau newydd a fydd yn gwella eich sgiliau a’ch gwybodaeth i ymgymryd â’r heriau y mae eich sefydliadau’n eu hwynebu ar hyn o bryd.
Bydd yr Ysgol Haf 2023 yn cael ei chynnal o ddydd Llun, 26 i ddydd Gwener, 30 Mehefin.
Mae digwyddiadau’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi trawsnewid y ffordd rydyn ni’n gweithio, gan gyflymu tueddiadau a oedd eisoes ar waith a chwestiynu llawer o bethau roedden ni’n eu cymryd yn ganiataol. Mae’r ffordd y mae sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn cydbwyso cynaliadwyedd â chefnogi anghenion gweithiwyr, yn allweddol wrth i ni greu normal newydd. Bydd hyn yn golygu bod sefydliadau’n cynyddu eu ffocws ar amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant, yn ogystal â materion amgylcheddol a chymdeithasol.
Bydd yr Ysgol Haf yn rhoi cyfle i chi fynychu amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol a ddarperir gan academyddion, awduron a darparwyr sy’n gallu rhannu eu profiadau a’u gwybodaeth i’ch cefnogi chi, eich sefydliad, a’r gymuned rydych chi’n ei gwasanaethu.
Manteision i chi
Mae Ysgol Haf Arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru wedi’i chynllunio i roi’r cyfle i chi adolygu ac adnewyddu eich sgiliau, adeiladu gwybodaeth newydd a chael mewnwelediad i’ch ymarfer arwain. Mae’n rhoi cyfle i archwilio ffyrdd arloesol o ‘gyflwyno’r busnes’, gan ddefnyddio cyfoeth o wybodaeth a phrofiad byd-eang.
Sylwadau gan gynrychiolwyr Ysgol Haf 2022 oedd:
“Profiad hollol ffantastig; dysgais fwy nag oeddwn i’n meddwl y byddwn i mewn lle cefnogol, heriol a myfyriol iawn.”
Cynadleddwr o awdurdod lleol
“Roedd yr Ysgol Haf yn dridiau goleuedig, lle rhannwyd gwybodaeth a doethineb gan siaradwyr diddorol a oedd yn arbenigwyr ac yn wir arweinwyr yn eu meysydd, er mwyn addysgu a pharatoi’n well arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus y dyfodol yng Nghymru.”
Cynadleddwr o’r heddlu
“Ers mynd i’r Ysgol Haf, rydw i wir wedi herio fy hun i newid fy ffyrdd o weithio ac i ddefnyddio’r awyr agored a chysylltu rhwng gweithgaredd corfforol a meddyliol llawer mwy. Mae wedi agor fy meddwl i bosibiliadau gwahanol.”
Cynadleddwr o Lywodraeth Cymru
“Roedd yn ysgogol iawn, ac fe roddodd bersbectif newydd i mi ar heriau arwain a sut y gallaf fynd i’r afael â nhw.”
Cynadleddwr addysg
Cadeiryddion a siaradwyr
Rydym wedi datblygu rhaglen 5 diwrnod a fydd yn gyffrous, yn llawn ac yn amrywiol i chi. Bydd y rhaglen yn cynnwys nifer o siaradwyr rhyngwladol yn y DU sy’n academyddion neu’n arbenigwyr yn eu dewis feysydd. Mae’r rhaglen ar gyfer 2023 yn cynnwys:
- Alexandra Walters
Academi Wales
- Shereen Williams MBE OStJ DL
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ac Ysgrifennydd Comisiwn Ffiniau Cymru
- Dr Andrew Goodall
Llywodraeth Cymru
- Julie Rogers
AaGIC
- Nazir Afzal OBE
- Owen Evans
Estyn
- Thimon de Jong
Whetston
- Jyoti Banerjee
North Star Transition
- Susie Ventris-Field
Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
- Dr Andy Cope
Art of Brilliance
- Byron Lee
- Yr Athro Uzo Iwobi CBE
- Yr Athro Eugene Sadler-Smith
Prifysgol Surrey
- Rebecca Evans AS
Llywodraeth Cymru, Senedd
- Derek Walker
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
- Ian Bancroft
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Y Farwnes Casey o Blackstock DBE CB
- Chris Moon MBE
One Step Beyond
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Dygnwch a gwydnwch
Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd
Hyrwyddo arloesi a newid
Datblygu cydweithio a phartneriaethau
Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol
Rhannu arweinyddiaeth
Synnwyr strategol
Cynulleidfa darged
Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at reolwyr ac arweinwyr lefel uwch sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector neu’r sector gwirfoddol yng Nghymru. I elwa fwyaf ar yr Ysgol Haf, mae’n bwysig eich bod ar y lefel gywir yn eich taith gyrfa. Mae’r Ysgol Haf yn addas ar gyfer y rhai sy’n arwain tîm, cangen neu adran yn eu sefydliad, gyda chyfrifoldeb am greu amgylchedd gwaith effeithiol i’w staff, ac am nodi a hwyluso unrhyw newidiadau sydd eu hangen i gyflawni amcanion eu sefydliad.
Sylwch mai nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer yr Ysgol Haf gan fod y galw am leoedd bob blwyddyn yn fwy na’r hyn y gallwn ni ei gymryd.
Cost
Codir tâl cynrychiolwyr o £750 + TAW ar gyfer yr Ysgol Haf sy’n cynnwys cyfraniad at gostau dysgu’r digwyddiad.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth, 9 Mai 2023.
Sylwch, os tynnwch chi’n ôl o’r Ysgol Haf ar ôl i le gael ei ddyfarnu i chi, efallai y bydd yn ofynnol i'ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.
Bwrsariaethau ar gyfer y trydydd sector a’r sector gwirfoddol
Rydyn ni’n cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau o hyd at 100% tuag at gost cynadleddwyr Ysgol Haf 2023. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, grwpiau lleiafrifol, a grwpiau difreintiedig, lle mae gan sefydliadau trydydd sector a’r sector gwirfoddol lai o arian.
Gwneud cais am fwrsariaeth
Rhowch dystiolaeth eich bod yn bodloni’r cymhwysedd (50 i 100 gair). Mae angen i’ch ymateb alinio â’r meini prawf isod:
- Rydych chi’n rhan o grwp sy’n cael ei dangynrychioli, grwp lleiafrifol neu grwp difreintiedig o fewn eich sefydliad trydydd sector neu sector gwirfoddol.
- Maint eich sefydliad.
- Gwerth y fwrsariaeth rydych chi’n gwneud cais amdano.
Sut i wneud cais
Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn a fydd yn cael eu cynnig drwy broses ddethol gystadleuol. Dyfernir lleoedd i’r ymgeiswyr hynny sy’n darparu amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Haf ac sy’n gallu dangos y byddant yn dychwelyd ar fuddsoddiad.
Ni fu dangos elw ar fuddsoddiad erioed yn bwysicach nag yn yr hinsawdd sydd ohoni. Nid yw adenillion ar fuddsoddiad yn ymwneud ag enillion ariannol yn unig. Effaith gynaliadwy'r dysgu i chi a'ch sefydliad a sut mae hyn yn cysylltu â gwasanaethau a ddarperir ar gyfer pobl Cymru. Mae'n arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n gweithio drwy gyfnod heriol ac yn ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i'w canlyniadau sefydliadol.
Y broses ymgeisio
Mae’r broses recriwtio ar gyfer Ysgol Haf 2023 yn cau ar 9 Mai 2023.
Bydd angen i’r rheolwr llinell ddilysu eich cais. Rhowch eu manylion cyswllt ar eich ffurflen gais.
Os yw eich sefydliad ar y rhestr gyswllt ganlynol, efallai y byddwch am roi gwybod i’r cyswllt sefydliadol i’w hysbysu eich bod yn bwriadu gwneud cais.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych wedi derbyn lle erbyn 26 Mai 2023.
Mwy o wybodaeth
I ddod o hyd i fwy o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.
- Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
- Cysylltwch â ni
Ysgol Haf
- Twitter
Dilynwch ni @AcademiWales#AWSummerSchool a #YsgolHafAW