Cyfarwyddiadau ymuno
I ymuno â’r digwyddiad, cliciwch y cyswllt Teams yn eich e-bost gwahoddiad.
Paratoi ar gyfer yr Ysgol Haf
Gwiriwch yr eitemau pwysig canlynol cyn i chi ymuno â’r Ysgol Haf:
- Cwblhewch eich gwaith ymlaen llaw
- Dewch o hyd i le preifat a thawel
- Plygiwch eich gliniadur neu ddyfais i mewn i bŵer y prif gyflenwad
- Cysylltwch eich dyfais â chebl rhwydwaith, os oes un ar gael
- Caewch bob ap a dogfen ddiangen ar eich dyfais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â’r digwyddiad 10 munud cyn yr amser dechrau. Os nad yw’r panel sgwrsio’n ymddangos, gadewch ac ailymunwch â’r digwyddiad. Os oes gennych unrhyw broblemau technegol, gweler Teams Help.
Unwaith y byddwch chi’n ymuno â’r digwyddiad, diffoddwch eich microffon oni bai bod yr hwylusydd yn gofyn ichi siarad.
Defnyddio Microsoft Teams
Os nad oes gennych gyfrif ‘Teams’, yna dewiswch Ymuno fel gwestai. Gallwch ddefnyddio porwyr gwe Microsoft Edge a Google Chrome i ymuno fel gwestai. Os ydych chi’n defnyddio tabled neu ffôn clyfar, efallai y bydd angen ichi lawrlwytho app Microsoft Teams o’ch siop apiau cyn y gallwch chi ymuno â’r digwyddiad.
Grwpiau
Bydd nifer o sesiynau grŵp wedi’u hwyluso drwy gydol y digwyddiad, gan roi cyfle i chi rwydweithio gyda chynrychiolwyr. Bydd hwylusydd eich grŵp yn cysylltu â chi cyn y digwyddiad.
Cyfieithu Cymraeg
Gallwch gyfrannu at yr Ysgol Haf naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Byddwch yn gallu cyflwyno eich cwestiynau a sylwadau drwy’r panel sgwrsio yn ystod y dydd yn Gymraeg neu yn Saesneg. Rydym yn eich annog yn gryf i wneud hyn. Rydym am i’r digwyddiad fod mor rhyngweithiol â phosibl!
Gallwch wrando ar gyfieithiad sain Cymraeg i Saesneg byw ar unrhyw adeg drwy ffonio’r rhif cyfieithu yn eich e-bost gwahoddiad. Noder: efallai y codir tâl, yn dibynnu ar eich tariff ffôn.
Ffilmio
Lle rydym wedi cael caniatâd, byddwn yn recordio’r prif sesiynau ac yn eu cyhoeddi ar ein gwefan yn ddiweddarach. Dim ond sesiynau yn y brif ystafell fydd yn cael eu recordio.