English

Ysgol Aeaf Arweinwyr Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2025

Cynulleidfa
Arweinwyr a swyddogion gweithredol uwch / haen uchaf, megis Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yng Nghymru

Dyddiadau
4 i 7 Chwefror 2025, Preswyl

Cost
£600 + TAW

Gwybodaeth

Mae ceisiadau nawr ar gau

'Arwain am Cydlyniant'

Trosolwg

Mae Academi Wales yn falch iawn bod yr Ysgol Aeaf yn dychwelyd i leoliad hyfryd Nant Gwrtheyrn ar gyfer 2025.

Gan adeiladu ar ei llwyddiant ers 2011, mae’r rhaglen eleni wedi’i chynllunio i ddiwallu prif anghenion datblygu arweinwyr a swyddogion gweithredol uwch / haen uchaf, megis Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Gan fanteisio ar wybodaeth ac arbenigedd siaradwyr nodedig, thema gyffredinol Ysgol Aeaf 2025 yw 'Arwain am Cydlyniant'. Gan ganolbwyntio ar sut y gall arweinwyr weithio gyda’i gilydd i helpu cymunedau sy’n wynebu cyfnod heriol, bydd Ysgol Aeaf 2025 yn rhoi’r cyfle i arweinwyr i archwilio dulliau, ymddygiadau a meddylfryd newydd. Mae rhaglen 2025 wedi’i chynllunio i gwrdd a anghenion datblygu allweddol arweinwyr uchaf Cymru.

Am y tro cyntaf erioed, fel rhan o raglen Ysgol Aeaf 2025, bydd cynrychiolwyr yn cael mynediad at ddwy awr o Coetsio Gweithredol. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau Coetsio Gweithredol un-i-un cyn ac ar ôl yr Ysgol Aeaf, i gefnogi eu dysgu ymhellach.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Manteision i chi

Bydd y rhaglen 'ymestyn' unigryw 4 diwrnod hon yn rhoi cyfle i adolygu ac adnewyddu eich sgiliau presennol a chael golwg ar arferion arwain blaengar. Byddwch yn archwilio ffyrdd arloesol o 'ddarparu'r busnes', gan ddefnyddio cyfoeth o wybodaeth a phrofiad.

Sylwadau gan gynadleddwyr Ysgol Aeaf 2024:

"Roedd yr Ysgol Aeaf yn gyfle gwych i gamu’n ôl, rhwydweithio â chydweithwyr diddorol, dysgu dulliau newydd, a chael fy ysbrydoli gan bobl glyfar a chraff - a hynny oll mewn lleoliad gwirioneddol wych."

"Y man cydweithredol perffaith, na fyddai'n bosibl yn y diwrnod gwaith arferol, i ddysgu, gwrando'n weithredol, tyfu a dychwelyd â llwybrau newydd i gyrraedd eich llawn botensial."

"Digwyddiad treiddgar, ysgogol ac egnïol a wnaeth i mi deimlo'n frwdfrydig dros ddychwelyd i'm swydd a rhoi’r hyn a ddysgais ar waith."

Ymhlith y siaradwyr mae

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae’r Ysgol Aeaf wedi'i datblygu'n benodol ar gyfer arweinwyr a swyddogion gweithredol uwch / haen uchaf, megis Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Cost

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ac mae’r ffi o £600 + TAW yn cynnwys yr holl ddarpariaeth dysgu a datblygu, llety un ddeiliadaeth ar y safle a’r bwrdd llawn. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cyfarwyddiadau ymuno unwaith y byddan nhw wedi derbyn eu lle.

Ni fydd y rhaglen yn talu eich costau teithio.

Nodwch, os cewch le yn yr Ysgol Aeaf ac yna tynnu’n ôl o’r rhaglen ar ôl derbyn, efallai y bydd yn ofynnol i’ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.

Bwrsariaethau

Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau o hyd at 100% tuag at gost cynrychiolwyr Ysgol Aeaf 2025. Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, yn lleiafrif, ac yn ddifreintiedig a/neu lle mae gan sefydliad gyllid cyfyngedig. Ni fydd eich costau teithio yn cael eu talu gan y rhaglen.

I wneud cais am fwrsariaeth

Darparwch dystiolaeth eich bod yn bodloni’r cymhwyster (50 i 100 gair). Mae angen i'ch ymateb gyd-fynd â'r meini prawf isod:

  • Rydych chi’n rhan o grŵp sy’n cael ei dangynrychioli, yn lleiafrif neu’n ddifreintiedig o fewn eich sefydliad, a/neu lle mae gan eich sefydliad gyllid cyfyngedig.
  • Maint eich sefydliad.
  • Gwerth y bwrsari rydych chi’n gwneud cais amdano.

Sut i wneud cais

Mae Academi Wales yn arfogi arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r rhwydweithiau i ddatrys y problemau mwyaf cymhleth sy’n bodoli heddiw. Ochr yn ochr â’r sgiliau a’r wybodaeth rydym yn gobeithio y bydd y cwrs hwn yn eu rhoi i chi, rydym yn awyddus i bwysleisio pŵer meithrin cysylltiadau â’ch cyfoedion yn yr ystafell. 

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn a fydd yn cael eu cynnig drwy broses ddethol gystadleuol, gyda chynrychiolwyr yn cael eu dewis o bob rhan o’r sector cyhoeddus i alluogi ystod eang o safbwyntiau yn yr ystafell ac i’ch cefnogi i gryfhau eich rhwydweithiau proffesiynol. Bydd lleoedd yn cael eu dyfarnu i'r ymgeiswyr hynny sy'n dangos amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Aeaf ac sy'n gallu dangos tystiolaeth o’u hadenillion o fuddsoddi.

Ni fu dangos gwerth o fuddsoddiad erioed yn bwysicach nag yn yr hinsawdd sydd ohoni. Nid elw ariannol yn unig yw gwerth o fuddsoddiad. Dyma effaith gynaliadwy'r dysgu i chi a’ch sefydliad a sut mae hyn yn cysylltu â gwasanaethau a ddarperir ar gyfer pobl Cymru. Mae’n arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n gweithio drwy gyfnodau heriol ac sy’n ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i’w canlyniadau sefydliadol ar lefel systemig.

I wneud cais am le, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein hon yn datgan eich amcanion ar gyfer mynychu'r digwyddiad erbyn 16 Rhagfyr 2024.

Cadwch y dyddiadau 4 i 7 Chwefror yn eich calendr nes y byddwn yn cadarnhau canlyniad eich cais.

Gwybodaeth

Mae ceisiadau nawr ar gau

Mwy o wybodaeth

Gwybodaeth

I gael rhagor o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.