Ysgol Aeaf 2024 - mwy o wybodaeth
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tím drwy anfon e-bost at Ysgol Aeaf.
Ymgeisiwch am yr Ysgol Aeaf
Yr Her
Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais.
Efallai na fydd eich syniadau ynghylch eich her wedi eu llunio’n llawn neu’n hawdd eu mynegi ar hyn o bryd. Mae hynny’n iawn- mae cael eglurder a chipolwg ar eich her yn rhan o brofiad yr Ysgol Aeaf. Mae nifer y geiriau yn adlewyrchiad o’r arddulliau ymateb amrywiol yr ydym yn disgwyl eu derbyn. Weithiau, mae llai yn cael mwy o effaith ond rydym yn ymwybodol hefyd bod ysgrifennu atebion cryno yn cymryd amser. Cysylltwch â’r Ysgol Aeaf os oes gennych unrhyw ymholiadau wrth lenwi’r ffurflen gais.
- Eich Her – Beth sy’n meddiannu’ch meddwl, efallai hyd yn oed yn eich cadw chi’n effro yn y nos? Pa ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol, sefydliadol ac economaidd sy’n cyfrannu at yr her hon? Beth sy’n ei gwneud yn fwy na dim ond un broblem arall i’w datrys? (50 i 500 geiriau)
- Pa rannau eraill o’r system sy’n cyfrannu at eich her? Gyda phwy y bydd angen i chi weithio i newid hyn? (50 i 350 geiriau)
- Mewn byd delfrydol, beth fyddech chi’n hoffi ei wneud i ddatrys eich her sy’n teimlo’n amhosibl ar hyn o bryd? (50 i 350 geiriau)
Bydd profiad tîm yr Ysgol Aeaf yn cael ei ddefnyddio i adnabod y ffactorau yr ydym yn chwilio amdanynt fel rhan o’r broses sifftio a bydd lleoedd yn cael eu gwobrwyo yn seiliedig ar addasrwydd yr her a gyflwynir.
Bydd ystyriaeth i gynrychiolaeth sector a rhanbarthol gyda chynrychiolwyr yn cael eu dewis ar draws y sector cyhoeddus er mwyn galluogi ystod eang o safbwyntiau ac er mwyn eich cefnogi chi i gryfhau eich rhwydwaith proffesiynol.
Faint mae'n ei gostio?
£600 + TAW. Mae hyn yn cynnwys:
- mynediad at raglen ddysgu lawn yr Ysgol Aeaf
- pecyn cynrychiolydd
- llety (dydd Mawrth 27 Chwefror i dydd Gwener 1 Mawrth 2024)
- brecwast, cinio a phryd nos yn ystod y digwyddiad
Rhaid i chi dalu unrhyw gostau personol sy'n codi, megis teithio i'r digwyddiad ac oddi yno.
Sylwch: Os dyfernir lle i chi ac yn ddiweddarach rydych chi’n penderfynu tynnu’n ôl o’r rhaglen, mae gan Academi Wales yr hawl i godi tâl gweinyddu ar eich sefydliad – ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.
Llety
Digwyddiad preswyl yw’r Ysgol Aeaf a darperir llety ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.
Bilio ar gyfer ymgeiswyr am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a'r trydydd sector
Adran o Lywodraeth Cymru yw Academi Wales. Mae angen rhoi’r manylion canlynol yn eich cais:
- Enw a cyfeiriad yr sefydliad sy'n talu i chi fod yn bresennol
- Enw a chyfeiriad e-bost y swyddog bilio
Cyflenwr: Llywodraeth Cymru
Cyfeiriad cyflenwr: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
I gadarnhau eich lle, bydd angen i chi ddarparu rhif gorchymyn prynu. Caiff eich sefydliad ei anfonebu am eich ffi cynadleddwr yn dilyn eich presenoldeb yn Ysgol Aeaf 2024.
Am ragor o fanylion ynglyn â gofynion anfonebu, cysylltwch â’n tîm cyllid ar AW.Busnes@llyw.cymru.
Bilio ar gyfer ymgeiswyr Llywodraeth Cymru
Adran o Lywodraeth Cymru yw Academi Wales. I gefnogi eich cais, rhowch y manylion canlynol:
- Cyfeiriad e-bost rheolwr cyllid cangen
I gadarnhau eich lle, rhaid i'ch rheolwr cyllid cangen ddarparu'r manylion canlynol i AW.Busnes@llyw.cymru:
- Canolfan elw
- Cod gweithgarwch
- Rhif personél neu enw’r cynrychiolydd
Byddwn yn cyhoeddi trosglwyddiadau cofnodi i gasglu ffioedd y cwrs ar ôl y digwyddiad.
Os oes angen rhagor o fanylion arnoch chi am y gofynion trosglwyddo cyfnodolyn, cysylltwch â’n tîm cyllid ar AW.Busnes@llyw.cymru.
Paratoi ar gyfer yr Ysgol Aeaf
Amserlen gyffredinol – agor a chau'r digwyddiad
Dydd Mawrth 27 Chwefror
- 11 yb: cofrestru a dyrannu llety (os fyddwch yn cyrraedd cyn 11 yb, rhowch wybod i ni)
- 12 yp: cinio
- 1 yp: rhaglen yn dechrau
Dydd Gwener 1 Mawrth
- 12.30 yp: diwedd y rhaglen
Paratoi rhaglen Ysgol Aeaf bersonol
Lle bo hynny’n berthnasol, mae’n ofynnol i chi gwblhau’r holl waith a osodwyd ymlaen llaw gan y siaradwyr.
Hyb cynrychiolwyr
Bydd cynrychiolwyr llwyddiannus yn cael eu cofrestru ar hyb cynrychiolwyr yr Ysgol Aeaf. Mae hwn yn safle caeedig diogel a gallwch fynd iddo unrhyw bryd, yn unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Bydd yr hyb yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth bwysig cyn y digwyddiad, cael trafodaethau a rhwydweithio â’ch cyd-gynrychiolwyr.
Mae’n bwysig eich bod yn mewngofnodi i’r hyb i gael diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth bwysig am y rhaglen.
Bydd angen porwr gwe cyfredol arnoch fel Microsoft Edge neu Google Chrome i gael mynediad i'r hyb.
Cwestiynau cyffredin
-
Oes - rhaid i gynrychiolwyr fod yn bresennol drwy gydol y rhaglen. Mae wedi cael ei chynllunio'n bwrpasol ac ni fyddwch yn elwa'n llawn oni fyddwch yn cwblhau pob agwedd.
-
Ydyn – fodd bynnag, rydym yn eich annog i fanteisio ar ran breswyl y rhaglen. Os ydych chi’n byw’n lleol, efallai y byddwch yn cymudo’n ôl ac ymlaen i’ch cartref – rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib os nad oes angen llety. Mae dal yn ofynnol i gynadleddwyr nad ydyn nhw’n aros i dalu’r ffi o £600 a TAW.
-
Nid oes cyfleusterau gofal plant na crèche ar gael. Bydd gofyn i chi wneud eich trefniadau gofal plant eich hun.
-
Mae prydau a lluniaeth wedi eu cynnwys yn y rhaglen (fodd bynnag nid yw alcohol na lluniaeth y bar neu'r caffi yn gynwysedig)
- Brecwast: rhwng 7.30 a 8.30 yb bob dydd
- Swper: 7.30 yp.
Mae bar bychan sy’n derbyn arian parod a chaffi ar y safle. Noder: nid oes peiriant codi arian yn y lleoliad nac yn agos ato. Codwch arian cyn dod os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r cyfleusterau hyn.
-
Nodwch ar eich ffurflen gais os oes angen unrhyw gymorth arnoch neu os oes gennych unrhyw anghenion meddygol neu ddietegol penodol. Os oes angen, byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn yn nes at y digwyddiad.
-
Mae’r Ysgol Aeaf yn Saesneg ei chyfrwng. Ond mae’r deunyddiau a'r pecynnau i gynrychiolwyr ar gael yn ddwyieithog.
-
- Oherwydd lleoliad anghysbell y ganolfan, efallai na fydd llawer o signal ffôn symudol. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio llinell ddaearol 24/7.
- Mae Wifi ar gael ym mhobman heblaw am y capel
-
- Fflachlamp: Safle bach yw Nant Gwrtheyrn ond, o achos ei leoliad, mae symud rhwng y neuadd weithgaredd a'r llety (yn enwedig yn y nos) yn gallu bod yn arbennig o dywyll felly byddai fflachlamp yn ddefnyddiol.
- Pethau ymolchi, sychwr gwallt ac ati
- Arian parod (sylwch: nid oes peiriannau arian na siopau gerllaw)
- Cyflenwad o de, llaeth a bisgedi, gan fod gan rai o'r bythynnod geginau (ond cyflenwir yr holl fwyd a lluniaeth eraill yn ystod y digwyddiad)
-
- Sesiynau ystafell ddosbarth - mae croeso i chi wisgo’n hamddenol.
- Taith gerdded - awgrymwn eich bod yn dod â dillad cynnes, cyfforddus ar gyfer yr awyr agored, ac esgidiau cryf. Bydd hi'n anodd rhagweld y tywydd a gall droi'n oer iawn.
- Mae’n dipyn o draddodiad bod pobl sy’n dod i’r Ysgol Aeaf yn mynd ar daith gerdded ben bore ar hyd llwybr yr arfordir cyn i sesiynau ddechrau. Os hoffech chi wneud hyn dewch â fflachlamp, esgidiau addas a dillad cynnes priodol.
-
Cadwn yr hawl i dynnu lluniau/fideo yn ystod y digwyddiad a gallant gael eu defnyddio at bwrpas cyhoeddusrwydd a chreu gwybodaeth dysgu.
-
Trenau
www.thetrainline.com (allanol)
Rhannu car
Gyda'ch sêl bendith fe wnawn ni rannu eich manylion cyswllt pan fydd y rhestr o gynrychiolwyr wedi ei chadarnhau. Yna gallwch wneud eich trefniadau eich hunain ar gyfer rhannu car i'r digwyddiad ac oddi yno.
-
Tîm yr Ysgol Aeaf
03000 256 687
Nant Gwrtheyrn - y Lleoliad
Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd LL53 6NL
01758 750 334
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tím drwy anfon e-bost at Ysgol Aeaf.