English

Ysgol Aeaf 2021 - mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm yr Ysgol Aeaf drwy anfon e-bost at Ysgol Aeaf.

Cadeirydd

Cyfarwyddwr, Academi Wales
Mae gan Paul fwy na 25 mlynedd o brofiad mewn datblygu arweinyddiaeth ar ôl ymuno â GIG Cymru fel ymarferydd datblygu yn ystod y 1990au. Mae Paul wedi gweithio i Academi Wales, Llywodraeth Cymru ers 2013. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi cynnig arweiniad ar lywodraethu a hefyd ar ddatblygu ar lefel bwrdd ac ar lefel weithredol, a hynny ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru.

Ac yntau wedi datblygu fframweithiau asesu uwch dimau ar gyfer arweinwyr, mae Paul yn gysylltiedig â galluogi uwch dimau a byrddau, gan eu helpu i bennu’r nodweddion, y dulliau a’r strategaethau sy’n angenrheidiol i sefydliadau weithredu a chynnal perfformiad uchel o fewn y sefydliad.

Mae gan Paul ddiddordeb arbennig mewn archwilio cysyniadau’n ymwneud â dynameg unigolion, grwpiau a systemau, a’u heffaith ar benderfyniadau effeithiol ar lefel bwrdd. Ar ôl cwblhau’r ‘Rhaglen Dynameg Lefel Bwrdd’ gyda Sefydliad Tavistock, cyfrannodd bennod o astudiaeth achos at ‘High Performing Boards – exploring the influence of unconscious behaviours for the Dynamics at Boardroom Level’ (Cynlyfr Tavistock ar gyfer Arweinwyr, Coetswyr ac Ymgynghorwyr), a gyhoeddwyd yn 2019 gan Routledge.

Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru
Dyrchafwyd Jeremy Vaughan yn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru ym mis Tachwedd 2020.

Dechreuodd Jeremy ei yrfa ym maes plismona yn 1996 gyda Heddlu Gogledd Cymru. Bu’n gwasanaethu cymunedau Gogledd Cymru mewn sawl rôl am ugain mlynedd, gan gyrraedd rheng y Prif Uwch-arolygydd, lle bu’n gyfrifol am Wasanaethau Plismona Lleol.

Yn 2016, symudodd Jeremy i Heddlu De Cymru fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol, yn gyfrifol am Weithrediadau Arbenigol, gan gynnwys Safonau Proffesiynol, Cyfiawnder Troseddol, Cynllunio Gweithredol a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus. Ym mis Rhagfyr 2017, bu’n gyfrifol am y portffolio Plismona Tiriogaethol gan gynnwys arwain y gwaith o Blismona yn Gymdogaeth ac Ymateb. Parhaodd i weithredu fel Pennaeth y portffolio hwn nes iddo gael ei ddyrchafu’n Ddirprwy Brif Gwnstabl yn 2019.

Yn ogystal â’i ddyletswyddau gyda’r Heddlu, Jeremy yw arweinydd yr Heddlu o ran Cydweddu Wynebau (Adnabod) yn y DU, gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu technoleg adnabod wynebau yn genedlaethol, ynghyd â defnydd heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ohoni.

Jeremy yw’r arweinydd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru, a chafodd ei gydnabod am ei waith yn y maes hwn gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Menywod yn yr Heddlu yn 2019, drwy wobr HeForShe. Mae ganddo hanes hir o arwain ym maes Cydraddoldeb ac yn 2019, cafodd gydnabyddiaeth gyda Gwobr Arwain Cymru – Arwain Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Fel siaradwr Cymraeg rhugl, cafodd Jeremy ei benodi i Orsedd Cymru yn 2019 am ei wasanaeth i’r Gymraeg. Mae hyn yn adlewyrchu ei waith yn Heddlu De Cymru yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ac yn gwella’r gwasanaeth a ddarperir i unigolion mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Mae Jeremy’n briod ac mae ganddo dri o blant.

Jeremy is married and has three children.

Siaradwyr

Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Tan iddi gael ei hethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin Abertawe, roedd Julie yn gyfreithiwr amgylcheddol a chyfansoddiadol blaenllaw. Cyn hynny, roedd yn brif weithredwr cynorthwyol yng Nghyngor Abertawe. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa gyfreithiol mewn Llywodraeth Leol, yn gweithio fel cyfreithiwr polisi gyda Bwrdeistref Camden yn Llundain cyn dychwelyd i Abertawe i weithio i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg ac yna i Gyngor Dinas a Sir Abertawe.

Ers cael ei ethol, mae Julie wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Menter a Busnes a’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Cyhoeddodd Julie’r adroddiad ‘Dylanwadu ar y broses o foderneiddio polisi caffael yr Ewrop’ fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael y Pwyllgor Menter a busnes. Eisteddodd Julie hefyd fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.

Penodwyd Julie James yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a thechnoleg ym mis Medi 2014. Ym mis Mai 2016 penodwyd Julie yn Weinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Penodwyd Julie yn Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 Penodwyd Julie yn Weinidog dros dai a llywodraeth leol.

Prif Weithredwr, Y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Annog y Celfyddydau, Gweithgynhyrchu a Masnach (RSA)
Mae Matthew Taylor wedi bod yn Brif Weithredwr yr RSA ers mis Tachwedd 2006.

Yn ystod ei gyfnod yn arwain y sefydliad, mae'r Gymdeithas wedi cynyddu ei hallbwn ymchwil ac arloesedd yn sylweddol, wedi cynnig ffyrdd newydd o gefnogi mentrau elusennol eu 30,000 o gymrodyr, ac wedi datblygu proffil byd-eang fel llwyfan ar gyfer syniadau.

Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Matthew yr adroddiad 'Good Work', sef adolygiad annibynnol o gyflogaeth fodern, a gomisiynwyd gan Brif Weinidog y DU.

Ym mis Medi 2019, dechreuodd Matthew rôl ran-amser newydd fel Cyfarwyddwr Gorfodi'r Farchnad Waith i’r Llywodraeth, ac mae hefyd yn aelod o'u Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol.

Mae Matthew yn ymddangos ar y cyfryngau yn rheolaidd, ac wedi bod ar raglen Today, The Daily Politics, a Newsnight sawl gwaith. Mae wedi ysgrifennu a chyflwyno sawl rhaglen ddogfen ar Radio 4 ac mae'n banelydd ar y rhaglen Moral Maze. Mae wedi postio dros fil o weithiau ar ei flog i’r RSA ac mae’n trydar o dan yr enw @RSAMatthew. Mae hefyd yn Uwch Olygydd cyfres Thames & Hudson Big Ideas.

Cyn iddo gael ei benodi, Matthew oedd Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, ac yna daeth yn Brif Gynghorydd ar strategaeth wleidyddol i'r Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Polisi ac Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Blaid Lafur.

Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru
Penodwyd Dr Andrew Goodall i rôl Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru ym mis Mehefin 2014. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi blaenoriaethau Gweinidogol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol o fewn strwythurau'r Gwasanaeth Sifil, ac arweinyddiaeth a goruchwyliaeth GIG Cymru.

Gan gynnwys y rôl bresennol hon, mae Andrew wedi bod yn Brif Weithredwr y GIG yng Nghymru ers 15 mlynedd, a'i swydd flaenorol oedd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, swydd a ddaliwyd o ddechrau'r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2009 tan 2014.

Yn ystod ei yrfa o 29 mlynedd yn y GIG, mae Andrew wedi dal swyddi cynllunio a gweithredol ar draws nifer o sefydliadau'r GIG ledled De Cymru yn ogystal â rolau cenedlaethol. Mae ganddo feysydd diddordeb penodol mewn gwella diogelwch, ansawdd a phrofiad cleifion; gweithio mewn partneriaeth ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus; a darparu gwasanaethau rheng flaen trwy wella a moderneiddio gwasanaethau.

Mae gan Dr Goodall radd yn y gyfraith o Brifysgol Essex a PhD mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd o Ysgol Fusnes Caerdydd. Dyfarnwyd CBE i Dr Goodall yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 am ei wasanaethau i Iechyd, i Ofal Cymdeithasol ac i wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Cynghorydd Arbenigol ar Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru
Yn wreiddiol o Nigeria, mae gan Uzo radd yn y gyfraith o Brifysgol Nigeria a chymhwysodd fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr ac fe’i galwyd hi i Far Nigeria.

Ar ôl cymhwyso fel bargyfreithiwr yn Nigeria, symudodd Uzo i Gymru lle mae hi bellach yn gwasanaethu fel prif swyddog gweithredol Race Council Cymru ac yn eistedd ar fwrdd sawl sefydliad gwirfoddol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethu fel cadeirydd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yng Nghymru, a sefydlwyd ganddi yn 2004.

Mae Uzo wedi gwasanaethu gyda thîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu, a leolir yn y Swyddfa Gartref, lle bu’n ymwneud â datblygu polisïau cenedlaethol ar gysylltiadau ac amrywiaeth hiliol.

Ar ôl symud i Gymru, bu’n Ddarlithydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith, Abertawe am naw mlynedd. Enillodd Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) gyda rhagoriaeth o Brifysgol Cymru. Cwblhaodd gymhwyster Gradd Meistr mewn Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Morgannwg.

Yn 2004, ymunodd â Heddlu De Cymru ac, yn yr un flwyddyn, sefydlodd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC) gyntaf yng Nghymru a bu’n gadeirydd arni am 15 mlynedd.

Penodwyd Uzo i Dîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu (PNDT), sydd wedi'i leoli yn y Swyddfa Gartref, i gynrychioli Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) a'r 43 heddlu yn y DU ar bartneriaeth deiran strategol lefel uchel, gan gynnwys y Swyddfa Gartref, Awdurdod yr Heddlu (APA) ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) sydd â'r dasg o ddatblygu polisïau cenedlaethol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Gwasanaethodd Uzo gyda Chomisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE) y DU fel Comisiynydd nes iddo uno â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ym mis Hydref 2007. Yn 2008 dyfarnwyd OBE iddi i gydnabod ei gwasanaeth i gysylltiadau cymunedol a chymunedau De Cymru.

Mae Uzo yn Hyfforddwr Gweithredol Lefel 7 achrededig llawn gyda'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).

Cafodd Uzo ei chydnabod a'i chanmol pan gafodd y gwobrau a restrir isod gan wahanol gyrff

  • 2006 Cydnabyddiaeth o gyflawniad rhagorol mewn gwaith cymunedol gan Wobr Fenyw'r Flwyddyn Bae Abertawe (Cyflawniad Cymunedol) 2006
  • 2008 Wrth gydnabod cyflawniad Uzo o ran cyfraniadau cymunedol, ar 14 Mehefin 2008, dyfarnodd y Frenhines OBE (Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) am ei chyfraniadau i gysylltiadau hiliol cymunedol a Chymunedau De Cymru.
  • 2009 Fe wnaeth Comisiwn Cenedlaethol y Menywod gynnwys stori Uzo yn ei gyfnodolyn o'r enw, “A guide to Women in Public Life”.
  • 2010 Cyflwynwyd Gwobr Cydnabyddiaeth y Prif Weindiog i Uzo am ei chyfraniadau at gydraddoldeb hiliol a chysylltiadau hiliol yng Nghymru
  • 2011 Cafodd Uzo ei hanrhydeddu a'i chynnwys yn Adroddiad Myfyrdodau'r Cyngor Prydeinig yn Nigeria
  • 2011 Derbyniodd Uzo Wobr Cyflawniad Oes gan Gymdeithas Genedlaethol Cymunedau Nigeria (NANC –UK)
  • 2015 Derbyniodd Uzo Wobr Cyflawniad Menyw Ddu Eithriadol yng Nghymru am gyfraniadau i’r Mudiad Hanes Pobl Dduon yng Nghymru
  • 2017 Derbyniodd Uzo Wobr Cydnabyddiaeth fel Sylfaenydd y Mudiad Hanes Pobl Dduon yng Nghymru
  • 2017 Derbyniodd Uzo Wobr Cyflawniad Menywod o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru (EMWWAA), Gwobr Cymru gyfan am Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • 2017 Derbyniodd Uzo Wobr Llysgennad i Gymru EMWWAA
  • 29 Medi 2018 Cafodd Uzo sylw yng nghyhoeddiad Black Brilliant and Welsh Walesonline. Rhestrwyd Uzo yn rhif 30 ar y rhestr o’r 100 Person Affricanaidd ac Affro-Caribïaidd Gorau yng Nghymru

Penodwyd Uzo gan Ruth Kelly, yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, i wasanaethu fel comisiynydd i Gomisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE) y DU nes iddo uno â chomisiynau eraill i ffurfio'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ym mis Hydref 2007.

Cyflawnodd Uzo radd ragorol mewn Hyfforddi a Rheoli Gweithredol Lefel 7 gyda'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth a gwasanaethodd fel ymddiriedolwr y Groes Goch Brydeinig am chwe blynedd yn ogystal ag ymddiriedolwr Coleg y Byd Unedig - Coleg yr Iwerydd. Mae Uzo yn arwain cynlluniau dysgu a datblygu ar gyfer henuriaid Affricanaidd Caribïaidd ledled Cymru trwy Gynllun Henuriaid Hanes Pobl Dduon Cymru. Mae Uzo yn mentora pobl ifanc a dysgwyr sy'n oedolion i gyflawni eu gweledigaethau a'u dyheadau trwy'r gadwyn hyfforddi y mae'n ei hwyluso.

Mae Uzo yn gweithio fel y fenyw ddu gyntaf i gael ei phenodi'n Gynghorydd Arbenigol ar Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru.

Penodwyd Uzo yn Gymrodyr anrhydeddus ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (UWTSD) ac yn Athro Ymarfer Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Yr Athro Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Bryste, Prifysgol Gorllewin Lloegr
Ymunais ag Ysgol Fusnes Bryste yn hydref 2013 fel Athro Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Yn 2014 sefydlais, a deuthum yn Gyfarwyddwr Canolfan Arweinyddiaeth Bryste ac arweiniais yr ehangu a’i hail-lansio yn 2016 fel Canolfan Arweinyddiaeth a Newid Bryste, un o’r canolfannau prifysgol mwyaf a’r mwyaf gweithgar o’i bath.

Rwyf wedi ymrwymo i ysgolheictod cymhwysol sy'n cael effaith ymhell y tu hwnt i'r byd academaidd. Mae fy addysgu a’m hymchwil yn archwilio'r rhyngwyneb rhwng dulliau unigol a chyfunol i arweinyddiaeth ac i ddatblygu arweinyddiaeth gyda ffocws penodol ar faterion hunaniaeth, diwylliant a chydweithio. Rwyf wedi cyhoeddi’n eang ar bynciau sy’n cynnwys arweinyddiaeth ddosbarthedig, arweinyddiaeth systemau, arweinyddiaeth mewn addysg uwch, arweinyddiaeth fyd-eang a gwerthuso datblygu arweinyddiaeth. Mae fy llyfrau yn cynnwys ‘Exploring Leadership: Individual, organizational and societal perspectives’ (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2011) a ‘Leadership Paradoxes: Rethinking leadership for an uncertain world’ (Routledge, 2016); roedd yr olaf ohonynt ar restr fer Gwobr Llyfr Rheoli'r Flwyddyn CMI 2017. Rwy'n Olygydd Cyswllt ar gyfer y cyfnodolyn Leadership ac rwyf yn cynnal adolygiadau yn rheolaidd ar gyfer cyfnodolion rhyngwladol blaenllaw.

Mae fy nghefndir academaidd ym maes astudiaethau arweinyddiaeth/sefydliad a seicoleg gymhwysol. Cyn ymuno ag UWE treuliais dros ddeng mlynedd yn y Ganolfan Astudiaethau Arweinyddiaeth, Prifysgol Caerwysg - fel Cymrawd Ymchwil i ddechrau, yna Darlithydd, Uwch Ddarlithydd a Phennaeth y Ganolfan. Rwyf hefyd wedi gweithio yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yng Nghaerwysg ac fel Seicolegydd Ymchwil yn y Sefydliad Seicoleg Gwaith, Prifysgol Sheffield. Y tu allan i fyd addysg uwch, rwyf wedi gweithio fel ymgynghorydd annibynnol (yn cynnal prosiectau gwerthuso yn yr Aifft a Bosnia ymhlith mannau eraill) ac wedi treulio dwy flynedd gyda chwmni TG yn Ffrainc yn datblygu a marchnata fersiwn Saesneg eu meddalwedd dylunio a dadansoddi arolwg.

Mae fy ngweithgareddau ymchwil, addysg ac ymgysylltu yn cynnwys gweithio'n agos gydag ystod o grwpiau a sefydliadau, gan gynnwys Academi Arweinyddiaeth y GIG, Bristol Golden Key, Swyddfa Ddinas Maer Bryste, Coleg Gwasanaeth Sifil Singapore, Canolfan Arweinyddiaeth a Sefydliad Arweinyddiaeth Addysg Uwch.

Rwy'n dysgu ar nifer o raglenni yn UWE, gan gynnwys MBA Bryste, BA Rheoli ac Arweinyddiaeth a chyrsiau achrededig ILM ar arweinyddiaeth a rheolaeth. Rwy'n goruchwylio myfyrwyr PhD a Meistr mewn meysydd sy'n gysylltiedig â’m diddordebau ymchwil ac rwyf bob amser yn falch o ystyried cynigion newydd.

UWE web page
@bolden_richard

Tasglu Cysgu ar y Stryd
Mae’r Farwnes Louise Casey yn gynghorydd annibynnol ar les cymdeithasol, yn Athro Gwadd yng Ngholeg y Brenin Llundain ac yn Gadeirydd y Sefydliad Digartrefedd Byd-eang. Mae’n Arglwydd mainc groes yn Nhy’r Arglwyddi.

Mae'n gyn-swyddog o Lywodraeth Prydain, ac mae wedi gweithio ar faterion sy'n ymwneud â lles cymdeithasol i bum Prif Weinidog. Fe'i gwnaed yn bennaeth yr Uned Cysgu ar y Stryd yn 1999 o dan y Prif Weinidog Tony Blair. Bu'n llwyddiannus yn arwain y strategaeth a'r camau gweithredu i leihau nifer y bobl ddigartref oedd yn byw ar y strydoedd o ddwy ran o dair mewn cyfnod o dair blynedd.

Aeth y Farwnes Casey ymlaen i ddod yn Gyfarwyddwr ar yr Uned Genedlaethol ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn 2003, yn Bennaeth y Tasglu Parch yn 2005, Comisiynydd Dioddefwyr cyntaf y DU yn 2010, a Chyfarwyddwr Cyffredinol rhaglen Troubled Families y Llywodraeth yn 2011, gan helpu teuluoedd â phroblemau dwys i newid eu bywydau. Yn 2015, cynhaliodd yr Arolwg i Achosion o Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant yng Nghyngor Bwrdeistref Fetropolitan Rotherham yn Ne Swydd Efrog. Yr un flwyddyn, gofynnodd y Prif Weinidog ar y pryd, David Cameron, iddi gynnal adolygiad o gydlyniant cymunedol ac eithafiaeth, ac fe’i gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017.

Drwy gydol y cyfnod hwn, parhaodd ymrwymiad y Farwnes Casey i'r sector elusennol, a gadawodd y gwasanaeth sifil yn 2017 i gychwyn y Sefydliad Digartrefedd Byd-eang, gyda'r nod o ddarparu atebion rhyngwladol i ddigartrefedd ledled y byd.

Ym mis Mawrth 2020, dychwelodd y Farwnes Casey i’r weinyddiaeth gyhoeddus i gefnogi ymateb y Llywodraeth i bobl yn cysgu ar y stryd yn ystod pandemig COVID-19. Datblygodd y strategaeth "Everyone In", a sicrhaodd fod 90% o’r rheini oedd yn cysgu ar y stryd yn derbyn llety hunangynhwysol o fewn pythefnos ar ôl cyhoeddi’r cyfnod clo. Ar 2 Mai, fe'i penodwyd i arwain y Tasglu Ymateb i Gysgu ar y Stryd Covid-19, lle bu'n gweithio gyda'r Llywodraeth a phartneriaid cymunedol er mwyn atal dros 29,000 o bobl fregus rhag dychwelyd i fyw ar y strydoedd.

Ym mis Tachwedd 2020, daeth y Farwnes Casey yn Gadeirydd yr Ymgyrch Gymunedol COVID, gyda’r nod o ddod â llwgu i ben yn ystod gaeaf cyntaf COVID-19, ac yna i greu cynghrair o bartneriaid er mwyn rhoi diwedd ar lwgu am byth.

Gwnaed y Farwnes Casey yn Gydymaith Urdd Caerfaddon (CB) yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines yn 2008, ac fe’i gwnaed yn Fonesig Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines yn 2016. Ym mis Hydref 2020, dyrchafwyd y Farwnes Casey yn Arglwydd mainc groes yn Nhy’r Arglwyddi.

Prif Swyddog, Corfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgolion Cymru
Daeth Lt Col James Green i arwain Corfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgolion Cymru ym mis Medi 2019. Ganwyd James yn Swydd Gaerlyr, ond mae’n cael ei alw’n Jim ers mynychu'r brifysgol yn Southampton. Yn y brifysgol y daeth yn aelod o Gorfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgolion, profiad a sbardunodd ei yrfa filwrol. Aeth ymlaen i fynychu’r Academi Filwrol Frenhinol yn Sandhurst, lle cafodd hyfforddiant mewn nifer o theorïau a gwersi mewn arweinyddiaeth y mae wedi eu rhoi ar waith yn ystod ei yrfa. Daeth yn aelod o’r Grenadier Guards fel Swyddog yn 2000.

Mae wedi arwain milwyr ar weithrediadau yn Ne Affganistan, Irac, Cosofo, Bosnia, a Gogledd Iwerddon. Mae wedi hyfforddi milwyr a swyddogion ar ymarferion ledled y byd, ac wedi gweithio fel hyfforddwr yn yr Infantry Battle School, sy’n mireinio sgiliau arweinwyr troedfilwyr. Mae bellach yn arwain Corfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgolion, sefydliad sy'n cynnig hyfforddiant mewn arweinyddiaeth filwrol i fyfyrwyr prifysgol ledled Cymru.

Y tu hwnt i faes y gad, mae gan Jim brofiadau ehangach. Bu'n gweithio fel cynghorydd i dîm rheoli G4S yn ystod Gemau Olympaidd Llundain 2012. Treuliodd amser ar secondiad yn McKenzie Consulting, gan weithio ar frand y Fyddin. Yna, graddiodd Jim o’r Cwrs Uwch mewn Gorchymyn a Staff, drwy ennill Gradd Meistr mewn Astudiaethau Amddiffyn yng Ngholeg y Brenin.

Aeth ymlaen i fod yn Llefarydd y Fyddin, sef y wyneb cyhoeddus rhwng y cyfryngau cenedlaethol a'r Fyddin yn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Y llynedd, yma yng Nghymru, bu’n Uwch Gynghorydd Milwrol Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r ymateb i COVID 19.

Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Penodwyd Sophie yn Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf Cymru ym mis Chwefror 2016. Ei rôl yw gweithredu fel gwarcheidwad er budd cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, a chefnogi’r cyrff cyhoeddus a restrir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i weithio tuag at gyflawni’r nodau llesiant.

Fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf y byd, rôl Sophie yw diogelu buddiannau a lles cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Fel mam i bump o’i chenedlaethau’r dyfodol ei hun, fe’i gyrrir gan angerdd i ‘adael y byd mewn gwell cyflwr nag y gwnaethom ei ddarganfod’. Yn enwog am fod yn siaradwr plaen a gwir arweinydd, Sophie cyn hyn oedd y Cynghorydd ieuengaf yng Nghymru ar ôl cael ei hethol yn 21 oed. Mae ei gyrfa wedi rhychwantu cydraddoldeb, plismona fel Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu i’r Llu Heddlu mwyaf yng Nghymru, a bu’n gynghorydd i ddau o Brif Weinidogion Cymru.

Fe’i disgrifir fel 'y guru arweinyddiaeth cyntaf ar gyfer y genhedlaeth ddigidol' a'r 'llais mwyaf ffres mewn arweinyddiaeth heddiw'; mae Emmanuel wedi ymgynghori'n fyd-eang â sefydliadau sy'n amrywio o Astra Zeneca i Zurich Financial Services trwy Google a'r Cenhedloedd Unedig.

Am dros 20 mlynedd, mae ei ymyriadau wedi canolbwyntio ar greu'r gallu mewn sefydliadau i sicrhau canlyniadau trwy arweinyddiaeth o'r radd flaenaf.

Yn un o siaradwyr arweinyddiaeth mwyaf poblogaidd Ewrop, mae'n awdur pedwar llyfr sy’n werthwyr gorau yn y DU a'r Unol Daleithiau ac yn gydawdur dau lyfr, gan gynnwys 'Crisis Leadership' a gyhoeddwyd ar ddechrau’r pandemig COVID19. Mae ei lyfrau wedi ei sefydlu fel un o'r meddylwyr mwyaf blaenllaw ar fodelau arweinyddiaeth newydd.

@egobillot

Ymgeisiwch am yr Ysgol Aeaf

Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais:

  • Amcanion Personol - Yn gryno, disgrifiwch eich rôl arwain a’ch cyfrifoldebau ar hyn o bryd (rhwng 50 a 100 gair)
  • Amcanion yr Adran/Sefydliad - Beth yw eich amcanion dysgu ar gyfer yr Ysgol Aeaf? (rhwng 50 a 100 gair)
  • Datganiad Canlyniadau Personol - Sut bydd yr Ysgol Aeaf yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn eich gwaith? Sut byddwch chi'n defnyddio'r gwersi a ddysgir? (rhwng 50 a 100 gair)

Faint mae’n costio?

Ar gyfer Ysgol Aeaf 2021, ac wrth ymateb i sefyllfa eithriadol COVID-19, ac fel cydnabyddiaeth o sefyllfa na welwyd ei thebyg o’r blaen, yn ogystal â’r heriau sy’n wynebu arweinwyr, ni fydd cost ar gyfer mynychu.

Paratoi ar gyfer yr Ysgol Aeaf

A oes rhaid i mi aros ar-lein drwy gydol y digwyddiad?

Oes – rhaid i gynrychiolwyr fod yn bresennol yn y rhaglen gyfan. Mae wedi'i gynllunio'n bwrpasol ac ni fyddwch yn sylweddoli manteision llawn y rhaglen oni bai eich bod yn cwblhau pob agwedd.

A oes gennych unrhyw ofynion mynediad neu ofynion eraill?

Nodwch ar eich ffurflen gais os oes angen unrhyw gymorth arnoch. Os bydd angen, byddwn yn cysylltu â chi i drafod yn nes at y digwyddiad.

Iaith Gymraeg

Bydd yr Ysgol Aeaf yn cael ei chyflwyno’n Saesneg. Fodd bynnag, darperir pecynnau a deunyddiau i gynrychiolwyr yn ddwyieithog.

Paratoi personol

Lle bo'n berthnasol, rhaid i chi gwblhau'r holl ‘waith ymlaen llaw’ a bennir gan y siaradwyr.

Canolfan cynrychiolwyr

Gwahoddir cynrychiolwyr llwyddiannus i gofrestru ar ganolfan cynrychiolwyr yr Ysgol Aeaf. Mae hwn yn safle caeedig, diogel a gellir ei gyrchu unrhyw bryd, unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Bydd y ganolfan yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth bwysig yn arwain at y digwyddiad, cael trafodaethau a rhwydweithio gyda'ch cyd-gynrychiolwyr.

Mae'n bwysig eich bod yn mewngofnodi i'r ganolfan i dderbyn diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth allweddol am y rhaglen.

Sylwch y bydd angen porwr gwe cyfredol arnoch fel Microsoft Edge neu Google Chrome i gael mynediad i'r ganolfan cynrychiolwyr.

Ymunwch â’r Ysgol Aeaf - Microsoft Teams

Bydd yr Ysgol Aeaf yn cael ei chyflwyno drwy Microsoft Teams. Os nad oes gennych gyfrif Teams, gallwch ddewis sefydlu un neu ymuno fel gwestai.

Gallwch ddefnyddio porwyr gwe Microsoft Edge a Google Chrome i ymuno fel gwestai. Os ydych yn defnyddio tabled neu ffôn clyfar, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho ap Microsoft Teams o'ch siop apiau cyn y gallwch ymuno â’r Ysgol Aeaf.

Unwaith y byddwch yn cael mynediad i’r Ysgol Aeaf, ewch i'ch meicroffon oni bai bod yr hwylusydd yn gofyn i chi siarad.

Cysylltiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch yr Ysgol Aeaf.