English

Ysgol Aeaf 2026 - mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tím drwy anfon e-bost at Ysgol Aeaf.

Wedi'i ddisgrifio fel 'y guru arweinyddiaeth cyntaf ar gyfer y genhedlaeth ddigidol' a'r 'llais mwyaf ffres mewn arweinyddiaeth heddiw', mae Emmanuel wedi cynghori sefydliadau ledled y byd ar ddatblygu arweinwyr, sefydlu timau, a newid diwylliannau.

Mae’n un o siaradwyr arweinyddiaeth mwyaf poblogaidd Ewrop, ac mae'n awdur a chyd-awdur 8 llyfr oedd yn werthwyr gorau yn y DU a'r Unol Daleithiau. Yn 2024 cyhoeddodd fersiwn wedi'i diweddaru'n llawn o'i lyfr arloesol 'The Connected Leader' a gyhoeddwyd gan De Gruyter, ynghyd â llyfr newydd 'This is Not a Leadership Book' a gyhoeddwyd gan Routledge a sicrhaodd ei le fel un o feddylwyr rheoli mwyaf blaenllaw'r byd. Bydd ei lyfr newydd 'Alive Inside – Unlocking your leadership advantage in the age of AI' yn cael ei ryddhau ym mis Ionawr 2026.

Ers dros 20 mlynedd mae ei waith wedi ei seilio ar ei fantra - 'mae'n rhaid bod ffordd well a gyda'n gilydd gallwn ddod o hyd iddi’.

Daw Emmanuel o Ffrainc a symudodd i'r DU ym 1985. Mae ganddo Fagloriaeth Ryngwladol o Goleg yr Iwerydd, MA (Anrh) o Brifysgol St Andrews a Diploma mewn Gwyddor Rheoli o Brifysgol Nottingham Trent. Yn dad i ddau o blant (Charlotte a George) sydd bellach yn oedolion, mae Emmanuel yn byw yn Llundain gyda'i wraig Katherine Thomas. 

Nick yw Sylfaenydd Complex Adaptive Leadership Ltd (DU) a Rheolwr Gyfarwyddwr Agile+ Consultants (Tsieina). Mae'n arweinydd meddwl a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy'n cysylltu gwyddoniaeth cymhlethdod â doethineb Tsieineaidd hynafol, er mwyn i arweinwyr lywio amseroedd Anwadal, Ansicr, Cymhleth, ac Amwys (VUCA) mewn ffordd ymarferol. Mae wedi ennill amryw o wobrau gan gynnwys "Y Cwmni Datblygu Arweinyddiaeth Gorau" yn 2025, Arweinydd Agile ThoughT gan yr Agile Business Consortium a Gwobr Aur EFMD ar gyfer Datblygu Gweithredol gan guro llawer o ysgolion busnes blaenllaw.  Mae ganddo brofiad arweinyddiaeth eang gan gynnwys:

Ymarferwr: Uwch-gapten Addurnedig Byddin Prydain (yr ieuengaf ar y pryd) yn ei ugeiniau; Cyfarwyddwr Datblygu cwmni FTSE 100 (cyfrifoldeb llinell dros 12,000 o staff, cyfrifoldeb newid dros 45,000 o staff)

Ymgynghorydd: Ymgynghorydd Strategaeth Weithredol Ernst & Young.

Academydd: Athro Arweinyddiaeth Nyenrode (athro MBA y flwyddyn ddwywaith); athro arweinyddiaeth gwadd: LBS, INSEAD, EHL, Duke CE a Thunderbird.  Ar hyn o bryd mae’n athro arweinyddiaeth yn CEDEP (campws INSEAD, Fontainebleau) ac Ysgol Fusnes Ecole Des Ponts (campws Morrocco).

Awdur: Amrywiaeth o lyfrau gan gynnwys: “Complex Adaptive Leadership – Embracing Paradox and Uncertainty” (gwerthwr gorau Gower wedi'i gyfieithu yn Tsieina fel "Arweinyddiaeth y Dyfodol" 未来领导力). 

Mwy yn: https://uk.linkedin.com/in/nickobolensky

Morwr a siaradwr ysgogol

Nid yw Tanya yn ddieithr i amgylcheddau pwysedd uchel. Yn arweinydd lletygarwch llwyddiannus iawn a drodd yn forwr proffesiynol, mae Tanya yn dod â dros dri degawd o brofiad mewn rheoli pobl, risg a phwysau - mewn busnes ac ar y môr. Mae hi wedi bod yn gapten ar sawl taith ar draws y Cefnfor ac ar sawl ymgyrch Rolex Fastnet ac mae wedi cystadlu yn rhai o regatas hwylio amlycaf y byd. Mae Tanya yn gwybod beth mae'n ei olygu i arwain pan mae'r risgiau’n uchel. 

Gan ddefnyddio blynyddoedd o brofiad yn tywys criwiau trwy stormydd ac anawsterau, a dathlu eiliadau rhyfeddol o waith tîm a buddugoliaeth, mae Tanya yn dod â gwersi pwerus o'r cefnfor i'r gweithle—gan gynnig cipolwg ymarferol, doniol a dynol iawn ar waith tîm a gwydnwch. 

Mae sgyrsiau Tanya yn gyfoethog o brofiadau bywyd go iawn a doethineb ymarferol, gan dynnu sylw at sut y gall dewrder, cydweithio ac eglurder ein cario trwy ddyfroedd ansicr.

Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais:

  • Amcanion Personol - Yn gryno, disgrifiwch eich rôl arwain a’ch cyfrifoldebau ar hyn o bryd (rhwng 50 a 100 gair)
  • Amcanion yr Adran/Sefydliad - Beth yw eich amcanion dysgu ar gyfer yr Ysgol Aeaf? (rhwng 50 a 100 gair)
  • Datganiad Canlyniadau Personol - Sut bydd yr Ysgol Aeaf yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn eich gwaith? Sut byddwch chi'n defnyddio'r gwersi a ddysgir? (rhwng 50 a 100 gair)

Wrth gyflwyno eich cais, byddwch yn cael eich cynnwys mewn proses sifftio ar gyfer lle. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer Ysgol Aeaf 2026 a fydd yn cael eu dyfarnu i ymgeiswyr sydd wedi nodi amcanion a chanlyniadau cryfion sy’n cyd-fynd â nhw eu hunain a’u sefydliad. Mae’n bwysig eich bod yn ateb cwestiynau’r amcanion personol yn llawn, i gefnogi’r broses sifftio.

£600 + TAW. Mae hyn yn cynnwys:

  • mynediad at raglen ddysgu lawn yr Ysgol Aeaf
  • pecyn cynrychiolydd
  • llety (dydd Mawrth 3 Chwefror i dydd Gwener 6 Chwefror 2026)
  • brecwast, cinio a phryd nos yn ystod y digwyddiad

Rhaid i chi dalu unrhyw gostau personol sy'n codi, megis teithio i'r digwyddiad ac oddi yno.

Sylwch: Os dyfernir lle i chi ac yn ddiweddarach rydych chi’n penderfynu tynnu’n ôl o’r rhaglen, mae gan Academi Wales yr hawl i godi tâl gweinyddu ar eich sefydliad – ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.

Digwyddiad preswyl yw’r Ysgol Aeaf a darperir llety ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.

Adran o Lywodraeth Cymru yw Academi Wales. Mae angen rhoi’r manylion canlynol yn eich cais:

  • Enw a cyfeiriad yr sefydliad sy'n talu i chi fod yn bresennol
  • Enw a chyfeiriad e-bost y swyddog bilio

Cyflenwr: Llywodraeth Cymru
Cyfeiriad cyflenwr: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ

I gadarnhau eich lle, bydd angen i chi ddarparu rhif gorchymyn prynu. Caiff eich sefydliad ei anfonebu am eich ffi cynadleddwr yn dilyn eich presenoldeb yn Ysgol Aeaf 2026.

Am ragor o fanylion ynglyn â gofynion anfonebu, cysylltwch â’n tîm cyllid ar AW.Busnes@llyw.cymru.

Adran o Lywodraeth Cymru yw Academi Wales. I gefnogi eich cais, rhowch y manylion canlynol:

  • Cyfeiriad e-bost rheolwr cyllid cangen

I gadarnhau eich lle, rhaid i'ch rheolwr cyllid cangen ddarparu'r manylion canlynol i AW.Busnes@llyw.cymru:

  • Canolfan elw
  • Cod gweithgarwch
  • Rhif personél neu enw’r cynrychiolydd

Byddwn yn cyhoeddi trosglwyddiadau cofnodi i gasglu ffioedd y cwrs ar ôl y digwyddiad.

Os oes angen rhagor o fanylion arnoch chi am y gofynion trosglwyddo cyfnodolyn, cysylltwch â’n tîm cyllid ar AW.Busnes@llyw.cymru.

Dydd Mawrth 3 Chwefror

  • 11 yb: cofrestru a dyrannu llety (os fyddwch yn cyrraedd cyn 11 yb, rhowch wybod i ni)
  • 12 yp: cinio
  • 1 yp: rhaglen yn dechrau

Dydd Gwener 6 Chwefror

  • 1 yp: diwedd y rhaglen

Lle bo hynny’n berthnasol, mae’n ofynnol i chi gwblhau’r holl waith a osodwyd ymlaen llaw gan y siaradwyr.

Bydd cynrychiolwyr llwyddiannus yn cael eu cofrestru ar hyb cynrychiolwyr yr Ysgol Aeaf.  Mae hwn yn safle caeedig diogel a gallwch fynd iddo unrhyw bryd, yn unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Bydd yr hyb yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth bwysig cyn y digwyddiad, cael trafodaethau a rhwydweithio â’ch cyd-gynrychiolwyr.

Mae’n bwysig eich bod yn mewngofnodi i’r hyb i gael diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth bwysig am y rhaglen.

Bydd angen porwr gwe cyfredol arnoch fel Microsoft Edge neu Google Chrome i gael mynediad i'r hyb.

  • Oes - rhaid i gynrychiolwyr fod yn bresennol drwy gydol y rhaglen. Mae wedi cael ei chynllunio'n bwrpasol ac ni fyddwch yn elwa'n llawn oni fyddwch yn cwblhau pob agwedd.

  • Ydyn – fodd bynnag, rydym yn eich annog i fanteisio ar ran breswyl y rhaglen. Os ydych chi’n byw’n lleol, efallai y byddwch yn cymudo’n ôl ac ymlaen i’ch cartref – rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib os nad oes angen llety. Mae dal yn ofynnol i gynadleddwyr nad ydyn nhw’n aros i dalu’r ffi o £600 a TAW.

  • Nid oes cyfleusterau gofal plant na crèche ar gael. Bydd gofyn i chi wneud eich trefniadau gofal plant eich hun.

  • Mae prydau a lluniaeth wedi eu cynnwys yn y rhaglen (fodd bynnag nid yw alcohol na lluniaeth y bar neu'r caffi yn gynwysedig)

    • Brecwast: rhwng 7.30 a 8.30 yb bob dydd
    • Swper: 7.30 yp.

    Mae bar bychan sy’n derbyn arian parod a chaffi ar y safle. Noder: nid oes peiriant codi arian yn y lleoliad nac yn agos ato. Codwch arian cyn dod os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r cyfleusterau hyn.

  • Nodwch ar eich ffurflen gais os oes angen unrhyw gymorth arnoch neu os oes gennych unrhyw anghenion meddygol neu ddietegol penodol. Os oes angen, byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn yn nes at y digwyddiad.

  • Mae’r Ysgol Aeaf yn Saesneg ei chyfrwng. Ond mae’r deunyddiau a'r pecynnau i gynrychiolwyr ar gael yn ddwyieithog.

    • Oherwydd lleoliad anghysbell y ganolfan, efallai na fydd llawer o signal ffôn symudol. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio llinell ddaearol 24/7.
    • Mae Wifi ar gael ym mhobman heblaw am y capel
    • Fflachlamp: Safle bach yw Nant Gwrtheyrn ond, o achos ei leoliad, mae symud rhwng y neuadd weithgaredd a'r llety (yn enwedig yn y nos) yn gallu bod yn arbennig o dywyll felly byddai fflachlamp yn ddefnyddiol.
    • Pethau ymolchi, sychwr gwallt ac ati
    • Arian parod (sylwch: nid oes peiriannau arian na siopau gerllaw)
    • Cyflenwad o de, llaeth a bisgedi, gan fod gan rai o'r bythynnod geginau (ond cyflenwir yr holl fwyd a lluniaeth eraill yn ystod y digwyddiad)
    • Sesiynau ystafell ddosbarth - mae croeso i chi wisgo’n hamddenol.
    • Taith gerdded - awgrymwn eich bod yn dod â dillad cynnes, cyfforddus ar gyfer yr awyr agored, ac esgidiau cryf. Bydd hi'n anodd rhagweld y tywydd a gall droi'n oer iawn.
    • Mae’n dipyn o draddodiad bod pobl sy’n dod i’r Ysgol Aeaf yn mynd ar daith gerdded ben bore ar hyd llwybr yr arfordir cyn i sesiynau ddechrau. Os hoffech chi wneud hyn dewch â fflachlamp, esgidiau addas a dillad cynnes priodol.
  • Cadwn yr hawl i dynnu lluniau/fideo yn ystod y digwyddiad a gallant gael eu defnyddio at bwrpas cyhoeddusrwydd a chreu gwybodaeth dysgu.

  • Trafnidiaeth Cymru (allanol)

    Trenau

    www.thetrainline.com (allanol)

    Rhannu car

    Gyda'ch sêl bendith fe wnawn ni rannu eich manylion cyswllt pan fydd y rhestr o gynrychiolwyr wedi ei chadarnhau. Yna gallwch wneud eich trefniadau eich hunain ar gyfer rhannu car i'r digwyddiad ac oddi yno.

  • Tîm yr Ysgol Aeaf

    YsgolAeaf@llyw.cymru

    03000 256 687

    Nant Gwrtheyrn - y Lleoliad

    Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd LL53 6NL
    01758 750 334

    Nant Gwrtheyrn (allanol)

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tím drwy anfon e-bost at Ysgol Aeaf.

i