English

Cynhadledd Coetsio Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2024

  • Cynulleidfa
    Ymarferwyr coetsio a mentora o’r y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru - Agosáu at uwch arweinyddiaeth, Uwch arweinyddiaeth

  • Dyddiad ac amser
    14 Tachwedd 2024, 09:30 i 16:05

  • Lleoliad
    Faes Criced Morgannwg, Gerddi Sophia, Caerdydd

  • Cost
    Dim cost i gynrychiolwyr

Gwybodaeth

Mae ceisiadau nawr ar gau.

Trosolwg

Mae’n bleser gennym gyhoeddi Cynhadledd Coetsio Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2024, 'Coetsio mewn Oes Ddigidol'.

Mae pwysigrwydd coetsio yn hynod arwyddocaol wrth gefnogi eraill i fod â meddwl cliriach, gwneud penderfyniadau a chynllunio at y dyfodol. Mae'r rhaglen wedi’i chynllunio er mwyn cefnogi'r rheiny sydd â rôl goetsio ffurfiol neu anffurfiol o fewn eu sefydliadau.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma

Manteision i chi

Bydd y Gynhadledd Goetsio hon yn caniatáu ichi

  • ymgysylltu ag ymarferwyr ac arbenigwyr yn eu meysydd dewisol a fydd yn rhannu eu profiadau, offer a thechnegau
  • gwella'r gefnogaeth rydych chi'n ei darparu fel rhan o'ch ymarfer coetsio eich hun.

Ar gyfer aelodau Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan a Rhwydwaith Llywodraeth Cymru, bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gyfrif fel 6 awr o DPP.

Barn cynrychiolwyr o Gynhadledd Goetsio 2022:

"Diwrnod gwych - dysgais i gymaint gan fy nghyfoedion a'r cyflwynwyr gwych. Mae'n wych cael ymgolli mewn sgyrsiau am goetsio."

"Cyfle gwych i rwydweithio gyda chydweithwyr o wasanaethau cyhoeddus amrywiol. Roedd sesiynau’r prif siaradwyr wedi rhoi gwell dealltwriaeth o'r pwnc i mi er mwyn i mi allu datblygu dulliau newydd wrth goetsio."

"Y gynhadledd fwyaf ysbrydoledig ac ysgogol i mi ei mynychu erioed.”

Siaradwyr a darparwyr gweithdy

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Yn agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru sydd â rôl coetsio ffurfiol neu anffurfiol o fewn eu sefydliadau:

  • Agosáu at uwch arweinyddiaeth - gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau arwain, ac sy'n agosáu at lefel uwch arweinyddiaeth (fel arfer gyda 5 mlynedd neu fwy o brofiad arwain)
  • Uwch arweinyddiaeth - arweinwyr a swyddogion gweithredol uwch / haen uchaf, megis Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr

Cost

Dim cost i gynrychiolwyr.

Sut i wneud cais

Byddem yn eich annog i wneud cais yn gyflym i arbed eich lle. Dim ond nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael a’r cyntaf i’r felin. Byddwn yn rhoi’r gorau i dderbyn ceisiadau ar ôl cyrraedd capasiti llawn neu, fel arall, anfonwch gais erbyn 31 Hydref.

Gwybodaeth

Mae ceisiadau nawr ar gau.