Cynhadledd Coetsio Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2022
Cynulleidfa:
Ymarferwyr coetsio a mentora o’r y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru
Dyddiad ac amser:
17 Tachwedd 2022
09:00 i 16:15
Lleoliad:
Stadiwm Principality, Caerdydd, CF10 1NS
Dim cost i gynrychiolwyr
Trosolwg
Mae’n bleser gennym gyhoeddi Cynhadledd Coetsio 'Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2022, Syndrom Twyllwr – Y Teimlad Cudd o Fod yn Dwyllwr'.
Mae pwysigrwydd coetsio yn hynod arwyddocaol wrth gefnogi eraill i fod â meddwl cliriach, gwneud penderfyniadau a chynllunio at y dyfodol.
Mae'r rhaglen wedi’i chynllunio er mwyn cefnogi'r rheiny sydd â rôl goetsio ffurfiol neu anffurfiol o fewn eu sefydliadau.
Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Dysgwch fwy am ein hymgyrch yma
Manteision i chi
Bydd y Gynhadledd Goetsio hon yn caniatáu ichi
- ymgysylltu ag ymarferwyr ac arbenigwyr yn eu meysydd dewisol a fydd yn rhannu eu profiadau, offer a thechnegau
- gwella'r gefnogaeth rydych chi'n ei darparu fel rhan o'ch ymarfer coetsio eich hun.
Ar gyfer aelodau Rhwydwaith Coetsio Cymru Gyfan a Rhwydwaith Llywodraeth Cymru, bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gyfrif fel 6 awr o DPP.
Barn cynrychiolwyr o Gynhadledd Goetsio Cymru Gyfan 2021 (rhithwir):
"Roedd yn un o'r cynadleddau gorau i mi fynd iddi. Roedd yna gymysgedd da o gynnwys gan y prif siaradwyr ac roedd y sesiynau grwp yn wych hefyd. Diolch yn fawr. Mae gen i lawer o fyfyrio i'w wneud ac offer newydd i'w defnyddio."
"Cynhadledd hynod addysgiadol a phleserus wrth archwilio dulliau a thechnegau coetsio newydd. Dysgais lawer gan yr holl brif siaradwyr a’r gweithdai. Diolch.”
“Siaradwyr hynod ddiddorol – rhoddodd gyfle i mi oedi a myfyrio ar y ddwy flynedd ddiwethaf.”
Siaradwyr
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Dygnwch a gwydnwch
Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd
Hyrwyddo arloesi a newid
Datblygu cydweithio a phartneriaethau
Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol
Rhannu arweinyddiaeth
Synnwyr strategol
Cost
Dim cost i gynrychiolwyr
Sut i ymgeisio
Rydym wedi cyrraedd capasiti llawn ar gyfer y gynhadledd hon; fodd bynnag, gallwch ymuno â'r rhestr aros yma (bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif yn gyntaf)
Rydych yn gymwys am gyfrif os ydych yn gweithio o fewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus neu elusen gofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru.
- Adnoddau sydd ar gael
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
- Cysylltu â ni
Coetsio a mentora
- Twitter
Dilynwch ni ar Twitter @AcademiWales #UnGwasanaethCyhoeddusCymru