Cynhadledd Coetsio 2021 - siaradwyr
Cadeirydd a siaradwyr
Paul Schanzer
Cyfarwyddwr, Academi Wales
Mae gan Paul fwy na 25 mlynedd o brofiad mewn datblygu arweinyddiaeth ar ôl ymuno â GIG Cymru fel ymarferydd datblygu yn ystod y 1990au. Mae Paul wedi gweithio i Academi Wales, Llywodraeth Cymru ers 2013. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi cynnig arweiniad ar lywodraethu a hefyd ar ddatblygu ar lefel bwrdd ac ar lefel weithredol, a hynny ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru.
Ac yntau wedi datblygu fframweithiau asesu uwch dimau ar gyfer arweinwyr, mae Paul yn gysylltiedig â galluogi uwch dimau a byrddau, gan eu helpu i bennu’r nodweddion, y dulliau a’r strategaethau sy’n angenrheidiol i sefydliadau weithredu a chynnal perfformiad uchel o fewn y sefydliad.
Mae gan Paul ddiddordeb arbennig mewn archwilio cysyniadau’n ymwneud â dynameg unigolion, grwpiau a systemau, a’u heffaith ar benderfyniadau effeithiol ar lefel bwrdd. Ar ôl cwblhau’r ‘Rhaglen Dynameg Lefel Bwrdd’ gyda Sefydliad Tavistock, cyfrannodd bennod o astudiaeth achos at ‘High Performing Boards – exploring the influence of unconscious behaviours for the Dynamics at Boardroom Level’ (Cynlyfr Tavistock ar gyfer Arweinwyr, Coetswyr ac Ymgynghorwyr), a gyhoeddwyd yn 2019 gan Routledge.
Ian Bancroft
Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Dechreuodd Ian ei swydd fel Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam ym mis Awst 2018 ac am y pedair blynedd ar ddeg cyn hynny bu'n gweithio ar lefel uwch arweinwyr o fewn sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus mawr ym Manceinion Fwyaf, Glannau Mersi a gogledd-ddwyrain Cymru. Yn fwy diweddar, ers 2014, mae hyn wedi bod yng Nghyngor Sir y Fflint fel Prif Swyddog yn arwain datblygiad a gweithrediad nifer o raglenni strategol mawr yn llwyddiannus.
Mae Ian wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a'i nod yw gweithio gyda phartneriaid, cymunedau lleol a thrigolion i adeiladu a chyflawni gweledigaeth glir sy'n sicrhau canlyniadau rhagorol. Mae Ian wedi byw yn Wrecsam am y deunaw mlynedd diwethaf ac mae'n angerddol am y cyfleoedd cadarnhaol presennol y mae Wrecsam a Chymru yn eu darparu a'r potensial ar gyfer y dyfodol.
Bethan Emanuel
Ymgynghorydd Adnoddau Dynol a Choetsiwr, Call of the Wild
Mae Bethan Emanuel yn Gymrawd balch yn y CIPD, gyda bron i 30 mlynedd o brofiad ym meysydd Adnoddau Dynol ac Dysgu a Datblygu.
Mae Bethan yn frwdfrydig am gynnwys dysgu ym mhopeth a wnawn, fel y gallwn fod ar ein gorau yn y gwaith. Mae'n gweithio gyda llawer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, yn arwain newid trawsnewidiol, yn darparu rhaglenni datblygu arweinyddiaeth ac yn darparu gwasanaethau hyfforddi a mentora gweithredol. Mae'n gyfathrebwr arbennig, wyneb yn wyneb ac yn ddigidol ac yn mynd ynglyn â’i gwaith gydag egni a phroffesiynoldeb.
Mae Bethan yn meddu ar ILM7 mewn mentora a hyfforddi gweithredol a Gradd Meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol Strategol. Mae hi'n un o Ymddiriedolwyr yr elusen 2 Wish Upon a Star ac mae'n chwarae rhan weithredol yn ei gwaith. Mae Bethan yn siaradwr Cymraeg rhugl a gall ddarparu'r holl wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg ar gais y cleient.
Allison Holland
Cyfarwyddwr, Leaderful Action
Mae Allison yn ymgynghorydd, hwylusydd a choetsiwr gweithredol, sydd wedi mwynhau gyrfa hir (20 mlynedd!) ac amrywiol ym maes dysgu a datblygu, gan weithio ar draws pob sector. Mae hyn yn dyst i’w hangerdd parhaus dros ddatblygu eraill a chydweithio â sefydliadau i wneud i newid ddigwydd.
Mae Allison wrth ei bodd â theori arweinyddiaeth a choetsio ac yn gweithio’n galed i’w defnyddio ar ei thaith arweinyddiaeth ei hun. Mae hyn yn arbennig o wir am wydnwch, sydd wedi bod yn faes ffocws a dysgu iddi hi ei hun a’i chleientiaid ers blynyddoedd bellach. Nid yw Allison yn dod i’r gweithdy fel archarwr gwydn – i’r gwrthwyneb – yn hytrach mae’n awyddus i rannu ambell offeryn a meddylfryd sydd wedi ei helpu i ddatblygu meddwl mwy gwydn.
Ar ddiwrnod da, mae hyn yn ei gweld yn jyglo llawenydd a heriau arferol arweinyddiaeth, cymhlethdod, nifer o bethau y gellir eu cyflawni, bod yn rhiant (i ddwy ferch yn eu harddegau) a phartneriaeth – gyda pheth egni i ddarllen llyfr da ar ddiwedd y dydd! Ar ddiwrnod gwael, mae’n ei helpu i weld beth sydd ddim yn gweithio ac i roi cynnig ar rai pethau sydd fel arfer yn helpu i’w chael hi’n ôl ar y trywydd iawn cyn gynted â phosibl.
Wrth goetsio, mae Allison yn canolbwyntio ar werthoedd, ymddygiadau a chanlyniadau diriaethol i wireddu potensial arweinyddiaeth. Ym maes gwydnwch, mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cefnogi ei choetswyr i fod yn fwy hyblyg yn seicolegol – gan reoli meddyliau’n wahanol er mwyn cael canlyniadau gwahanol. Mae’n defnyddio dulliau o ddamcaniaeth cydnerthedd cadarnhaol, CBT ac ACT i greu strategaethau ymarferol sy’n addas i ddewisiadau’r rhai y mae’n gweithio gyda nhw. Mae hi’n edrych ymlaen at rannu’r rhain gyda chi yn y gynhadledd eleni.
Robert Holden, Ph.D.
Success Intelligence
Robert Holden, Ph.D., yw Cyfarwyddwr Success Intelligence. Mae ei waith arloesol ar lwyddiant a hapusrwydd wedi ymddangos ar Oprah, Good Morning America, PBS Special: 'Shift Happens!' a dwy raglen ddogfen fawr ar y BBC, 'The Happiness Formula' a 'How to Be Happy'.
Cyflogir ei wasanaethau fel prif siaradwr, ymgynghorydd a choetsiwr ledled y byd gan sefydliadau a brandiau fel Dove a’r Ymgyrch Gwir Harddwch, The Body Shop, IBM, Google a Virgin.
Mae wedi cyflwyno dwy sgwrs TEDx - 'The Tea Meditation', a 'Destination Addiction'.
Mae Robert yn awdur llyfrau sy’n werthwyr gorau, gan gynnwys 'Happiness NOW!', 'Authentic Success' ('Success Intelligence' oedd y teitl blaenorol), 'Shift Happens!', 'Loveability', 'Holy Shift!', 'Life Loves You' (wedi’i gyd-ysgrifennu â Louise Hay), a’i lyfr diweddaraf, 'Finding Love Everywhere - 67 ½ Wisdom Poems to Help You Be the Love You Are Looking For'. Mae'n Gymrawd yr Ymddiriedolaeth Arweinyddiaeth ac mae ar Gyfadran Gwesteion Prifysgol Santa Monica.
Byron Lee
Added Value Learning
Mae gan Byron gefndir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, addysg gymunedol, oedolion ac uwch, cwnsela a datblygu arweinyddiaeth; ac mae wedi treulio’r 30 mlynedd diwethaf yn cefnogi datblygiad unigolion, timau, cymunedau a sefydliadau, yn ogystal â systemau a newid diwylliannol.
Hyfforddodd yn wreiddiol fel nyrs cyn mynd ymlaen i hyfforddi fel athro, cwnselydd, hyfforddwr ac athro ymwybyddiaeth ofalgar. Yn ystod ei yrfa, mae wedi cefnogi llawer o sefydliadau bach, canolig a mawr yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a busnes, gan weithio gyda gweithwyr rheng flaen, uwch arweinwyr a thimau cyfan. Ei angerdd yw cefnogi unigolion, timau a sefydliadau i wau gwahanol ffynonellau o wybodaeth, doethineb ac arfer at ei gilydd i gefnogi dysgu cydweithredol; llywio ac ymgysylltu â chymhlethdod; a datblygu arferion a diwylliannau sy’n perfformio’n dda sy’n diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth.
Mae ei waith presennol yn cynnwys cefnogi datblygiad arweinyddiaeth dosturiol a chynhwysol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol; rhaglenni newid diwylliant ar draws y system; a datblygu lles a gwydnwch yn y system.
Rhodri Wyn Jones
Academi Wales
Ymunodd Rhodri â thîm Academi Wales ym mis Mawrth 2021 ac mae ar secondiad o'r Senedd, lle mae wedi gweithio mewn rolau amrywiol dros y 12 mlynedd diwethaf. Mae ganddo hanes profedig o gael y gorau gan bobl ac mae'n gweithio gydag uwch arweinwyr i wella perfformiad tîm, a helpu i feithrin diwylliant tîm cadarnhaol a chynhyrchiol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Fel Rheolwr Datblygu Sefydliadol, mae'n angerddol am amrywiaeth a lles, ac mae'n mwynhau'r cyfleoedd i fod yn greadigol wrth ddylunio mentrau newydd a chyffrous. Ymhlith ei gyflawniadau allweddol mae ennill Gwobr Aur CIPD Cymru am y Fenter Cynhwysiant ac Amrywiaeth Orau yn 2018, a chael ei roi ar y rhestr fer gan Training Journal for Learning and Development Professional of the Year 2018 ledled y DU, a chyrraedd rownd derfynol y categori Arweinyddiaeth ar gyfer y Dyfodol gan Wobrau Arwain Cymru 2018.
Ross Storr
Academi Wales
Mae Ross wedi bod yn gweithio yn y sector cyhoeddus ers dros 15 mlynedd ac mae ganddo gefndir mewn rolau Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu mewn Llywodraeth Genedlaethol a Lleol. Mae’n hwylusydd profiadol, yn mwynhau helpu pobl i fod y gorau allant fod ac yn aelod o Rwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Seicoleg Gadarnhaol (European Network for Positive Psychology). Mae wedi gweithio gyda nifer fawr o sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gan helpu i weithredu arferion o faes seicoleg gadarnhaol, gyda’r nod o wella’r gwasanaeth i staff a dinasyddion Cymru.
Roy Ellis
Academi Wales
Efallai y bydd rhai ohonoch yn adnabod Roy o'i rôl gydag Academi Wales fel rhan o’r tîm Gwelliant Parhaus a Newid. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf gydag Academi Wales a’i waith ym maes gwelliant parhaus; gall canlyniadau gwella yn yr angen i newid a gwrthwynebiad unigolion i newid rwystro gwelliant.
Yn benodol, ymddiddorodd Roy mewn damcaniaethau am wrthwynebiad unigolion i newid; a seicoleg hyn. Beth sy’n ein hatal rhag gwneud pethau gwych? Mewn llawer o sefyllfaoedd, dim ond ni ein hunain. Y diddordeb hwn oedd dechrau ei daith hunan-ddarganfod ei hun.
Dechreuais edrych yn fanylach ar sut y teimlwn mewn rhai sefyllfaoedd a’m meddyliau a’m credoau hunangyfyngol fy hun. Gwireddu bodolaeth y meddyliau hyn a’m harweiniodd i geisio dod o hyd i ateb hunangymorth. Darganfuais yr ateb hunangymorth drwy astudio ac ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar. Gall ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar rheolaidd ein galluogi i ddod yn fwy ymwybodol o batrymau meddwl arferol a di-fudd a’u newid. Mae fy astudio a’m hymarfer yn parhau.