English

Newid Diwylliant Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Newid y byd gan ddechrau yng Nghymru (a llefydd eraill)

Mae’r byd yn newid. Rydyn ni o dan bwysau mawr. Sut allwn ni ymaddasu mewn ffyrdd caredig ac ymarferol?

Ydych chi’n...

Efallai eich bod chi eisoes yn defnyddio cylchoedd trugaredd, cyd-gynhyrchu neu seibiau yn eich bywyd neu'ch gwaith bob dydd? Os felly, gobeithiwn y byddwch yn dal i ddod o hyd i rywbeth diddorol ymhlith ein Cyngor Cyflym

Heb ddechrau eto? Dim problem. Dechreuwch efo camau bach a dod â’r fodlon efo chi.

Ddim yn siŵr ble i ddechrau? 

Beth am drio un o rhain:

Neu chwiliwch am Cyngor Cyflym yma.

Profiad yw’r ffordd gorau i ddysgu. Gofynnwch os ydych chi eisiau clywed rhagor am greu chymuned ymarfer neu cylch cydweithio.

Dyma beth mae pobl yn dweud am y ffyrdd newydd hyn o weithio...

"Mae'n teimlo'n gefnogol ac yn werthfawr. Mae adeiladu hyn i'n patrymau gwaith yn ein helpu i ddod yn fwy effeithiol.  Mae cyfle i ni feddwl yn ehangach ac yn ddyfnach am y gwaith mewn gofod niwtral, deallus ydy’r peth rydw i’n croesawu fwyaf."

 "Mae'n creu trafodaeth dda a chyfnewid syniadau, gan ein helpu ni i ddeall safbwyntiau pobl eraill a meddwl yn fwy strategol am sut rydyn ni'n datrys ein heriau ein hunain, ar yr un pryd â chysylltu ag amcanion ehangach."

"Rwy'n argymell hyn pan fyddwch ar ddechrau datblygiad polisi neu ar ddechrau  gweithred neu pan fyddwch yn chwilio am newid sylweddol mewn perthnasau. Mae angen i chi ymddiried yn y broses a dyw hynny ddim yn hawdd.  Mae'n help cael y sicrwydd a'r gefnogaeth gan rywun sydd wedi rhoi cynnig arni o'r blaen."

Os ydych chi wedi trio Canllaw Newid Diwylliant yn barod, cymerwch ychydig funudau i rannu eich barn. Ni ddylai'r arolwg hwn gymryd mwy na 5 munud i'w gwblhau.

Yn wreiddiol, daw Canllaw Newid Diwylliant Academi Cymru o Raglen Newid Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.  Nod y rhaglen yw helpu gweision sifil ledled Cymru i newid eu hymddygiad a'u diwylliant yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Eisiau gwybod rhagor am Raglen Newid Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru?

Mae'r Ddeddf yn gofyn i bawb sy'n gweithio (fel aelod o staff, contractwr neu dderbynnydd grant) mewn dros 100 o sefydliadau yng Nghymru weithio mewn ffyrdd newydd.

Mae’r Canllaw Newid Diwylliant yn llawn enghreifftiau o sut mae Llywodraeth Cymru’n newid ei ymarferion gan gynnwys cynnal cyfarfodydd lle mae pawb yn cael eu clywed ac mae’r cyfarfod yn cymryd dim ond yr amser sydd ei angen.

I glywed rhagor am rhaglen newid y Llywodraeth, gallwch edrych ar ffilm neu wrando ar bodlediad. Dewiswch un o’r dolenni isod:

Dyma'r newid yr ydym yn ceisio'i wneud yn y gwasanaeth sifil. Ai dyma'r newid dylwn ni ei greu? Rhowch wybod i ni! 

Mae disgrifiad o'r gwaith ymchwil o fewn y rhaglen ar gael ar Sail Wybodaeth Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru (dolen allanol). Os ydych yn ymchwilydd a hoffai drafod gweithio gyda ni ar sail ddwyochrog, rhowch wybod i ni.  

Eisiau sefydlu rhaglen debyg (ond wahanol) eich hunan? 

Cysylltwch â Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru

Oes gynnoch chi gwestiynau neu adborth i roi i ni?

Cysylltwch â Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru