Yr hyn rydyn ni’n ei gredu
Yn Academi Wales rydym yn falch o fyw yn ôl ein gwerthoedd, gyda ffocws ar gydweithredu, ansawdd, cynaliadwyedd a gwella, a’r cyfan yn cael ei gynnal gan amgylchedd tîm gwydn, emosiynol ddeallus, lle ceir ymddiriedaeth gadarn. Rydym yn gofalu bod pob un ohonom yn atebol i’r cerrig sylfaen yma, ac maent yn cyfrannu at ein llwyddiant.
Mae ein proffil a’n heffaith ar dirlun gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn fwy nag erioed. Mae Gwerthoedd ac Ymddygiadau Arwain Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru bellach wedi'u hintegreiddio yng ngwaith Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac maent yn llywio sut mae gweision cyhoeddus yn gweithio ac yn ymddwyn.
Mae'r cysyniad o 'Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru' wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers dros ddegawd, gan adeiladu ar ymdeimlad cryf o weithio mewn partneriaeth a dulliau cydweithredol. Mae hyn yn adlewyrchu'r ethos cyffredin o weithio ar y cyd yng Nghymru. Rydym wedi cefnogi cynnydd sylweddol wrth barhau i adeiladu ac ymgorffori ethos Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru ar draws y sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a phartneriaid cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn cefnogi, galluogi a datblygu arweinwyr i allu cyflawni’r dyfodol nawr, a thrwy wneud hynny rydym wedi dangos ein gwerthoedd ein hunain ar waith, gan 'drawsnewid Cymru drwy ragoriaeth mewn arweinyddiaeth'.