Hygyrchedd
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn gallu defnyddio Academi Wales.
Defnyddio'r wefan hon
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru. Rydyn ni am i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
- dyw hi ddim yn bosibl olrhain yr holl gydrannau ar y dudalen oherwydd diffyg arwydd o ffocws
- mae rhai delweddau a ddefnyddir o fewn y wefan yn cynnwys testun
- mewn rhai rhannau o’r wefan, bydd angen diweddaru cyferbynnedd y lliw fel bod elfennau o’r testun a’r Rhyngwyneb Defnyddiwr yn haws eu gweld
- mae gan rai delweddau cynnwys fel siartiau, graffiau, ffeithluniau a diagramau ddewisiadau testun amgen anghywir neu ddim dewisiadau testun amgen o gwbl
- nid oes gan beth o’r cynnwys fideo ddewis testun neu sain ddisgrifiad amgen
- nid oes gan rai fideos (gyda thrac sain) sain ddisgrifiad a'r opsiwn i weld capsiynau
- mae rhywfaint o gynnwys yn cael ei arddangos sy'n gofyn am allu synhwyraidd penodol i ddeall neu ryngweithio â'r cynnwys
- mae gan rai cydrannau rhyngweithiol faint targed o lai na 24 x 24 picsel
- mae gan rai o dudalennau'r wefan gynnwys pennawd nad yw'n ymddangos mewn trefn resymegol
Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydyn ni’n gwybod nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- mae rhai delweddau a ddefnyddir ar y safle yn cynnwys testun
- nid yw rhai elfennau wedi’u labelu’n gywir
- mae peth o’r cynnwys mewn fformat PDF ac nid yw’n gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
- mae rhai tudalennau yn defnyddio priodweddau ansafonol a allai achosi i rai porwyr ddarllen y dudalen yn anghywir, neu nid yn unol â’r bwriad
- mewn rhai rhannau o’r wefan, bydd angen diweddaru cyferbynnedd y lliw
Beth ddylech chi ei wneud os nad ydych chi’n gallu cael mynediad at rannau o’r wefan hon
E-bostiwch AcademiWales@llyw.cymru os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille. Rhowch wybod pa fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych chi’n defnyddio technoleg gynorthwyol, rhowch wybod i ni beth yw’r dechnoleg honno.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydyn ni wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydyn ni’n bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: AcademiWales@llyw.cymru.
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych chi’n hapus gyda’r ffordd y byddwn yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cymorth a Chynghori ar Gydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwefannau hyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, a hynny yn sgil yr achosion o beidio â chydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae’r cynnwys nad yw’n hygyrch wedi’i amlinellu isod gyda manylion:
- lle mae’n methu’r meini prawf llwyddo
- y dyddiadau arfaethedig ar gyfer datrys y problemau
Nid yw'n bosibl olrhain yr holl gydrannau ar y dudalen oherwydd diffyg arwydd o ffocws.
Rydyn ni’n gweithio i ddatrys hyn a bydd hyn yn cael ei ddatrys erbyn mis Ionawr 2025
Mae gan rai delweddau cynnwys destun amgen anghywir. Mae hyn yn groes i WCAG 1.4.5.
Nid yw’r penawdau ar rai tudalennau mewn trefn resymegol. Mae hyn yn groes i WCAG 2.4.6.
Hygyrchedd adnoddau
Mae adnoddau a chynnwys gwybodaeth ar y platfform hwn yn cael eu creu gan ystod eang o gyfranogwyr. Rydyn ni’n argymell bod yr holl gyfranogwyr yn cynnal profion hygyrchedd ar eu cynnwys cyn ei lanlwytho ar Academi Wales. Os ydych chi’n gweld unrhyw gynnwys nad yw’n bodloni’r gofynion hygyrchedd, dywedwch wrthym a byddwn yn hysbysu’r sawl wnaeth greu’r cynnwys.
Trwy hyrwyddo’r gofyniad i gynnwys fodloni safonau hygyrchedd, rydyn ni am i’r holl gynnwys newydd fodloni gofynion hygyrchedd.
PDFs a dogfennau eraill
Dylai dogfennau newydd y byddwn yn eu cyhoeddi i gael mynediad at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.
Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hyn yn hygyrch. Er enghraifft, nid yw rhai ohonyn nhw:
- wedi’u marcio mewn ffordd sy’n galluogi darllenwyr sgrin i’w deall
- wedi cael eu tagio’n gywir, er enghraifft dydyn nhw ddim yn cynnwys y penawdau iawn
- wedi’u hysgrifennu mewn Cymraeg Clir neu mewn Saesneg syml
Mae rhai o’r rhain yn ddogfennau hanesyddol a dydyn nhw ddim yn hanfodol i ddarpariaeth ein gwasanaethau. Mae’r mathau hyn o ddogfennau wedi’u heithrio o’r rheoliadau. Ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw gynlluniau i’w gwneud yn hygyrch.
Os oes angen i chi gael mynediad at wybodaeth mewn dogfen o’r fath, cysylltwch â ni i ofyn am fformat amgen.
Sut wnaethom ni brofi’r wefan hon
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Mawrth 2024. Cynhaliwyd y prawf gan DigInclusion. Rydyn ni’n profi datblygiadau ychwanegol y tu allan i'r adolygiad o’r safle cyfan pan gaiff nodweddion newydd eu rhyddhau i ddefnyddwyr.
- Dosbarthiadau
- Digwyddiadau
- Rhwydweithiau
- Newyddion
- Rhestrau Chwarae
- Proffil
- Adnoddau
- Chwilio
- Aseiniadau
Profwyd:
- prif blatfform ein gwefan, sydd ar gael yn academiwales.gov.wales
Yr hyn rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydyn ni’n gweithio'n galed i wella hygyrchedd wefan Academi Wales, gan roi mesurau ar waith i sicrhau bod pob defnyddiwr, waeth beth fo’i alluoedd, yn gallu ymgysylltu'n llawn a llywio'r platfform yn ddidrafferth.
Rydym yn defnyddio dull datblygu ar sail profi wrth ddatblygu nodweddion. Pan fyddwn yn adeiladu nodweddion newydd, rydym yn gwirio eu hymarferoldeb gyda phrofion awtomataidd, ac mae un o'r profion hyn ar gyfer cydymffurfiaeth â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) A ac WCAG AA 2.2. Felly, mae pob datblygiad gennym yn cael ei brofi yn erbyn meini prawf WCAG 2.2 cyn cael ei lansio i sicrhau ein bod yn cydymffurfio.
Rydym yn y camau olaf o gyweirio’r holl gynnwys nad yw'n hygyrch, a dylai fod yn fyw erbyn mis Ionawr 2025.
Paratowyd y datganiad hwn ar 1 Medi 2022.
Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 26 Medi 2024.