Beth ydym yn ei wneud
Rydym yn darparu ystod eang o gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth ledled y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Dysgwch fwy amdanom drwy ddarllen ein Adroddiadau Blynyddol.
Datblygu'r Bwrdd
- Rydym yn dylunio, yn cyflwyno ac yn comisiynu ymyriadau wedi'u targedu er mwyn galluogi byrddau i fod yn fwy effeithiol a chefnogi cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol i ragori.
- Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag uwch arweinwyr i ddylunio rhaglenni datblygu bwrdd pwrpasol sy'n cefnogi datblygiad sefydliadol ac sydd wedi'u teilwra'n benodol i’w hanghenion ac i gyd-destun eu sefydliad.
Arweinyddiaeth a Datblygiad Sefydliadol
- Rydym yn dylunio, yn cyflwyno ac yn comisiynu rhaglenni a gweithdai arweinyddiaeth o ansawdd uchel. Caiff y rhain eu teilwra ar gyfer arweinwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru er mwyn eu cefnogi ar bob cam o'u taith arweinyddiaeth ar gyfer cwrdd â heriau'r byd modern.
- Rydym yn gweithio'n agos gydag arweinwyr a sefydliadau i gyd-greu atebion wedi'u teilwra sy'n mynd i'r afael â heriau datblygu sefydliadol ac arweinyddiaeth ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol – rydym yn dylunio ymyriadau pwrpasol a rhaglenni partneriaeth sy'n ymateb yn uniongyrchol i anghenion unigryw.
Arweinyddiaeth ac Olyniaeth
- Mae ein Ysgolion blaenllaw, ein digwyddiadau arweinyddiaeth effeithiol, a’n hadnoddau yn datblygu arweinwyr y presennol a’r dyfodol.
- Rydym yn meithrin talent ac olyniaeth sy'n cryfhau unigolion a thimau, ac yn creu diwylliant cadarn a chydweithredol o arweinyddiaeth yng ngwasanaethau Cymru, un sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Gwelliant Parhaus a Newid
- Rydym yn adeiladu’r gallu i gynnal Gwelliant Parhaus trwy wella ymwybyddiaeth a thrwy ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n galluogi unigolion a thimau i sbarduno newid ystyrlon.
- Rydym yn cryfhau’r gallu i gynnal Gwelliant Parhaus trwy feithrin rhwydweithiau cydweithredol a thrwy gefnogi arweinwyr ledled Cymru i archwilio, i ddefnyddio ac i esblygu syniadau yn ymarferol, gan wella canlyniadau i ddinasyddion.
Gwaith Ymchwil, Enw da ac Ymgysylltu
- Mae ein cynnig yn defnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf ar ddatblygu arweinyddiaeth, a chaiff ei yrru gan waith ymchwil ar anghenion esblygol ein cwsmeriaid a'n rhanddeiliaid. Mae’r gwaith o ddylunio, datblygu a gwella ein darpariaeth yn cael ei lywio gan ddull systematig o werthuso ein cyrsiau, ein digwyddiadau a’n rhaglenni.
- Rydym yn rheoli gwaith ymgysylltu â chleientiaid a rhanddeiliaid, caffael, prosesu ariannol, a monitro cyllidebau.
- Rydym yn sicrhau bod ein cynhyrchion a'n gwasanaethau yn cael eu rhedeg yn dda, eu bod yn gost-effeithiol, a’u bod yn cydymffurfio â safonau a gofynion Llywodraeth Cymru.