English

Rhaglen Darpar Gyfarwyddwyr – mwy o wybodaeth

Gweithgareddau

Mae’r rhaglen yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:

Cyflwyniad i’r rhaglen

Felly, sut gall arweinwyr ragori? Mae angen golwg eang ar eu sefydliad fwyfwy. Deall sut mae’r gwasanaeth cyfan yn gweithredu. Cryfhau nifer o alluoedd penodol – fel llywio rhwydweithiau cymhleth o berthnasoedd, egluro strategaeth eu cwmni i’w timau a chyflymu datblygiad talent. Yn olaf, rhaid iddynt wella eu gwytnwch a’u gallu i addasu’n bersonol, dysgu sut i weld cyfle mewn problemau – hyn oll wrth gynorthwyo eu pobl i ddatblygu eu gwytnwch hefyd.

Ysgol Haf

Wedi ei chynllunio fel rhaglen ‘ymestyn’. Bydd yr Ysgol Haf yn rhoi cyfle i chi adolygu ac adnewyddu eich sgiliau, adeiladu gwybodaeth newydd yn ogystal â mewnwelediad i arferion arweinyddiaeth arloesol. Bydd cyfle i chi archwilio ffyrdd dyfeisgar i ‘gyflawni’r busnes’, gan dynnu ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiad.

Trwy fyw mewn cymuned ddysgu a rhannu eich profiadau a’ch myfyrdodau gyda’ch cydgyfranogwyr ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru gyfan, mae gennych gyfle unigryw i adeiladu cysylltiadau busnes a chyfeillgarwch o’r newydd.

Bydd y cyfuniad pwerus hwn yn eich cefnogi yn y dewisiadau a wnewch ynglŷn â datblygu eich steil arweinyddiaeth. Trwy adlewyrchu eich gwerthoedd a’ch ymddygiadau eich hun i’ch cynorthwyo i deimlo, meddwl a gweithredu y tu hwnt i’ch bod dychmygol, ac i ddefnyddio eich gwir alluoedd a’ch gallu i gwrdd â gofynion arweinyddiaeth gwasanaeth cyhoeddus gan ddod yn Arweinydd gwirioneddol yr 21ain ganrif.

Set Dysgu Amser i Feddwl

Mae popeth a wnawn yn dechrau gyda meddwl. Os yw ein meddwl yn dda, mae ein penderfyniadau yn dda, ein gweithredu yn dda a’n deilliannau yn dda. Felly beth sydd yn angenrheidiol i ni fedru meddwl dros ein hunain – gyda thrylwyredd, dychymyg, dewrder a gras?

Cewch brofi gofod o fyfyrio er mwyn archwilio ac ymarfer strwythurau cyfathrebu gwaith bob dydd a sut i’w drawsnewid i feddwl yn glir, a phrofiadau bywiog a chadarnhaol.

Dosbarth Meistr 1

Mae dylunio meddwl yn ddull defnyddiwr-ganolog i ddatrys problemau. Gall wneud prosesau o fewn y sector cyhoeddus yn fwy cynhwysol, hawdd ei ddefnyddio ac arloesol. Gall dylunio meddwl drwytho creadigrwydd o fewn y proses gwneud penderfyniadau a gall ddarparu rhyngwyneb adeiladol rhwng y gwasanaethau cyhoeddus a’r dinasyddion. Bydd y dosbarth meistr yn cyflwyno’r hanfodion dylunio meddwl o fewn cyd-destun y sector cyhoeddus.

Ymgorffori Arweinyddiaeth

Mae Ymgorffori Arweinyddiaeth yn defnyddio egwyddorion a meddwlgarwch i gynnig offer ac arferion syml i gynyddu presenoldeb arweinyddiaeth ac ymateb i straen a phwysau gyda mwy o hyder a thosturi.

Ein helpu i ddeall sut a pham rydym yn ymateb yn fedrus neu’n anfedrus, gan ein cefnogi i ddysgu beth allwn ei wneud i fyw gyda mwy o ras a doethineb.

Bydd cynyddu’r amser rydym mewn cyflwr canolog a meddylgar o fod yn caniatáu inni weithredu gyda doethineb, tosturi a phŵer i ymateb i’r heriau sy’n codi yn ein bywydau a’n sefydliadau gydag ysbrydoliaeth ac urddas.

Set Dysgu Amser i Feddwl

Adeiladu ar y sgiliau a’r offerynnau o’r Set Dysgu Amser i Feddwl cyntaf.

Dosbarth Meistr 2

Deall sut mae perthnasoedd allweddol yn gweithio a sut mae angen iddynt weithio yn y dyfodol. Archwilio effeithiau ymddygiadol a sut i Ddatblygu gwahanol ymddygiadau a pherthnasoedd ar gyfer llwyddiant y dyfodol, gan alluogi ein pobl, ac felly ein sefydliadau, i ffynnu. Bydd y dosbarth meistr yn cyflwyno hanfodion deinameg ddynol yng nghyd-destun y sector cyhoeddus.

Her Newid

Defnyddio’r Cylch Datblygu Sefydliadol fel fframwaith sy’n caniatáu i unigolion rannu eu profiadau, cynhyrchu syniadau a datblygu awgrymiadau ar gyfer ffyrdd o ymyrryd mewn her system.

Effaith Cyflwyno Gwasanaeth Cyhoeddus

Mae siarad am arloesi yn hollbresennol yn y sector cyhoeddus. Mewn bywyd go iawn, mae llawer, os nad y rhan fwyaf o sefydliadau cyhoeddus yn parhau i weithredu o fewn fframweithiau cul sy’n cael eu gyrru gan effeithlonrwydd. Sut allwn ni gyfoethogi’r ymarfer o arloesi o fewn y sector cyhoeddus a galluogi’r sefydliadau i gyflawni gwerth i’r cyhoedd?

  • Pa werthoedd ddylai arwain ymarferion arloesi mewn llywodraethau?
  • Sut fyddech chi’n mesur arloesedd sefydliadau cyhoeddus?
  • Beth yw’r rhwystrau allweddol sy’n atal arloesi mewn sefydliadau cyhoeddus?

Effaith Bersonol

Creu argraff hyderus a didwyll, egluro brand personol a defnyddio’r wybodaeth a’r arbenigedd gwerthfawr i gael sylw a dyrchafiad, tra’n rheoli eich disgwyliadau eich hun a’r timau a’r sefydliadau yr ydych yn eu cynrychioli.

Mae’r ffocws ar ddod â’r arweinydd hynod hyderus, effeithiol a dilys i helpu i sbarduno cynnydd i adeiladu ac arwain diwylliant cynhwysol syn canolbwyntio ar y dinesydd.

Goleudy

Cyfle i amlygu eich dysgu personol a dathlwch eich cyflawniadau.

Gall gwahanol safbwyntiau ddarparu ffyrdd i sylwi a deall gwahaniaethau rhyngom ni a’n cydweithwyr.

Byddwch yn archwilio’r canlynol:

  • Y Canlyniad a fwriadwyd o gymryd rhan yn Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru – Rhaglen Darpar Gyfarwyddwyr.
  • Yr hyn rydych wedi ei wneud/yn bwriadu ei wneud yn wahanol yn y meysydd hyn: Arweinyddiaeth, Ymddygiadau, Newid a Gwella a chyflawniadau/llwyddiannau – fi, fy arweinyddiaeth.

Cyflwyno'ch cais

Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer y rhalgen hwn. Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais, os gwelwch yn dda:

  • Rhowch ddisgrifiad byr o’ch rôl fel arweinydd a’ch cyfrifoldebau (uchafswm o 300 gair)
  • Amlinellwch pa ganlyniadau rydych chi’n dymuno eu sicrhau drwy gymryd rhan yn y rhaglen hwn (dim mwy na 300 gair)

Mae’n rhaid cael negeseuon e-bost ar wahân gan eich rheolwr llinell a’ch arweinydd Datblygu Sefydliadol (neu swyddog cyfatebol) er mwyn cwblhau eich cais. Anfonwch eich negeseuon e-bost at Datblygu Arweinyddiaeth erbyn y dyddiad cau.

Cofiwch wneud yn siŵr bod eich cais yn cynnwys:

  • Awdurdodiad gan y rheolwr llinell sy’n cymeradwyo eich absenoldeb astudio
  • Caniatâd eich Arweinydd Datblygu Sefydliadol (neu swyddog cyfatebol)
  • Manylion cyswllt noddwr yn eich sefydliad. Rôl noddwr (os oes un gennych) yw eich mentora yn ystod y rhaglen. Yn arferol byddech yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod eich profiad, eich dysgu ach cynnydd. Gall eich rheolwr llinell neu arweinydd OD fod yn fentor.