English

Rhaglen Darpar Gyfarwyddwyr

Yn agored i holl ddarpar gyfarwyddwyr y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru

Dyddiadau:

Ebrill 2020 i Medi 2021

Hyd:

16 diwrnod dros 16 mis

Mae ceisiadau ar gau. Am ddiweddariadau a rhybuddion tanysgrifiwch i’n rhestr bostio

Trosolwg

Mewn byd busnes a nodir yn gyfnewidioldeb ac ansicrwydd cynyddol, mae ein sefydliadau angen arweinwyr medrus fwy nag erioed o’r blaen. Bydd y Rhaglen Darpar Gyfarwyddwyr yn ymateb i’r angen hwn drwy gysylltu caffael a chreu gwybodaeth newydd, a datblygu ymddygiadau newydd i unigolion, timoedd a sefydliadau.

Saif arweinwyr ar groesffordd dyngedfennol yn eu sefydliadau. Wrth i strategaethau a blaenoriaethau newid yn amlach, ac wrth i sefydliadau fynd yn fwy gwastad a gwasgaredig, yr arweinwyr yw’r ddolen gyswllt allweddol sydd yn sicrhau bod strategaeth yn gweithio. Maent yn allweddol i hwyluso lefelau uchel o gyfathrebu, cydweithio, a chydlynu ar draws lefelau, ar draws swyddogaethau ac unedau busnes a thu allan i’r sefydliad. Ar yr un pryd, rhaid iddynt ddarganfod sut i ganfod ac ymateb i’r grymoedd sydd yn ail-lunio eu sector, a chyfleu eu gweledigaethau a’u darganfyddiadau er mwyn llunio strategaeth. Ac mae gofyn iddynt wneud hyn oll wrth ddatblygu’r hyn sy’n aml yn gyfran sylweddol o’u gweithlu.

Manteision i chi

Byddwch yn:

  • Datblygu eich gallu i arwain ymhellach a meithrin potensial arweinyddiaeth eraill
  • Gwella eich hunanymwybyddiaeth, cynyddu eich hyder, effaith, effeithiolrwydd a’ch hygrededd er mwyn gwneud gwahaniaeth yn eich sefydliad a pharatoi ar gyfer heriau a gofynion rolau cyfarwyddwyr
  • Adeiladu rhwydwaith cymorth cenedlaethol pwerus o arweinwyr dylanwadol
  • Cael eich herio i wneud y cysylltiad rhwng y theori a chymhwyso’r wybodaeth i weithredoedd pragmatig, ymarferol a defnyddiol
  • Cael dysgu sy’n ychwanegu gwerth ac yn eich helpu i greu llwyddiant yn eich rôl, gyda’ch tîm ac ar gyfer eich sefydliad

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Yn agored i holl ddarpar gyfarwyddwyr y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru:

  • Cael eich cyflogi yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru neu’r trydydd sector yng Nghymru
  • Adrodd yn uniongyrchol i rywun mewn rôl Cyfarwyddwr neu gyfatebol yn eich sefydliad
  • Dyheu am fod mewn rôl ar lefel Cyfarwyddwr o fewn y 2 flynedd nesaf.
  • Ar hyn o bryd yn arwain tîm rheoli canol neu faes gwaith, gan ddarparu cyfeiriad strategol gyda rhywfaint o arweiniad gan eich rheolwr llinell

Amserlen

GweithgareddDyddiadau
Cyflwyniad23 Medi 2020
Effaith Bersonol18 i 19 Tachwedd 2020
Amser i Feddwl19 Ionawr 2021
Dosbarth Meistr 118 Mawrth 2021
Effaith Cyflwyno Gwasanaeth Cyhoeddus5 Mai 2021
Ysgol Haf21 i 25 Mehefin 2021
Amser i Feddwl14 Gorffennaf 2021
Dosbarth Meistr 223 Medi 2021
Ymgorffori Arweinyddiaeth17 i 18 Tachwedd 2021
Amser i Feddwl20 Ionawr 2022
Goleudy10 Mawrth 2022



Cost

Mae’r holl gyrsiau’n rhad ac am ddim, oni nodir yn wahanol.

Sut i wneud cais

Nodwch y bydd angen i chi gynnwys ardystiad ysgrifenedig gan eich rheolwr llinell / noddwr gweithredol fel rhan o’ch cais.

Mae ceisiadau ar gau. Am ddiweddariadau a rhybuddion tanysgrifiwch i’n rhestr bostio

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, edrychwch ar ein gwybodaeth fanwl.