English

Dr Margaret J. Wheatley

Dr Margaret J. Wheatley

Ers 1966, mae Margaret Wheatley wedi gweithio mewn gwahanol swyddi ledled y byd, fel siaradwr, athro, gweithiwr cymunedol, ymgynghorydd, cynghorydd, ac arweinydd ffurfiol. Yn sgil y profiadau sylweddol ac amrywiol hyn, mae hi wedi’i hargyhoeddi bod yn rhaid i arweinwyr ddysgu sut mae ysgogi rhinweddau cynhenid pobl, fel haelioni, creadigrwydd a’r angen am gymuned. Wrth i’r oes hon ein hollti, arweinyddiaeth synhwyrol ar ran yr ysbryd dynol yw’r unig ffordd ymlaen. Mae Margaret yn awdur naw llyfr llwyddiannus, o’r clasur 'Leadership and New Science' yn 1992 i'w llyfr diweddaraf (Mehefin 2017) 'Who Do We Choose To Be? Facing Reality; Claiming Leadership; Restoring Sanity'.

Hi yw cyd-sylfaenydd a Llywydd Sefydliad Berkana, sefydliad dielw sy'n cefnogi arweinwyr sy’n datblygu a syniadau newydd ynglŷn â sut mae trefnu mewn ffyrdd cadarnhaol. Mae Berkana wedi gweithio mewn sawl gwlad, yn enwedig mewn gwledydd datblygedig; gwaith diweddaraf y sefydliad yw darparu hyfforddiant a chymuned i arweinwyr o dros 20 o wledydd er mwyn ymgymryd â gwaith y Rhyfelwyr dros Ysbryd Dynol.

Cafodd ei doethuriaeth mewn Gweinyddiaeth, Cynllunio a Pholisi Cymdeithasol o Brifysgol Harvard yn 1979. Mae hi’n parhau i gael ei hanrhydeddu am ei gwaith arloesol gan lawer o sefydliadau, prifysgolion a chymdeithasau proffesiynol. Cafodd ei derbyn i Oriel Anfarwolion Arweinyddiaeth y Gymdeithas Arweinyddiaeth Ryngwladol yn 2014, ac fe wnaeth Cymdeithas America ar gyfer Hyfforddi a Datblygu gyfeirio ati fel ‘un o gewri’r oes’ wrth ei hanrhydeddu â'i gwobr uchaf am gyfraniadau i ddatblygu gweithleoedd.

“Mae arnom angen arweinwyr sy'n cydnabod y niwed sy’n cael ei wneud i bobl ac i’r blaned drwy arferion goruchafol sy'n rheoli ac anwybyddu, yn camddefnyddio ac yn llethu’r ysbryd dynol. Mae arnom angen arweinwyr sy'n rhoi blaenoriaeth i wasanaethau, sy'n sefyll yn gadarn mewn argyfwng a methiannau, ac sy'n gwbl ffyddiog bod pobl yn gallu bod yn hael, yn greadigol ac yn garedig.”

Margaret Wheatley