Ymwybyddiaeth Ofalgar
Cynulleidfa:
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru
Hyd:
Yn amrywio
Trosolwg
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn golygu rhoi sylw bwriadol i rywbeth mewn ffordd arbennig. Datblygwyd ymwybyddiaeth ofalgar, yn y cyd-destun hwn, gan y clinigydd John Kabat-Zinn yn yr Unol Daleithiau ac mae wedi bod yn destun gwerthuso manwl ers tro.
Mae 'arferion' ymwybyddiaeth ofalgar yn ffordd o ysgogi'r meddwl i fod yn fwy effro am gyfnod hirach i'ch anghenion eich hun, eraill a'r amgylchedd. Wrth feithrin yr hunanymwybyddiaeth hon, gallwn fod yn fwy ystyriol wrth ddefnyddio ein hegni - meddyliol, emosiynol neu ffisegol - mewn ffordd sy'n cynyddu ein hadnoddau mewnol, yn hytrach na'u lleihau.
Mae'n cynnig inni ffyrdd gwahanol o fod yng nghwmni cydweithwyr, coetswyr, partneriaid, ffrindiau a theulu, trwy addasu'r ffordd y byddem fel arfer yn ymateb ac ystyried pob sefyllfa yn unigol. Byddwn yn sylweddoli ein bod yn gallu ymlacio yng nghwmni’r bobl bwysig yn ein bywydau gan fod yn effro i’w hanghenion ar yr un pryd.
Mae'r gweithdy hwn yn gyfle i edrych ar theori Ymwybyddiaeth Ofalgar ac i gymryd rhan mewn ymarferion perthnasol o dan arweiniad.
Manteision i chi
Byddwch yn gallu:
- datblygu gwell hunanymwybyddiaeth, fel eich bod yn gallu
- nodi a rheoli'r hyn sy'n achosi straen yn eich bywyd
- rheoli eich perthnasoedd yn fwy effeithiol
- cyflwyno eich hun yn fwy dilys
- nodi adegau mewn diwrnod pan fo angen seibiant arnoch a phryd y byddai hynny'n bosibl
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Dygnwch a gwydnwch
Rhannu arweinyddiaeth
Cynulleidfa darged
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru.
Cost
Mae’r holl gyrsiau’n rhad ac am ddim, oni nodir yn wahanol.
Sut i wneud cais
- Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
- Cysylltwch â ni
Datblygu Arweinyddiaeth
- Twitter
Dilynwch ni ar Twitter @AcademiWales #UnGwasanaethCyhoeddusCymru