English

Sgwrs am Wrth-hiliaeth

Cynulleidfa
Ar agor i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru - Uwch arweinyddiaeth neu Agosàu at uwch arweinyddiaeth

Lleoliad
Rhithwir

Hyd
4 awr

Crynodeb

Beth yw ystyr bod yn wrth-hiliol mewn gwirionedd – a sut gall pob un ohonom fod yn gyfrifol am herio hiliaeth yn ein gweithleoedd a'n cymunedau?

Bydd y sesiwn ddifyr a rhyngweithiol hon yn archwilio iaith hiliaeth, sut mae'n cael ei hymgorffori yn ein systemau a'n prosesau, a sut mae braint, pŵer a chynrychiolaeth yn llunio ein profiadau bob dydd. Mae'r gweithdy’n creu lle diogel a myfyriol lle mae profiad byw yn cael ei barchu a'i glywed, a lle gall cyfranogwyr archwilio'n agored sut y gall gweithredoedd unigol a rhai ar y cyd arwain at newid ystyrlon.

Mae’r cwrs yma, sy’n cael ei gyflwyno gan Transform Your Training, yn mynd y tu hwnt i ddamcaniaeth. Gan ddefnyddio methodoleg “Training 4 Influence”, mae wedi'i gynllunio i rymuso gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio egwyddorion gwrth-hiliol yn ymarferol, gan greu gwasanaethau sy’n fwy diogel, yn decach ac yn fwy cynhwysol i bawb.

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.

Y manteision i chi

Bydd y gweithdy hwn yn eich cefnogi i:

  • Ddeall a defnyddio terminoleg hanfodol yn hyderus
  • Cydnabod sut mae hiliaeth wedi'i hymgorffori mewn strwythurau, systemau a phrosesau
  • Myfyrio ar fraint, pŵer a chynrychiolaeth yn eich swydd a'ch sefydliad
  • Archwilio beth mae'n ei olygu i fod yn wrth-hiliol – a sut i roi hyn ar waith
  • Nodi camau ymarferol y gallwch eu cymryd i ddylanwadu ar newid
  • Datblygu cynllun gweithredu personol i ymgorffori gwrth-hiliaeth yn eich gwaith

"Creodd y sesiwn le diogel lle roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus i herio fy ffordd fy hun o feddwl – mae wedi cael effaith wirioneddol ar fy ffordd o weithio."

“Des i oddi yno gyda chamau ymarferol y gallaf eu defnyddio ar unwaith. Nid sesiwn i rannu damcaniaethau yn unig oedd hi - roedd yn wir ac yn berthnasol."

Ymddygiadau allweddol y bydd y rhaglen hon yn eich helpu i’w datblygu:

  • Hunanymwybyddiaeth a myfyrdod
  • Cymhelliant a gwydnwch i herio gwahaniaethu
  • Hyrwyddo cynhwysiant a newid
  • Meithrin cydweithrediad a phartneriaeth
  • Rhannu arweinyddiaeth ac atebolrwydd
  • Ymgorffori gwrth-hiliaeth mewn ymarfer strategol a dyddiol

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged 

Ar agor i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru:

  • Agosàu at uwch arweinyddiaeth - gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau arwain, ac sy'n agosáu at lefel uwch arweinyddiaeth (fel arfer gyda 5 mlynedd neu fwy o brofiad arwain).
  • Uwch arweinyddiaeth - arweinwyr a swyddogion gweithredol uwch / haen uchaf, megis Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr.

Cost

Nid oes unrhyw dâl.

Sut i wneud cais

i