English

Rhaglen Agored Arweinyddiaeth Bwrdd

  • Cynulleidfa
    Pob aelod o fyrddau ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru a'r trydydd sector

  • Lleoliad
    Cymysgedd o ddigwyddiadau rhithwir ac wyneb yn wyneb annibynnol

  • Hyd
    Mae'r digwyddiadau'n amrywio o 90 munud i 3 awr

  • Cost
    Dim ffi ar gyfer cynrychiolwyr

Trosolwg

Mae ein Rhaglen Agored Arweinyddiaeth Bwrdd wedi'i chynllunio i roi gwybodaeth, ysbrydoli, ymestyn a herio aelodau byrddau’r gwasanaeth cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae pob digwyddiad, a fydd yn cael ei gyflwyno naill ai'n rhithwir neu'n wyneb yn wyneb, yn cael ei arwain gan hwyluswyr ac ymarferwyr profiadol ar lefel lleol a chenedlaethol. Maent yn dod â safbwyntiau rhagweithiol, dyfeisgar ac arloesol er mwyn helpu aelodau byrddau i ragweld y dyfodol, cryfhau llywodraethiant, ac arwain ag eglurder a hyder yn eu rolau presennol.

Bwriad y rhaglen yw cryfhau gallu arweinyddiaeth ar lefel bwrdd er mwyn cyflawni canlyniadau gwell i ddinasyddion yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae pob digwyddiad yn annibynnol - gallwch ddewis pa gyfuniad o ddigwyddiadau yr hoffech chi eu mynychu.

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.

Y manteision i chi

Mae'r rhaglen agored hon yn cynnig lle i aelodau byrddau gymryd cam yn ôl o ofynion o ddydd i ddydd a chymryd rhan mewn ymchwiliad amser real i'r heriau cymhleth sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Trwy seminarau, sesiynau rhyngweithiol a sgyrsiau rhwng cymheiriaid, bydd cyfranogwyr yn:

  • Cael dealltwriaeth newydd gan leisiau blaenllaw mewn llywodraethiant, arweinyddiaeth, ac arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus.
  • Cryfhau eu gallu i lunio cyfeiriad strategol, llywio pwrpas sefydliadol, a dylanwadu ar ddiwylliant.
  • Meithrin rhwydwaith dibynadwy o gyd-aelodau byrddau ledled Cymru, gan rannu dysgu a dulliau ymarferol at heriau cyffredin.

Ymddygiadau arwain

Bydd y rhaglen hon yn eich helpu i ddatblygu eich ymddygiad arweinyddiaeth yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd

Hyrwyddo arloesi a newid

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae’r rhaglen hon yn agored i bob aelod o fyrddau ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru a'r trydydd sector, gan gynnwys

  • Uwch arweinyddiaeth - arweinwyr a swyddogion gweithredol uwch / haen uchaf, megis Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr.
  • Arweinwyr bwrdd profiadol – Cadeiryddion, Prif Weithredwyr, Ymddiriedolwyr, Aelodau Anweithredol, a Chyfarwyddwyr Gweithredol sydd am ddwysáu eu harferion arweinyddiaeth a'u dylanwad.
  • Arweinwyr bwrdd sy'n dod i'r amlwg – Unigolion sydd newydd eu penodi i rolau bwrdd.

Amserlen

  • Chwarter 1: Sylfeini ac effeithiolrwydd y Bwrdd (Dynameg y Bwrdd, Effeithiolrwydd Cyfarfodydd, Heriau Iach, Datrys Gwrthdaro, Amgylcheddau Meddwl, Llywodraethiant a Sicrwydd).
  • Chwarter 2: Diwylliant arweinyddiaeth a phobl (Uniondeb, Gwneud Penderfyniadau, Cydlyniant- Diogelwch Seicolegol, Gwydnwch).
  • Chwarter 3: Rhagolwg a risg strategol (Arweinyddiaeth Systemau, Rhagwelediad strategol a newid, Arweinyddiaeth argyfwng, Cymryd Risgiau’n Ddeallus).
  • Chwarter 4: Dylanwad, arloesi ac effaith (Ymwybyddiaeth Ddigidol ac Arloesi, Amcanion ac Arfarniadau, Paratoi at y Dyfodol a Meddwl am y Dyfodol).

Mae pob sesiwn unigol wedi'i seilio ar y galluoedd sydd eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth bwrdd effeithiol.

Cost

Dim ffi ar gyfer cynrychiolwyr

Sut i wneud cais

i