English

Llywio Gwleidyddiaeth Sefydliadol

Cynulleidfa
Agored i staff y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru - Agosáu at uwch arweinyddiaeth

Lleoliad
Rhithwir

Hyd
3 oriau

Trosolwg

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn gwella eich dealltwriaeth ac yn rhoi mwy o grebwyll gwleidyddol i chi tra’n byw gwerthoedd arwain a dylanwadu gydag uniondeb. Bydd y mewnwelediadau a geir hefyd yn eich cynorthwyo i feddwl a gweithredu mewn ffyrdd sy'n helpu i gyflawni amcanion personol, tîm a sefydliadol. 

Bydd meysydd allweddol ar gyfer archwilio a chymhwyso yn cynnwys: 

  • sgiliau personol a rhyngbersonol,
  • darllen pobl a sefyllfaoedd, 
  • adeiladu aliniad a chynghreiriau, a 
  • chyfeiriad strategol a sganio.

Mae'r gallu i lywio gwleidyddiaeth sefydliadol yn effeithiol yn ymddygiad arwain hollbwysig.

Manteision i chi

  • Mwy o ddylanwad
  • Perthnasoedd cryfach a mwy effeithiol
  • Twf gyrfa a gwelededd

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Dygnwch a gwydnwch

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Synnwyr strategol

Cynulleidfa darged

Mae'n agored i staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru:

  • Agosáu at uwch arweinyddiaeth - gweithwyr proffesiynol sydd â chyfrifoldebau arwain, ac sy'n agosáu at lefel uwch arweinyddiaeth (fel arfer gyda 5 mlynedd neu fwy o brofiad arwain)

Cost

Nid oes unrhyw dâl.

Sut i wneud cais

i