English

Dwy Ochr Arweinyddiaeth

Cynulleidfa
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Sesiwn rhithwir
1 awr

neu

Sesiwn rhithwir
3 awr

Trosolwg

Bydd y cwrs rhyngweithiol hwn yn helpu arweinwyr i ddatblygu hunanymwybyddiaeth o'u nodweddion arweinyddiaeth ac archwilio sut y gallant ddefnyddio'r ddealltwriaeth hon i gynllunio diwylliannau gweithio cadarnhaol, meithrin diogelwch seicolegol, a thrawsnewid diwylliannau gwenwynig yn ddiwylliannau sy'n galluogi pobl i ffynnu. 

Deilliannau dysgu

Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn: 

  • Deall sut mae diogelwch seicolegol, cwmpawd moesol cryf, ac arweinyddiaeth sy'n seiliedig ar fwriad yn cyfrannu at greu diwylliannau cadarnhaol mewn sefydliadau ac at drawsnewid rhai gwenwynig.
  • Datblygu hunanymwybyddiaeth o'u nodweddion arweinyddiaeth, gan gydnabod dwy ochr arweinyddiaeth.
  • Creu cynllun gweithredu personol i fodelu ymddygiadau arweinyddiaeth sy'n meithrin ymddiriedaeth, cynhwysiant, a diogelwch seicolegol o fewn eu timau.

Manteision i chi

  • Mwy o ymwybyddiaeth o'ch nodweddion arweinyddiaeth.
  • Y gallu i feithrin a chynnal diwylliannau cadarnhaol yn eich meysydd gwaith.

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Cynulleidfa darged

Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru.

Cost

Dim cost i gynrychiolwyr.

Sut i wneud cais

i