English

Arweinyddiaeth Gynhwysol

Cynulleidfa
Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Sesiwn wyneb yn wyneb
1 diwrnod

Trosolwg

Nid yw arwain yn gynhwysol yn rhywbeth ychwanegol i arweinwyr ei wneud. Yn hytrach, mae'n newid pwerus, ymarferol sy'n eu galluogi i chwalu rhwystrau i aelodau'r tîm a dod yn gatalydd ar gyfer amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yn eich sefydliad.  Mae'r gweithdy hwn yn helpu cyfranogwyr i ddysgu'r sgiliau i fabwysiadu dull cynhwysol o ymdrin ag ymddygiadau a phenderfyniadau arweinyddiaeth bob dydd. 

Deilliannau dysgu

Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn: 

  • Deall beth yw arweinydd cynhwysol
  • Archwilio beth allwch chi ei wneud bob dydd i gynyddu cynhwysiant yn eich tîm
  • Datblygu strategaethau ymarferol i wella ymgysylltiad, perthyn a chanlyniadau eich tîm ar y cyd

Manteision i chi

  • Dod yn gatalydd ar gyfer cynhwysiant a thegwch
  • Ymgorffori cynhwysiant mewn arferion arweinyddiaeth dyddiol
  • Ysgogi ymgysylltu, perthyn a chanlyniadau.

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Datblygu cydweithio a phartneriaethau

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Rhannu arweinyddiaeth

Cynulleidfa darged

Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru.

Cost

Dim cost i gynrychiolwyr.

Sut i wneud cais

i