English

Adeiladu Perthnasoedd Effeithiol

Cynulleidfa:

Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Hyd:

Ar-lein 1 awr

Trosolwg

Mae ein gallu i ffurfio a chynnal perthynas effeithiol yn y gweithle ac yn y cartref yn rhan hanfodol o’n bywyd ac yn sail i lwyddiant. Rydym ni i gyd yn rhannu awydd sylfaenol i greu perthynas gadarnhaol ag eraill.

Bydd y rhaglen hon yn caniatáu i chi fapio eich perthnasoedd cyfredol yn y cartref ac yn y gwaith, edrych ar yr hyn sy’n gweithio a beth y gellid ei wneud i wella. Byddwn yn edrych ar y ffordd rydym ni’n siarad â phobl eraill, y gwahaniaethau rhwng y ffordd y mae dynion a menywod yn tueddu i gyfathrebu, a’r effaith mae hyn yn ei gael ar berthynas. Caiff nifer o dechnegau ar gyfer adeiladu perthynas gadarnhaol eu rhannu a’u defnyddio mewn ymarferion rhyngweithiol drwy gydol y sesiwn.

Rhaglen holistig yw hon sy’n canolbwyntio ar fod o fudd i bob rhan o’ch bywyd yn hytrach na gwahaniaethu rhwng y gweithle a’r cartref.

Manteision i chi

Byddwch chi’n gallu:

  • creu map o’ch perthnasoedd cyfredol
  • dynodi pa un o’r 5 gwerth allweddol sy’n bresennol ym mhob perthynas
  • edrych sut y gellid gwella eich perthnasoedd
  • cydnabod y pedwar math o ryngweithio negyddol sy’n niweidio perthynas
  • deall sut y gall menywod a dynion gyfathrebu’n wahanol a’r effaith y gall hyn ei gael
  • datblygu perthnasoedd mwy cadarnhaol drwy ddefnyddio nifer o dechnegau sydd wedi’u profi.

"Rwy’n wynebu sefyllfaoedd/pobl heriol bob diwrnod, felly bydd clywed am strategaethau pobl eraill yn ychwanegu at fy mhecyn cymorth fy hun"

Ymddygiad arweinyddol

Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:

Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth

Datblygu cydweithio a phartneriaeth

Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol

Cynulleidfa darged

Yn agored i holl staff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru.

Cost

Mae’r holl gyrsiau’n rhad ac am ddim, oni nodir yn wahanol.

Sut i wneud cais