English

Ysgol Haf 2021 - mwy o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch yr Ysgol Haf.

Cadeiryddion a siaradwyr

Cyfarwyddwr, Academi Wales
Mae gan Paul fwy na 25 mlynedd o brofiad mewn datblygu arweinyddiaeth ar ôl ymuno â GIG Cymru fel ymarferydd datblygu yn ystod y 1990au. Mae Paul wedi gweithio i Academi Wales, Llywodraeth Cymru ers 2013. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi cynnig arweiniad ar lywodraethu a hefyd ar ddatblygu ar lefel bwrdd ac ar lefel weithredol, a hynny ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru.

Ac yntau wedi datblygu fframweithiau asesu uwch dimau ar gyfer arweinwyr, mae Paul yn gysylltiedig â galluogi uwch dimau a byrddau, gan eu helpu i bennu’r nodweddion, y dulliau a’r strategaethau sy’n angenrheidiol i sefydliadau weithredu a chynnal perfformiad uchel o fewn y sefydliad.

Mae gan Paul ddiddordeb arbennig mewn archwilio cysyniadau’n ymwneud â dynameg unigolion, grwpiau a systemau, a’u heffaith ar benderfyniadau effeithiol ar lefel bwrdd. Ar ôl cwblhau’r ‘Rhaglen Dynameg Lefel Bwrdd’ gyda Sefydliad Tavistock, cyfrannodd bennod o astudiaeth achos at ‘High Performing Boards – exploring the influence of unconscious behaviours for the Dynamics at Boardroom Level’ (Cynlyfr Tavistock ar gyfer Arweinwyr, Coetswyr ac Ymgynghorwyr), a gyhoeddwyd yn 2019 gan Routledge.

Laura yw sylfaenydd Regenerators ac mae’n arweinydd agweddau ac arbenigwr ar arweinyddiaeth adfywiol ar lefel ryngwladol. Mae wedi treulio ei holl yrfa’n cynghori arweinwyr y byd ar gynaliadwyedd ac adeiladu sefydliadau a mudiadau a ysgogir gan effaith a phwrpas.

Rhoddwyd y teitl 'Newidiwr Byd' iddi gan Greenbiz, fe’i henwyd yn un o’r 30 o fenywod ar flaen y gad ym maes cynaliadwyedd ac adfywio gan Sustainable Brands, mae hi wedi’i dewis gan Fforwm Economaidd y Byd fel Arweinydd Byd Ifanc ac Arbenigwr Cynaliadwyedd ac mae hi’n cyfrannu at sawl Bwrdd.

Mae Jenny yn Swyddog Gweithredol a Hyfforddwr Tîm Systemig medrus iawn. Bu’n rhedeg ei busnes hyfforddi ei hun am yr 11 mlynedd diwethaf, gan gwblhau dros 2500 o oriau hyfforddi, gan weithio gyda Phrif Swyddogion Gweithredol, cyfarwyddwyr, ac unigolion a thimau talentog eraill i wneud newid parhaol.

Mae wedi’i chymhwyso fel Prif Hyfforddwr achrededig ICF (un o ddim ond 57 yn y DU), Hyfforddwr Tîm Systemig ardystiedig, Ymarferydd Meistr NLP ac Ymarferydd Enneagram.

Mae Jenny yn darlithio ym Mhrifysgol Caergrawnt ar arweinyddiaeth ac entrepreneuriaeth.

Mae gan Jenny sylfaen gleientiaid amrywiol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a dielw, gan ddod â chyfoeth o brofiad mewn gwahanol systemau sefydliadol a’r gallu i lywio’r cymhleth.

Cyd-ysgrifennodd y llyfr byr, “What Is My Type?”, sy’n seiliedig ar ddeall y bersonoliaeth gan ddefnyddio’r Enneagram a’i gymhwyso i’r gweithle. Ysgrifennodd “The Millennial World” sy’n helpu cenhedlaeth y Mileniwm a’r rhai nad ydynt o’r genhedlaeth honno i ystwytho eu dulliau yn y gweithle.

Mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddefnyddio ei sgiliau hyfforddi i helpu eraill gan:

  • mentora ar gyfer yr elusen Friendship Works
  • hyfforddi menywod sy’n ddi-waith yn yr hirdymor ar gyfer yr elusen Smart Works am yr wyth mlynedd diwethaf.

Added Value Learning

Mae gan Byron gefndir ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, addysg gymunedol, oedolion ac uwch, cwnsela a datblygu arweinyddiaeth; ac mae wedi treulio’r 30 mlynedd diwethaf yn cefnogi datblygiad unigolion, timau, cymunedau a sefydliadau, yn ogystal â systemau a newid diwylliannol.

Hyfforddodd yn wreiddiol fel nyrs cyn mynd ymlaen i hyfforddi fel athro, cwnselydd, hyfforddwr ac athro ymwybyddiaeth ofalgar. Yn ystod ei yrfa, mae wedi cefnogi llawer o sefydliadau bach, canolig a mawr yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a busnes, gan weithio gyda gweithwyr rheng flaen, uwch arweinwyr a thimau cyfan. Ei angerdd yw cefnogi unigolion, timau a sefydliadau i wau gwahanol ffynonellau o wybodaeth, doethineb ac arfer at ei gilydd i gefnogi dysgu cydweithredol; llywio ac ymgysylltu â chymhlethdod; a datblygu arferion a diwylliannau sy’n perfformio’n dda sy’n diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth.

Mae ei waith presennol yn cynnwys cefnogi datblygiad arweinyddiaeth dosturiol a chynhwysol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol; rhaglenni newid diwylliant ar draws y system; a datblygu lles a gwydnwch yn y system.

Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru
Yn ystod ei gyrfa mae Shan wedi cyflawni ystod eang o rolau yn y Gwasanaeth Sifil a'r Gwasanaeth Diplomyddol. Ar ôl graddio o Brifysgol Caint, ymunodd â'r Adran Gyflogaeth, gan weithio yn y Manpower Services Commission mewn amryw o rolau cyflogaeth a pholisi hyfforddiant.

O 1994-1997 Shan oedd cynrychiolydd Llywodraeth y DU ar Gorff Llywodraethol y Sefydliad Llafur Rhyngwladol cyn cael secondiad i Lysgenhadaeth Prydain ym Mharis fel Attaché Llafur a Materion Cymdeithasol. Yna cafodd ei phenodiad cyntaf i Gynrychiolaeth y DU ym Mrwsel fel y Prif Swyddog gyda chyfrifoldeb am faterion Cymdeithasol, Amgylcheddol a Rhanbarthol.

Ar ôl dychwelyd i Lundain yn 2006 ar ôl Llywyddiaeth y DU ar yr UE, trosglwyddodd Shan i'r Gwasanaeth Diplomyddol fel Cyfarwyddwr, yr Undeb Ewropeaidd yn y Swyddfa Dramor, yn gyfrifol am drafodaethau ar Gytundeb Lisbon ac arwain proses seneddol y DU o gadarnhau.

Roedd Shan yn Llysgennad EM i'r Ariannin a Paraguay o 2008-2012, cyfnod oedd yn cynnwys 30 mlynedd ers i’r Ariannin oresgyn y Falklands. Dychwelodd i Gynrychiolaeth y DU, Brwsel, fel Dirprwy Gynrychiolydd Parhaol yn 2012, gan gynrychioli'r DU ar Bwyllgor Cynrychiolwyr yr Aelod-wladwriaethau (Coreper I) yn y Cyngor. Roedd hi'n gyfrifol am arwain trafodaethau ar draws ystod eang o feysydd pwnc gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd, ynni, pysgodfeydd, materion cymdeithasol, iechyd, trafnidiaeth, a materion eraill y Farchnad Sengl.

Ym mis Chwefror 2017, penodwyd Shan yn Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, ac mae'n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru wrth iddynt gyflawni blaenoriaethau’r Gweinidogion, sy’n atebol am gyllideb o £17 biliwn.

Paralympiwr, Barwnes Mainc Groes yn Nhŷ'r Arglwyddi, Llefarydd Ysgogol a Darlledwr
Mae Tanni yn un o athletwyr Paralympaidd gorau Prydain sydd wedi hel ynghyd gasgliad rhyfeddol o fedalau dros gyfnod o 16 mlynedd a phump o’r Gemau Paralympaidd - 11 aur, 4 arian ac 1 efydd. Dros ei gyrfa, torrodd Tanni 30 o recordiau byd ar y trac.

Mae Tanni wedi parhau i fod yn rhan o’r byd chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae hi’n Aelod o Fwrdd Marathon Llundain, Sefydliad Sportsaid, Gwobrau Dug Caeredin a Join In. Yn ogystal â hyn, mae hi hefyd yn Aelod Bwrdd sawl sefydliad gan gynnwys Transport for London, Corfforaeth Datblygu Etifeddiaeth Llundain a Phwyllgor Trefnu Llundain 2017.

Mae Tanni wedi derbyn nifer o wobrau ac anrhydeddau mewn cydnabyddiaeth o’i chyflawniadau Paralympaidd ac mewn chwaraeon. Yn 2005 daeth yn 'Fonesig' Tanni Grey-Thompson am ei gwasanaeth i fyd chwaraeon. Yn 2010 daeth Tanni yn Farwnes Mainc Groes Annibynnol yn Nhŷ'r Arglwyddi, gan gymryd y teitl, Y Farwnes Grey-Thompson o Eaglescliffe yn Sir Durham. Fel barwnes mae Tanni yn defnyddio ei phrofiad a'i gwybodaeth yn ystod dadleuon yn y Tŷ ac mae hi wedi siarad ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys Hawliau Anabledd, Diwygio Lles ac, wrth gwrs, Chwaraeon.

Shereen Williams MBE OStJ

Prif Weithredwr, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Ar hyn o bryd Shereen Williams yw Prif Swyddog Gweithredol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Cyn ymgymryd â'r rôl hon ym mis Ionawr 2019, bu’n gweithio ym maes llywodraeth leol am bron i ddegawd. Fel swyddog llywodraeth leol, bu’n gweithio ar draws Awdurdodau Lleol Casnewydd a Sir Fynwy fel y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig ac roedd yn gyfrifol am gyflawni blaenoriaethau strategol gan gynnwys Ymfudo, VAWDASV, y Gymraeg, Cydraddoldeb a Chydlyniant Cymunedol.

Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae hi wedi gwirfoddoli mewn sawl rôl yn y Trydydd Sector yn ogystal ag ar gyfer cyrff statudol ac ar hyn o bryd mae'n ymddiriedolwr Ambiwlans Sant Ioan Cymru a'r Sefydliad Materion Cymreig. Mae hi hefyd yn llywodraethwr ysgol ac yn ynad sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd yng Ngwent.

Am ei gwaith yn y Trydydd Sector, cyflwynwyd Gwobr Uthman Dan Fodio am Ragoriaeth mewn Datblygu Cymunedol i Shereen yng Ngwobrau Newyddion Mwslimaidd y DU yn 2009 a Gwobr Cydnabod Cyflawniad Llywodraeth Cymru am wasanaethau i Gydlyniant Cymunedol. Yn 2017 dyfarnwyd MBE anrhydeddus iddi am wasanaeth cymunedol ac yn 2018 cafodd ei chydnabod gan y Gymdeithas i Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB) yn eu Her Arweinwyr Dylanwadol, sy'n anrhydeddu cyn-fyfyrwyr rhyngwladol nodedig o ysgolion busnes sydd wedi'u hachredu gan AACSB. Ym mis Chwefror 2020, fe'i gwnaed yn Swyddog Urdd Sant Ioan.

WHETSTON / strategic foresight

Mae Thimon de Jong yn rhedeg WHETSTON/strategic foresight, sef melin drafod sy’n arbenigo mewn strategaethau busnes, newid cymdeithasol ac ymddygiad pobl yn y dyfodol.

Mae’n brif siaradwr ac yn hyfforddwr profiadol ac mae wedi gweithio i gleientiaid fel Morgan Stanley, Vodafone ac IKEA. Hefyd, mae Thimon yn darlithio yn adran seicoleg gymdeithasol Prifysgol Utrecht lle mae’n dysgu i fyfyrwyr gradd meistr sut mae modd rhoi ymchwil academaidd ar waith yn ymarferol i wella strategaethau busnes.

Mae ganddo radd meistr mewn Astudiaethau Diwylliannol a chymhwyster mewn Astudiaethau Busnes Rhyngwladol fel pwnc atodol. Arferai fod yn gyfarwyddwr treiddgarwch a strategaeth yn TrendsActive, yn ymchwilydd yn FreedomLab Future Studies, ac yn brif olygydd y cylchgrawn RELOAD.

Cyfarwyddwr, Synaptic Potential
Amy yw Cyfarwyddwr Synaptic Potential, y tîm rhyngwladol o arweinwyr meddwl sy'n cymhwyso gwyddoniaeth arloesol i sefydliadau. Maen nhw wedi gweithio gyda chwmnïau fel Warner Brothers, EY, Prifysgol Nottingham Ningbo China, Twinings, y GIG, News UK, a Mondelez International. Mae eu dull pwrpasol yn golygu eu bod yn bartner gyda sefydliadau i'w helpu i gryfhau eu strategaeth, eu diwylliant a'u perfformiad.

Mae'r tîm yn gweithio'n fyd-eang gan rannu cymwysiadau niwrowyddoniaeth syml a dibynadwy sy'n arwain at fewnwelediadau a chanlyniadau blaengar. Ar ôl ffurfio partneriaeth â Chanolfan Newid Ymddygiad Prifysgol Bangor, cafodd y dulliau a ddefnyddiwyd hygrededd ychwanegol o fewnbwn ymchwilwyr amrywiol.

Pan fydd Amy yn siarad, mae'n cyfleu'n angerddol y neges bod gennych chi a'ch sefydliad lawer iawn o botensial y gellir ei ddefnyddio'n well os ydych yn deall sut i weithio gyda'ch ymennydd yn y ffordd orau bosibl.

Gan adael ysgol feddygol UCL gyda diddordeb ynghylch sut i gael pobl sy'n dda i fod hyd yn oed yn well, mae Amy yn gwau’r holl fewnwelediadau hyn i bethau ymarferol y gellir eu cymryd i ffwrdd. Efallai nad eich ymennydd yw'r ateb cyfan... ond dyma'r lle gorau i ddechrau!

Mae Amy yn awdur tri llyfr: ‘Make Your Brain Work’, ‘Neuroscience for Coaches’ ac ‘Engaged: The neuroscience behind creating productive people in successful organizations’.

Mae hi hefyd yn gydymaith yn Sefydliad Moller Prifysgol Caergrawnt ac yn ddarlithydd gwadd i Brifysgol Fetropolitan Manceinion yn addysgu niwrowyddoniaeth arweinyddiaeth ar raglen Meistr Cyfarwyddiaeth Chwaraeon.

amybrann.com

Awdur, siaradwr a chyflwynydd podlediad ar berthnasoedd proffesiynol
Mae Andy Lopata yn arbenigwr mewn perthnasoedd proffesiynol a rhwydweithio ers ugain mlynedd. Fe’i disgrifiwyd fel ‘un o brif strategwyr rhwydweithio busnes Ewrop’ gan y Financial Times a ‘gwir feistr rhwydweithio’ gan yr Independent a Forbes.com.

Mae Andy’n siaradwr rhyngwladol profiadol, yn awdur pum llyfr, ac mae wedi’i ddyfynnu mewn nifer o lyfrau busnes eraill ac yn rheolaidd yn y wasg ryngwladol.

Mae Andy yn Gymrawd ac yn Aelod o Fwrdd Cymdeithas Siarad Proffesiynol y DU ac Iwerddon (PSA) ac yn Gymrawd o’r Sefydliad Dysgu a Pherfformiad yn ogystal â Meistr o’r Sefydliad Rheoli Gwerthiant. Mae hefyd yn un o ddim ond 26 o dderbynwyr prif anrhydedd y PSA, y ‘Wobr Rhagoriaeth’.

Yr Athro Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn Ysgol Fusnes Bryste, Prifysgol Gorllewin Lloegr
Ymunais ag Ysgol Fusnes Bryste yn hydref 2013 fel Athro Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Yn 2014 sefydlais, a deuthum yn Gyfarwyddwr Canolfan Arweinyddiaeth Bryste ac arweiniais yr ehangu a’i hail-lansio yn 2016 fel Canolfan Arweinyddiaeth a Newid Bryste, un o’r canolfannau prifysgol mwyaf a’r mwyaf gweithgar o’i bath.

Rwyf wedi ymrwymo i ysgolheictod cymhwysol sy'n cael effaith ymhell y tu hwnt i'r byd academaidd. Mae fy addysgu a’m hymchwil yn archwilio'r rhyngwyneb rhwng dulliau unigol a chyfunol i arweinyddiaeth ac i ddatblygu arweinyddiaeth gyda ffocws penodol ar faterion hunaniaeth, diwylliant a chydweithio. Rwyf wedi cyhoeddi’n eang ar bynciau sy’n cynnwys arweinyddiaeth ddosbarthedig, arweinyddiaeth systemau, arweinyddiaeth mewn addysg uwch, arweinyddiaeth fyd-eang a gwerthuso datblygu arweinyddiaeth. Mae fy llyfrau yn cynnwys ‘Exploring Leadership: Individual, organizational and societal perspectives’ (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2011) a ‘Leadership Paradoxes: Rethinking leadership for an uncertain world’ (Routledge, 2016); roedd yr olaf ohonynt ar restr fer Gwobr Llyfr Rheoli'r Flwyddyn CMI 2017. Rwy'n Olygydd Cyswllt ar gyfer y cyfnodolyn Leadership ac rwyf yn cynnal adolygiadau yn rheolaidd ar gyfer cyfnodolion rhyngwladol blaenllaw.

Mae fy nghefndir academaidd ym maes astudiaethau arweinyddiaeth/sefydliad a seicoleg gymhwysol. Cyn ymuno ag UWE treuliais dros ddeng mlynedd yn y Ganolfan Astudiaethau Arweinyddiaeth, Prifysgol Caerwysg - fel Cymrawd Ymchwil i ddechrau, yna Darlithydd, Uwch Ddarlithydd a Phennaeth y Ganolfan. Rwyf hefyd wedi gweithio yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yng Nghaerwysg ac fel Seicolegydd Ymchwil yn y Sefydliad Seicoleg Gwaith, Prifysgol Sheffield. Y tu allan i fyd addysg uwch, rwyf wedi gweithio fel ymgynghorydd annibynnol (yn cynnal prosiectau gwerthuso yn yr Aifft a Bosnia ymhlith mannau eraill) ac wedi treulio dwy flynedd gyda chwmni TG yn Ffrainc yn datblygu a marchnata fersiwn Saesneg eu meddalwedd dylunio a dadansoddi arolwg.

Mae fy ngweithgareddau ymchwil, addysg ac ymgysylltu yn cynnwys gweithio'n agos gydag ystod o grwpiau a sefydliadau, gan gynnwys Academi Arweinyddiaeth y GIG, Bristol Golden Key, Swyddfa Ddinas Maer Bryste, Coleg Gwasanaeth Sifil Singapore, Canolfan Arweinyddiaeth a Sefydliad Arweinyddiaeth Addysg Uwch.

Rwy'n dysgu ar nifer o raglenni yn UWE, gan gynnwys MBA Bryste, BA Rheoli ac Arweinyddiaeth a chyrsiau achrededig ILM ar arweinyddiaeth a rheolaeth. Rwy'n goruchwylio myfyrwyr PhD a Meistr mewn meysydd sy'n gysylltiedig â’m diddordebau ymchwil ac rwyf bob amser yn falch o ystyried cynigion newydd.

UWE web page
@bolden_richard

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Cafodd Rebecca Evans ei hethol i Senedd Cymru am y tro cyntaf ym mis Mai 2011 i gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Yn 2016, cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Gŵyr.

Enillodd Rebecca radd mewn Hanes gan Brifysgol Leeds, a gradd MPhil mewn Astudiaethau Hanesyddol gan Goleg Sidney Sussex, Prifysgol Caergrawnt. Cyn iddi gael ei hethol, bu Rebecca yn gweithio yn y trydydd sector.

Yn y Senedd, mae Rebecca wedi gwasanaethu ar Bwyllgor yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy a’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Ym mis Mehefin 2014, cafodd Rebecca ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ac ym mis Mai 2016 daeth yn Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ei phenodi’n Weinidog Tai ac Adfywio, ac ym mis Rhagfyr 2018 ymunodd â’r Cabinet fel Gweinidog Cyllid a Threfnydd. Penodwyd Rebecca yn Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 13 Mai 2021.

Mae Gemma Morgan yn brif siaradwr a hyfforddwr ysbrydoledig sydd â mwy na 25 mlynedd o brofiad ar draws y lluoedd arfog, busnes a chwaraeon elît. Gelwir arni’n aml am farn arbenigol ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys merched ym maes arweinyddiaeth, gwydnwch a’r hyn sydd ei angen i adeiladu tîm sy’n perfformio’n dda. Mae’n awdur cyhoeddedig sydd wrth ei bodd yn herio’r meddwl confensiynol ac yn grymuso eraill i arwain yn ddilys.

Dechreuodd Gemma ei gyrfa fel Swyddog y Fyddin a hi oedd y ferch gyntaf i dderbyn y Carmen Sword gan Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol. Mae’n gyn-Athletwr Rhyngwladol a Chapten tîm Cymru, gan ennill 85 o Gapiau dros ei gwlad. Fe’i rhestrwyd hefyd fel y ‘Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr yn Ewrop’ yng Ngemau 1997. Heddiw, hi yw Sylfaenydd Morgan Eight Ltd, Cymrawd y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (FinstLM) a Meistr Ymarferydd Rhaglennu Niwro-Ieithyddol (MPNLP).

Mae Gemma wedi ymddangos ar y teledu, gan serennu yn rhaglen ddogfen y BBC, ‘Gareth Malone and the invictus Games Choir’. Ymddangosodd ochr yn ochr hefyd â’i Uchelder Brenhinol Tywysog Harri a Warner Brothers wrth hyrwyddo’r ffilm ‘Dunkirk’. Mae’n Llysgennad i’r elusen ‘Help for Heroes’, gan gefnogi Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog Prydeinig sydd wedi’u clwyfo, eu hanafu ac yn sâl. Cafodd ddiagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma o ganlyniad i’w gwasanaeth milwrol. Mae’n ymgyrchu i hyrwyddo ymwybyddiaeth am iechyd meddwl mewn sefydliadau heddiw.

Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru
Dyrchafwyd Jeremy Vaughan yn Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru ym mis Tachwedd 2020.

Dechreuodd Jeremy ei yrfa ym maes plismona yn 1996 gyda Heddlu Gogledd Cymru. Bu’n gwasanaethu cymunedau Gogledd Cymru mewn sawl rôl am ugain mlynedd, gan gyrraedd rheng y Prif Uwch-arolygydd, lle bu’n gyfrifol am Wasanaethau Plismona Lleol.

Yn 2016, symudodd Jeremy i Heddlu De Cymru fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol, yn gyfrifol am Weithrediadau Arbenigol, gan gynnwys Safonau Proffesiynol, Cyfiawnder Troseddol, Cynllunio Gweithredol a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus. Ym mis Rhagfyr 2017, bu’n gyfrifol am y portffolio Plismona Tiriogaethol gan gynnwys arwain y gwaith o Blismona yn Gymdogaeth ac Ymateb. Parhaodd i weithredu fel Pennaeth y portffolio hwn nes iddo gael ei ddyrchafu’n Ddirprwy Brif Gwnstabl yn 2019.

Yn ogystal â’i ddyletswyddau gyda’r Heddlu, Jeremy yw arweinydd yr Heddlu o ran Cydweddu Wynebau (Adnabod) yn y DU, gan gefnogi’r gwaith o ddatblygu technoleg adnabod wynebau yn genedlaethol, ynghyd â defnydd heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ohoni.

Jeremy yw’r arweinydd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru, a chafodd ei gydnabod am ei waith yn y maes hwn gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Menywod yn yr Heddlu yn 2019, drwy wobr HeForShe. Mae ganddo hanes hir o arwain ym maes Cydraddoldeb ac yn 2019, cafodd gydnabyddiaeth gyda Gwobr Arwain Cymru – Arwain Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Fel siaradwr Cymraeg rhugl, cafodd Jeremy ei benodi i Orsedd Cymru yn 2019 am ei wasanaeth i’r Gymraeg. Mae hyn yn adlewyrchu ei waith yn Heddlu De Cymru yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ac yn gwella’r gwasanaeth a ddarperir i unigolion mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Cynghorydd Arbenigol ar Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru
Yn wreiddiol o Nigeria, mae gan Uzo radd yn y gyfraith o Brifysgol Nigeria a chymhwysodd fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr ac fe’i galwyd hi i Far Nigeria.

Ar ôl cymhwyso fel bargyfreithiwr yn Nigeria, symudodd Uzo i Gymru lle mae hi bellach yn gwasanaethu fel prif swyddog gweithredol Race Council Cymru ac yn eistedd ar fwrdd sawl sefydliad gwirfoddol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethu fel cadeirydd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yng Nghymru, a sefydlwyd ganddi yn 2004.

Mae Uzo wedi gwasanaethu gyda thîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu, a leolir yn y Swyddfa Gartref, lle bu’n ymwneud â datblygu polisïau cenedlaethol ar gysylltiadau ac amrywiaeth hiliol.

Ar ôl symud i Gymru, bu’n Ddarlithydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith, Abertawe am naw mlynedd. Enillodd Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) gyda rhagoriaeth o Brifysgol Cymru. Cwblhaodd gymhwyster Gradd Meistr mewn Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Morgannwg.

Yn 2004, ymunodd â Heddlu De Cymru ac, yn yr un flwyddyn, sefydlodd y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC) gyntaf yng Nghymru a bu’n gadeirydd arni am 15 mlynedd.

Penodwyd Uzo i Dîm Amrywiaeth Cenedlaethol yr Heddlu (PNDT), sydd wedi'i leoli yn y Swyddfa Gartref, i gynrychioli Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) a'r 43 heddlu yn y DU ar bartneriaeth deiran strategol lefel uchel, gan gynnwys y Swyddfa Gartref, Awdurdod yr Heddlu (APA) ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) sydd â'r dasg o ddatblygu polisïau cenedlaethol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Gwasanaethodd Uzo gyda Chomisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE) y DU fel Comisiynydd nes iddo uno â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ym mis Hydref 2007. Yn 2008 dyfarnwyd OBE iddi i gydnabod ei gwasanaeth i gysylltiadau cymunedol a chymunedau De Cymru.

Mae Uzo yn Hyfforddwr Gweithredol Lefel 7 achrededig llawn gyda'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM).

Cafodd Uzo ei chydnabod a'i chanmol pan gafodd y gwobrau a restrir isod gan wahanol gyrff

  • 2006 Cydnabyddiaeth o gyflawniad rhagorol mewn gwaith cymunedol gan Wobr Fenyw'r Flwyddyn Bae Abertawe (Cyflawniad Cymunedol) 2006
  • 2008 Wrth gydnabod cyflawniad Uzo o ran cyfraniadau cymunedol, ar 14 Mehefin 2008, dyfarnodd y Frenhines OBE (Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) am ei chyfraniadau i gysylltiadau hiliol cymunedol a Chymunedau De Cymru.
  • 2009 Fe wnaeth Comisiwn Cenedlaethol y Menywod gynnwys stori Uzo yn ei gyfnodolyn o'r enw, “A guide to Women in Public Life”.
  • 2010 Cyflwynwyd Gwobr Cydnabyddiaeth y Prif Weindiog i Uzo am ei chyfraniadau at gydraddoldeb hiliol a chysylltiadau hiliol yng Nghymru
  • 2011 Cafodd Uzo ei hanrhydeddu a'i chynnwys yn Adroddiad Myfyrdodau'r Cyngor Prydeinig yn Nigeria
  • 2011 Derbyniodd Uzo Wobr Cyflawniad Oes gan Gymdeithas Genedlaethol Cymunedau Nigeria (NANC –UK)
  • 2015 Derbyniodd Uzo Wobr Cyflawniad Menyw Ddu Eithriadol yng Nghymru am gyfraniadau i’r Mudiad Hanes Pobl Dduon yng Nghymru
  • 2017 Derbyniodd Uzo Wobr Cydnabyddiaeth fel Sylfaenydd y Mudiad Hanes Pobl Dduon yng Nghymru
  • 2017 Derbyniodd Uzo Wobr Cyflawniad Menywod o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru (EMWWAA), Gwobr Cymru gyfan am Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • 2017 Derbyniodd Uzo Wobr Llysgennad i Gymru EMWWAA
  • 29 Medi 2018 Cafodd Uzo sylw yng nghyhoeddiad Black Brilliant and Welsh Walesonline. Rhestrwyd Uzo yn rhif 30 ar y rhestr o’r 100 Person Affricanaidd ac Affro-Caribïaidd Gorau yng Nghymru

Penodwyd Uzo gan Ruth Kelly, yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, i wasanaethu fel comisiynydd i Gomisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE) y DU nes iddo uno â chomisiynau eraill i ffurfio'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ym mis Hydref 2007.

Cyflawnodd Uzo radd ragorol mewn Hyfforddi a Rheoli Gweithredol Lefel 7 gyda'r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth a gwasanaethodd fel ymddiriedolwr y Groes Goch Brydeinig am chwe blynedd yn ogystal ag ymddiriedolwr Coleg y Byd Unedig - Coleg yr Iwerydd. Mae Uzo yn arwain cynlluniau dysgu a datblygu ar gyfer henuriaid Affricanaidd Caribïaidd ledled Cymru trwy Gynllun Henuriaid Hanes Pobl Dduon Cymru. Mae Uzo yn mentora pobl ifanc a dysgwyr sy'n oedolion i gyflawni eu gweledigaethau a'u dyheadau trwy'r gadwyn hyfforddi y mae'n ei hwyluso.

Mae Uzo yn gweithio fel y fenyw ddu gyntaf i gael ei phenodi'n Gynghorydd Arbenigol ar Gydraddoldeb i Lywodraeth Cymru.

Penodwyd Uzo yn Gymrodyr anrhydeddus ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (UWTSD) ac yn Athro Ymarfer Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Prif Weithredwr, Y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Annog y Celfyddydau, Gweithgynhyrchu a Masnach (RSA)
Mae Matthew Taylor wedi bod yn Brif Weithredwr yr RSA ers mis Tachwedd 2006.

Yn ystod ei gyfnod yn arwain y sefydliad, mae'r Gymdeithas wedi cynyddu ei hallbwn ymchwil ac arloesedd yn sylweddol, wedi cynnig ffyrdd newydd o gefnogi mentrau elusennol eu 30,000 o gymrodyr, ac wedi datblygu proffil byd-eang fel llwyfan ar gyfer syniadau.

Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Matthew yr adroddiad 'Good Work', sef adolygiad annibynnol o gyflogaeth fodern, a gomisiynwyd gan Brif Weinidog y DU.

Ym mis Medi 2019, dechreuodd Matthew rôl ran-amser newydd fel Cyfarwyddwr Gorfodi'r Farchnad Waith i’r Llywodraeth, ac mae hefyd yn aelod o'u Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol.

Mae Matthew yn ymddangos ar y cyfryngau yn rheolaidd, ac wedi bod ar raglen Today, The Daily Politics, a Newsnight sawl gwaith. Mae wedi ysgrifennu a chyflwyno sawl rhaglen ddogfen ar Radio 4 ac mae'n banelydd ar y rhaglen Moral Maze. Mae wedi postio dros fil o weithiau ar ei flog i’r RSA ac mae’n trydar o dan yr enw @RSAMatthew. Mae hefyd yn Uwch Olygydd cyfres Thames & Hudson Big Ideas.

Cyn iddo gael ei benodi, Matthew oedd Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, ac yna daeth yn Brif Gynghorydd ar strategaeth wleidyddol i'r Prif Weinidog ar y pryd, Tony Blair. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Polisi ac Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Blaid Lafur.

Prif Swyddog Gweithredol, Positran
Mae'r Athro Ilona Boniwell yn un o sylfaenwyr seicolegydd cadarnhaol yn Ewrop, sy'n gweithio yn y maes ers dros ugain mlynedd. Hi yw Prif Swyddog Gweithredol Positran Ltd, pennaeth yr MSc Rhyngwladol mewn Seicoleg Gadarnhaol ym Mhrifysgol Anglia Ruskin, ysgrifennodd neu olygodd saith llyfr a chyflwyno dros 200 o brif nodiadau.

Fe’i disgrifir fel 'y guru arweinyddiaeth cyntaf ar gyfer y genhedlaeth ddigidol' a'r 'llais mwyaf ffres mewn arweinyddiaeth heddiw'; mae Emmanuel wedi ymgynghori'n fyd-eang â sefydliadau sy'n amrywio o Astra Zeneca i Zurich Financial Services trwy Google a'r Cenhedloedd Unedig.

Am dros 20 mlynedd, mae ei ymyriadau wedi canolbwyntio ar greu'r gallu mewn sefydliadau i sicrhau canlyniadau trwy arweinyddiaeth o'r radd flaenaf.

Yn un o siaradwyr arweinyddiaeth mwyaf poblogaidd Ewrop, mae'n awdur pedwar llyfr sy’n werthwyr gorau yn y DU a'r Unol Daleithiau ac yn gydawdur dau lyfr, gan gynnwys 'Crisis Leadership' a gyhoeddwyd ar ddechrau’r pandemig COVID19. Mae ei lyfrau wedi ei sefydlu fel un o'r meddylwyr mwyaf blaenllaw ar fodelau arweinyddiaeth newydd.s.

@egobillot

Gwneud cais am yr Ysgol Haf

Cyflwyno eich cais

Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar y rhaglen hon, a ddyfernir drwy broses ddethol gystadleuol. Mae’n bwysig eich bod yn cyflwyno amcanion a chanlyniadau cryf sy’n cyd-fynd â chi’ch hun a’ch sefydliad. Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais:

  • Amcanion Personol - Yn gryno, disgrifiwch eich rôl arwain a’ch cyfrifoldebau ar hyn o bryd (rhwng 50 a 100 gair)
  • Amcanion yr Adran/Sefydliad - Beth yw eich amcanion dysgu ar gyfer yr Ysgol Haf? (rhwng 50 a 100 gair)
  • Datganiad Canlyniadau Personol - Sut bydd yr Ysgol Haf yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn eich gwaith? Sut byddwch chi'n defnyddio'r gwersi a ddysgir? (rhwng 50 a 100 gair)

Deilliannau dysgu

Mae deilliannau dysgu’n ddatganiadau sy’n disgrifio dysgu arwyddocaol a hanfodol y mae dysgwyr wedi’i gyflawni ac y gallant ei arddangos mewn ffordd ddibynadwy ar ôl yr Ysgol Haf. Mewn geiriau eraill, mae deilliannau dysgu’n dangos yr hyn y byddwch yn gallu ei wneud erbyn diwedd y rhaglen.

Dylai deilliannau dysgu:

  • Adlewyrchu gwybodaeth, sgiliau neu ymddygiadau hanfodol
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau’r profiad dysgu
  • Adlewyrchu canlyniad dymunol y digwyddiad, nid y dull na’r broses
  • Bod o leiaf 50 gair a hyd at 100 o eiriau.

Beth sy'n briodol
Fel Pennaeth Gwasanaeth yn yr awdurdod, rhan o fy rôl yw adeiladu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithiol (ac wedi’u datblygu’n gydweithredol). Mae angen i mi allu ymgysylltu’n llawn â fy rhanddeiliaid a fy nhîm i helpu i fwrw ymlaen â’r agenda hon. Rwyf yn gallu adeiladu ar fy sgiliau drwy gael dealltwriaeth o’r pecynnau cymorth a’r technegau sy’n gallu helpu i ymgysylltu’n effeithiol ag eraill.

Mae’r amcan hwn yn rhan allweddol o fy nghynllun datblygiad personol a bydd yn cael ei fesur fel rhan o fy mherfformiad cyffredinol. Ar ôl dychwelyd i’r gwaith ar ôl yr Ysgol Haf, byddaf yn adolygu fy nysgu gyda fy rheolwr ac yn ystyried sut y gall fy helpu i gwblhau fy ngweithredoedd.

Rwyf yn awyddus i glywed mwy am waith David Zinger ar ymgysylltu â chyflogeion a’u lles; yn enwedig yng ngoleuni’r heriau mae fy nhîm yn eu hwynebu wrth geisio cyflawni ein hamcanion busnes yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Ar ddiwedd wythnos yr Ysgol Haf, rwyf yn bwriadu creu cynllun gweithredu i fy helpu i drosi dysgu’r wythnos i weithredoedd drwy ddefnyddio’r pecynnau a’r technegau rwyf yn eu dysgu, ynghyd ag arferion da, meddwl newydd a chymorth cymheiriaid. Byddaf yn cwrdd â fy Mhrif Weithredwr ym mis Gorffennaf i adrodd yn ôl ar yr Ysgol Haf a fy nghynllun gweithredu.

Beth sy'n amhriodol
Rwyf yn disgwyl gwella fy sgiliau ymgysylltu yn yr Ysgol Haf drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a thrwy wrando ar y siaradwyr.

Mae’n bwysig fy mod yn meddu ar y sgiliau hyn i fy ngalluogi i wneud fy ngwaith.

Mae rhaglen yr Ysgol Haf yn ymddangos yn ddiddorol dros ben a dylai nifer o’r sesiynau fy helpu gyda fy nysgu a fy natblygiad.

Amcanion Dysgu

Mae amcan dysgu’n ddatganiad pendant sy’n disgrifio’r hyn y mae rhywun yn ceisio’i gyflawni o ganlyniad i weithgarwch dysgu. I’r graddau posibl, dylai amcanion dysgu fod yn rhai CAMPUS: Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol. Mae amcanion CAMPUS yn wahanol i “nodau” sy’n fwy cyffredinol ac sydd weithiau’n anodd i’w mesur yn uniongyrchol.

Enghraifft bersonol

Beth sy'n briodol
O ganlyniad i fynychu’r Ysgol Haf, byddaf yn deall fy sgiliau ymgysylltu’n well, gan gynnwys fy nghryfderau a meysydd i’w gwella. Bydd yr wybodaeth hon, ynghyd â fy nghynllun gweithredu o’r Ysgol Haf, yn fy helpu i asesu fy nghynnydd yn y maes hwn yn ystod y 12 mis nesaf. Bydd hyn hefyd yn cael ei drafod a’i fesur fel rhan o’r broses o adolygu fy nghynnydd gyda fy rheolwr.

Beth sy'n amhriodol
Hoffwn fynychu’r Ysgol Haf fel yn gallu bod yn arweinydd sy’n ymgysylltu’n well.

Enghraifft sefydliadol

Beth sy'n briodol
O ganlyniad i fynychu’r Ysgol Haf, byddaf yn gallu defnyddio amrywiaeth o becynnau a thechnegau i ymgysylltu ag eraill yn y broses o ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau, annog rhanddeiliaid, cymunedau ac unigolion allweddol i gyfrannu at hyn ac i berchnogi’r canlyniadau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i fy ngwaith gyda thimau gwasanaethau brys yng Nghanolbarth Cymru, i ystyried sut y gallwn ddatblygu gwasanaeth mwy ymatebol, cydlynus sy’n berthnasol i gymunedau yn yr ardal.

Ym mis Gorffennaf, byddaf yn trefnu sesiwn ar gyfer fy nhîm i rannu’r pecynnau a’r technegau a ddysgwyd yn yr Ysgol Haf ac i ymgorffori’r rhain yn ein cynlluniau ar gyfer y tîm er mwyn bwrw ymlaen â’n prif amcanion busnes.

Beth sy'n amhriodol
Rwyf eisiau gallu ymgysylltu’n well ag eraill a gobeithiaf y bydd yr Ysgol Haf yn rhoi’r sgiliau i mi i wneud hyn.

Ffioedd cynadleddwyr

Codir ffi cynadleddwyr am yr Ysgol Haf a fydd yn cyfrannu at gostau dysgu’r digwyddiad. Bydd dwy gyfradd yn berthnasol:

  • Cyfradd adar cynnar o £199.00 + TAW – i fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd hon rhaid i chi gyflwyno eich cais wedi'i gwblhau erbyn dydd Gwener 23 Ebrill 2021
  • Cyfradd safonol yw £250.00 + TAW – ceisiadau i'w cyflwyno erbyn dydd Gwener 7 Mai 2021

Sylwch, os tynnwch yn ôl o’r Ysgol Haf ar ôl i le gael ei ddyfarnu i chi, efallai y bydd yn ofynnol i'ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.

Bwrsariaethau

Am y tro cyntaf, rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau. Mae bwrsariaeth yr Ysgol Haf yn cynnig hyd at 100% tuag at gostau rhaglenni.

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, lleiafrifoli ac yn ddifreintiedig lle mae gan sefydliadau sy'n cyflogi arian cyfyngedig, yn enwedig yn y trydydd sector a'r sector gwirfoddol.

Os bydd yn llwyddiannus, bydd y fwrsariaeth yn cael ei chynnwys yn nyraniad eich sefydliad o leoedd. Ni fydd eich sefydliad yn cael lle ychwanegol.

Cwestiynau bwrsari

Rhowch dystiolaeth eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer bwrsariaeth (50 i 100 gair). Mae angen i'ch ymateb alinio â'r meini prawf isod:

  • Rydych yn rhan o grwp sy’n cael ei dangynrychioli, lleiafrifoli neu’n ddifreintiedig o fewn eich sefydliad.
  • Y sector y mae eich sefydliad yn ei gynrychioli
  • Maint eich sefydliad
  • Gwerth y fwrsariaeth yr ydych yn gwneud cais amdani.

Sut ydw i'n talu? Pa wybodaeth sydd ei hangen?

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cynnig lle dros dro i chi yn yr Ysgol Haf. I gadarnhau eich lle mae'n rhaid i chi ddarparu eich manylion bilio erbyn 25 Mai 2021. Os na fyddwn yn derbyn eich manylion bilio mewn pryd, efallai y byddwn yn cynnig eich lle i rywun arall. Byddwn yn anfonebu eich sefydliad am eich ffi cynadleddwyr ar ôl yr Ysgol Haf.

Bilio ar gyfer ymgeiswyr am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a'r trydydd sector

Mae Academi Wales yn rhan o Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi ddarparu'r manylion canlynol yn eich cais:

  • Enw’r sefydliad sy'n talu i chi fod yn bresennol
  • Enw a chyfeiriad y swyddog bilio
  • Cyfeiriad e-bost y swyddog bilio

Cyflenwr: Llywodraeth Cymru
Cyfeiriad cyflenwr: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ

I gadarnhau eich lle, rhaid i chi roi rhif archeb brynu i ni. Byddwn yn anfonebu eich sefydliad am eich ffi cynadleddwyr ar ôl yr Ysgol Haf.

Os oes angen rhagor o fanylion arnoch am y gofynion anfonebu, cysylltwch â'n tîm cyllid yn AW.Busnes@llyw.cymru.

Bilio ar gyfer ymgeiswyr Llywodraeth Cymru

Mae Academi Wales yn rhan o Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi ddarparu'r manylion canlynol yn eich cais:

  • Cyfeiriad e-bost rheolwr cyllid cangen

I gadarnhau eich lle, rhaid i'ch rheolwr cyllid cangen ddarparu'r manylion canlynol i AW.Busnes@llyw.cymru:

 

  • Canolfan elw
  • Cod gweithgarwch
  • Rhif personél neu enw’r cynrychiolydd

Byddwn yn cyhoeddi trosglwyddiadau cofnodi i gasglu ffioedd y cwrs ar ôl y digwyddiad.

Os oes arnoch angen rhagor o fanylion am y gofynion trosglwyddo, cysylltwch â’n Tîm Cyllid AW.Busnes@llyw.cymru.

Paratoi ar gyfer yr Ysgol Haf

Amserlen

Dydd Mawrth 22 Mehefin – Diwrnod 1

Gwahoddir cynadleddwyr i fewngofnodi o 08:10
Digwyddiad i ddechrau 08:40 i 17:40

Dydd Mercher 23 Mehefin – Diwrnod 2

08:40 i 17:45

Dydd Iau 24 Mehefin – Diwrnod 3

08:40 i 17:45

A oes rhaid i mi aros ar-lein drwy gydol y digwyddiad?

Oes – rhaid i gynadleddwyr fod yn bresennol ar gyfer y rhaglen gyfan. Mae wedi'i chynllunio'n bwrpasol ac ni fyddwch yn sylweddoli manteision llawn y rhaglen oni bai eich bod yn cwblhau pob agwedd.

A oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd neu ofynion eraill?

Nodwch ar eich ffurflen gais os oes angen unrhyw gymorth arnoch. Os bydd angen, byddwn yn cysylltu â chi i drafod yn nes at y digwyddiad.

Cymraeg

Bydd yr Ysgol Haf yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Fodd bynnag, darperir pecynnau a deunyddiau i gynadleddwyr yn ddwyieithog.

Paratoadau personol

Lle y bo’n briodol, mae’n rhaid i chi gwblhau'r holl waith a osodir gan y siaradwyr ymlaen llaw.

Canolfan cynadleddwyr

Gwahoddir cynadleddwyr llwyddiannus i gofrestru ar ganolfan cynadleddwyr yr Ysgol Haf. Mae hwn yn safle caeedig diogel a gellir ei gyrchu unrhyw bryd, unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Bydd y ganolfan yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth bwysig cyn y digwyddiad, cael trafodaethau a rhwydweithio gyda'ch cyd-gynadleddwyr.

Mae'n bwysig eich bod yn mewngofnodi i'r ganolfan i dderbyn diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth allweddol am y rhaglen. Rydym yn argymell eich bod yn clicio’r botwm Tanysgrifio, a dewiswch yr opsiwn Fel maen nhw'n digwydd i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth iddi gael ei rhannu.

Bydd angen porwr gwe cyfredol arnoch fel Microsoft Edge neu Google Chrome i gael mynediad i'r ganolfan cynadleddwyr.

Cysylltiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch yr Ysgol Haf.