English

Ysgol Haf 2026 - mwy o wybodaeth

Mae Andy Ayim MBE yn ŵr ac yn dad i ddau o blant a anwyd ym Mhrydain, ac yn cael ei gydnabod fel un o leisiau mwyaf blaenllaw’r byd ar ddylunio bywyd bwriadol ac arweinyddiaeth sy’n canolbwyntio ar bobl. Mae'n partneru â brandiau byd-eang fel Google, Uber, Tesco, Stripe, Nando's a busnesau bach a chanolig twf mawr, gan helpu arweinwyr i adeiladu amgylcheddau seicolegol ddiogel lle gall pobl gysylltu'n ddilys a chyfrannu'n ystyrlon.

Yn enwog am arweiniad clir y gellir ei weithredu, mae gwaith Andy yn rhychwantu deallusrwydd emosiynol, arweinyddiaeth gynhwysol, a helpu cynyddu busnesau newydd. Mae ei sgyrsiau yn cyfuno hiwmor, adrodd straeon, a mewnwelediadau wedi'u seilio ar ymchwil, sy’n gadael cynulleidfaoedd yn teimlo wedi'u grymuso, yn emosiynol ymwybodol ac yn barod i wneud newidiadau go iawn yn eu bywydau a'u sefydliadau eu hunain.

Gyda phersbectif byd-eang wedi'i llunio gan fyw a gweithio ar draws pedwar cyfandir, mae Andy yn treulio’i fywyd yn helpu pobl i wrando ar eu cwmpawd mewnol a chysoni sut maen nhw'n byw, yn gweithio ac yn arwain gyda phwy ydyn nhw mewn gwirionedd. Wedi'i leoli yn Essex, y DU, mae Andy’n cydbwyso ei weithgareddau proffesiynol â bywyd teuluol, buddsoddi a mentora.

Mae Dean Burnett yn feddyg niwrowyddoniaeth, yn gyn-ddarlithydd seiciatreg, yn llysgennad iechyd meddwl, yn ymgynghorydd ac yn gyfathrebwr gwyddoniaeth, yn ddigrifwr achlysurol, ac, yn fwyaf nodedig, yn awdur rhyngwladol poblogaidd. Mae wedi ennill gwobrau am ei waith ysgrifennu a chyfathrebu, mae ei lyfrau wedi ennill statws ‘gwerthwr gorau’ mewn sawl gwlad, mae wedi rhoi cyngor a gwybodaeth i lawer o gwmnïau a sefydliadau mawr, o'r Cyngor Ewropeaidd i'r Wellcome Trust, wedi cymryd rhan mewn paneli traws-seneddol, ac mae’n ymddangos yn rheolaidd ar y teledu a'r radio. Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig, dau o blant, beagle gwirion, a chath ddrwg-enwog.

Prif Weithredwr, CGGC (hi)
 
Mae Lindsay yn wreiddiol o Middlesbrough yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, ond symudodd i Gymru yn 2011. Yn dilyn gyrfa hir, gydag arbenigedd penodol yn y maes camddefnyddio sylweddau, mae Lindsay wedi treulio'r chwe blynedd diwethaf fel Prif Weithredwr The Wallich sy’n mynd i'r afael â digartrefedd.

Dechreuodd Lindsay ei gyrfa fel gwirfoddolwr ar ôl profi digartrefedd ei hun. Treuliodd amser yn y Gwasanaeth Prawf yn cyflwyno rhaglenni gwaith grŵp mewn carchardai a lleoliadau cymunedol cyn sefydlu'r gwasanaeth atgyfeirio ar ôl arestio, yn ymwneud ag alcohol cyntaf, yn y DU. Mae Lindsay hefyd wedi gweithio mewn Partneriaeth Diogelwch Cymunedol, yn comisiynu a monitro gwasanaethau.

Mae ei gyrfa wedi ei harwain i'r pwynt hwn: Prif Weithredwr profiadol gyda doethuriaeth broffesiynol mewn Seicoleg Gymhwysol. Ar gyfer ei thraethawd hir, datblygodd Lindsay raglen ar gyfer mynd i'r afael â dibyniaeth trwy gadw gwenyn.

Gwasanaethodd Lindsay ar fwrdd CGGC am wyth mlynedd cyn camu i lawr ym mis Tachwedd 2023. Yn ddiweddar, camodd Lindsay i lawr o fwrdd Tai Pawb, sy'n hyrwyddo cydraddoldeb mewn lleoliadau tai.  Mae'n parhau i wasanaethu ar Fwrdd Cynnal Cymru, gan hyrwyddo datblygu cynaliadwy yng Nghymru.  Mae Lindsay yn gwirfoddoli gyda Hedgehog Helpline, yn gweithredu'r llinell ffôn ac yn adsefydlu draenogod.

Mae Lindsay yn briod â Lisa, gyda dau o lysblant, tri chi, pedair iâr a thua 200,000 o wenyn. Yn ei hamser hamdden mae'n codi pwysau, yn mwynhau bocsio ac yn frwd dros DIY.

Wedi'i ddisgrifio fel 'y guru arweinyddiaeth cyntaf ar gyfer y genhedlaeth ddigidol' a'r 'llais mwyaf ffres mewn arweinyddiaeth heddiw', mae Emmanuel wedi cynghori sefydliadau ledled y byd ar ddatblygu arweinwyr, sefydlu timau, a newid diwylliannau.

Mae’n un o siaradwyr arweinyddiaeth mwyaf poblogaidd Ewrop, ac mae'n awdur a chyd-awdur 8 llyfr oedd yn werthwyr gorau yn y DU a'r Unol Daleithiau. Yn 2024 cyhoeddodd fersiwn wedi'i diweddaru'n llawn o'i lyfr arloesol 'The Connected Leader' a gyhoeddwyd gan De Gruyter, ynghyd â llyfr newydd 'This is Not a Leadership Book' a gyhoeddwyd gan Routledge a sicrhaodd ei le fel un o feddylwyr rheoli mwyaf blaenllaw'r byd. Bydd ei lyfr newydd 'Alive Inside – Unlocking your leadership advantage in the age of AI' yn cael ei ryddhau ym mis Ionawr 2026.

Ers dros 20 mlynedd mae ei waith wedi ei seilio ar ei fantra - 'mae'n rhaid bod ffordd well a gyda'n gilydd gallwn ddod o hyd iddi’.

Daw Emmanuel o Ffrainc a symudodd i'r DU ym 1985. Mae ganddo Fagloriaeth Ryngwladol o Goleg yr Iwerydd, MA (Anrh) o Brifysgol St Andrews a Diploma mewn Gwyddor Rheoli o Brifysgol Nottingham Trent. Yn dad i ddau o blant (Charlotte a George) sydd bellach yn oedolion, mae Emmanuel yn byw yn Llundain gyda'i wraig Katherine Thomas. 

Athro Arweinyddiaeth, Ysgol Fusnes Bayes, City St George's, Prifysgol Llundain

Mae Amanda Goodall yn Athro Arweinyddiaeth yn Ysgol Fusnes Bayes, lle mae ei hymchwil yn archwilio'r berthynas rhwng arweinyddiaeth, rheolaeth a pherfformiad sefydliadol. Mae ei gwaith wedi arwain at y Theori Arweinyddiaeth Arbenigol - y canfyddiad bod sefydliadau'n perfformio'n well, a bod gweithwyr yn fwy bodlon, pan fyddant yn cael eu harwain gan bobl sydd ag arbenigedd dwfn yng ngwaith craidd y sefydliad. Mae hyn yn berthnasol ar draws gofal iechyd a'r sector cyhoeddus, prifysgolion, gwasanaethau proffesiynol, busnes a chwaraeon.

Enillodd ei llyfr 'Credible:  The Power of Expert Leaders' wobr Llyfr Gorau mewn Busnes SABEW 2023 ar gyfer Rheolaeth ac Arweinyddiaeth, ac mae ei gwaith wedi ymddangos yn yr Harvard Business Review, y Financial Times, a chyfnodolion academaidd blaenllaw.

Mae Amanda yn Gyfarwyddwr Cwrs y Meistr Gweithredol mewn Arweinyddiaeth Feddygol yn Bayes - sydd bellach yn ei ddegfed flwyddyn - rhaglen a gynlluniodd yn benodol ar gyfer meddygon sy'n ymarfer sy'n symud i rolau arweinyddiaeth, gyda chanlyniadau dysgu annibynnol.

Mae ei hymchwil ar gael yn www.amandagoodall.com

Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Cafodd Dr Andrew Goodall ei benodi i rôl Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021. Mae’n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru i gyflawni blaenoriaethau’r Prif Weinidog ac yn gweithredu fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer Llywodraeth Cymru. Cyn hyn, roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru, a hynny ers mis Mehefin 2014.  
 
Mae Dr Goodall wedi bod yn Brif Weithredwr yn y GIG yng Nghymru ers 16 mlynedd. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, swydd y bu ynddi ers dechrau'r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2009 tan 2014 ar ôl ad-drefnu'r GIG i fodel integredig y Bwrdd Iechyd. 
 
Yn ystod ei yrfa 30 mlynedd yn y GIG, mae Dr Goodall wedi dal swyddi cynllunio a gweithredol ar draws nifer o sefydliadau'r GIG ledled De Cymru yn ogystal â rolau cenedlaethol. Mae ganddo feysydd diddordeb penodol mewn gwella diogelwch, ansawdd a phrofiad cleifion; gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus; a darparu gwasanaethau rheng flaen trwy wella a moderneiddio gwasanaethau. 
 
Mae gan Dr Goodall radd yn y gyfraith o Brifysgol Essex a PhD mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd o Ysgol Fusnes Caerdydd. Dyfarnwyd CBE i Dr Goodall yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2018 am ei wasanaethau i'r GIG a gwasanaethau cyhoeddus.

Pencampwr Paralympaidd, Darlledwr, Siaradwr Cynhwysiant ac Arweinyddiaeth, Darlledwr ac arweinydd busnes

Un o'r ffigurau mwyaf adnabyddus i ddod i'r amlwg o gynnydd mewn poblogrwydd chwaraeon Paralympaidd, adeiladodd Liz yrfa chwaraeon fyd-enwog wedi’i diffinio gan wydnwch a phenderfyniad.

Ar ôl ymddeol o gystadlaethau elitaidd, symudodd Liz yn llwyddiannus i ddarlledu a daeth yn llais amlwg yn y darllediadau Paralympaidd arobryn ar Channel 4, yn ogystal â digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr eraill. Mae ei gwaith yn y cyfryngau yn cael ei ategu gan ei rôl fel cyd-sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr The Ability People, asiantaeth recriwtio anabledd gyntaf y DU.

Gyda sylfeini academaidd mewn busnes a chyfrifyddu, mae Liz yn pontio chwaraeon elitaidd, y cyfryngau ac arweinyddiaeth fasnachol. Mae hi hefyd yn gweithio gyda sefydliadau a chwmnïau cynhyrchu i wella hygyrchedd a chynrychiolaeth, ar y sgrin a thu ôl i'r llenni.

Mae Liz yn siaradwr cynnes, hyderus a diddorol. Mae’n egluro anabledd mewn ffordd glir ac yn herio canfyddiadau ynghylch cynhwysiant, perfformiad a photensial. Mae ei phrif areithiau yn taro tant gyda chynulleidfaoedd arweinyddiaeth, Amrywiaeth, Tegwch a Chynwysiant a lles sy'n chwilio am wybodaeth ymarferol sydd wedi'i seilio ar brofiad bywyd.

Prif Weithredwr, Dysgu 

Mae Dr Gwenllian Lansdown Davies yn dod o Fangor yn wreiddiol ac erbyn hyn wedi ymgartrefu gyda’i gŵr a’i phedwar o blant yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn. Astudiodd Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a byw am gyfnod yn Galisia a Brwsel cyn cwblhau gradd MScEcon a Doethuriaeth mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd ble bu hefyd yn diwtor gwleidyddiaeth. 

Ar ôl cael ei hethol i gynrychioli Ward Glanrafon ar Gyngor Sir Caerdydd yn 2004, treuliodd gyfnod yn gweithio fel Rheolwr Swyddfa Leanne Wood AS yn y Rhondda cyn cael ei phenodi’n Brif Weithredwr Plaid Cymru yn 2007. Ar ôl gweithio i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, treuliodd 11 mlynedd fel Prif Weithredwr Mudiad Meithrin o 2014 tan 2025. Cychwynnodd fel Prif Weithredwr Dysgu yn 2025. Mae Gwenllian yn Aelod Bwrdd S4C a Medr, yn lywodraethwr ysgol ac yn gwirfoddoli yn ei Chylch Meithrin lleol ar y Pwyllgor fel yr Unigolyn Cyfrifol. 

Morwr a siaradwr ysgogol

Nid yw Tanya yn ddieithr i amgylcheddau pwysedd uchel. Yn arweinydd lletygarwch llwyddiannus iawn a drodd yn forwr proffesiynol, mae Tanya yn dod â dros dri degawd o brofiad mewn rheoli pobl, risg a phwysau - mewn busnes ac ar y môr. Mae hi wedi bod yn gapten ar sawl taith ar draws y Cefnfor ac ar sawl ymgyrch Rolex Fastnet ac mae wedi cystadlu yn rhai o regatas hwylio amlycaf y byd. Mae Tanya yn gwybod beth mae'n ei olygu i arwain pan mae'r risgiau’n uchel. 

Gan ddefnyddio blynyddoedd o brofiad yn tywys criwiau trwy stormydd ac anawsterau, a dathlu eiliadau rhyfeddol o waith tîm a buddugoliaeth, mae Tanya yn dod â gwersi pwerus o'r cefnfor i'r gweithle, gan gynnig cipolwg ymarferol, doniol a dynol iawn ar waith tîm a gwydnwch. 

Mae sgyrsiau Tanya yn gyfoethog o brofiadau bywyd go iawn a doethineb ymarferol, gan dynnu sylw at sut y gall dewrder, cydweithio ac eglurder ein cario trwy ddyfroedd ansicr.

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae’r rôl yn rhoi cyngor a chefnogaeth i'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus i gymryd gweledigaeth hirdymor ar benderfyniadau polisi. Gwaith y comisiynydd yw diogelu a hyrwyddo anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Derek Walker yw’r ail Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ar ôl dechrau’r rôl ar 1af o Fawrth 2023, pan alwodd am ‘newid bryd a thrawsnewidiol’ yng Nghymru.

Cyn hynny, ef oedd prif weithredwr Cwmpas, asiantaeth datblygu fwyaf y DU. Treuliodd Derek 12 mlynedd fel Prif Swyddog Gweithredol, yn gweithio i gefnogi pobl a cymunedau i greu swyddi a chryfhau cymunedau, a newidiodd ffocws y sefydliad ar ddatblygu sy’n diwallu anghenion y cenedlaethau’r presennol heb gyfaddawdu ar anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Dechreuodd Derek ei yrfa fel swyddog polisi i Gynghorau Llundain, yn Llundain a Brwsel. Mae hefyd wedi gweithio fel Pennaeth Materion Allanol yn y Gronfa Loteri Fawr (Cymru), fel Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd yn TUC Cymru ac ef oedd cyflogai cyntaf Stonewall Cymru.

Magwyd Derek ar fferm ger Cwmbrân ac mae’n rhedwr brwd a chwaraewr tenis, wrth ei fodd yn darllen ac yn ddysgwr Cymraeg. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’r bartner Mike ac mae ganddo ddau o blant. Ei uchelgais tra yn Ysgol Gyfun Croesyceiliog oedd bod yn newyddiadurwr ac mae ganddo radd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol o Brifysgol Caerdydd. Mae'n hapus sut mae bywyd wedi troi allan ac mae’n dweud mai bod yn warcheidwad buddiannau pobl sydd heb eu geni eto yw’r fraint fwyaf.

Prifysgol Bangor

Mae'r Athro Charlotte Williams OBE, FLSW yn Athro Emeritws yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Yn academydd ac yn awdur nodedig, mae ei gwaith yn canolbwyntio ar bolisi cymdeithasol, gwrth-hiliaeth, ac amlddiwylliannaeth. Mae'r Athro Williams wedi bod â rolau arweinyddiaeth academaidd ac ymgynghorol ledled y DU ac yn rhyngwladol, ac mae ei chyfraniadau i fywyd cyhoeddus Cymru wedi ennill nifer o wobrau iddi, gan gynnwys OBE, Gwobr Cyflawniad Oes (Menywod o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru) a Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae ei rolau arweinyddiaeth academaidd a phroffesiynol diweddar yn cynnwys Pennaeth yr Ysgol Polisi Cyhoeddus, Prifysgol Keele a Deon Cyswllt, Prifysgol RMIT, Awstralia. Yn 2020 fe'i penodwyd gan y Gweinidog Addysg i Gadeirio'r Gweithgor: Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin: Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Eraill yn y cwricwlwm newydd’ a arweiniodd at wneud y safbwyntiau hyn yn orfodol yn y cwricwlwm ym mhob ysgol yng Nghymru o 2022 ymlaen. Mae hi wedi bod â swydd Cyfarwyddwr Anweithredol Estyn (2022-25) ac mae'n aelod o Grŵp Cynghori Allanol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol. 

Mae Charlotte yn cael ei hadnabod yn eang am amrywiaeth o gyfraniadau i fywyd diwylliannol Cymru. Mae ei chyhoeddiadau yn cynnwys 'A Tolerant Nation? Revisiting Ethnic Diversity in Wales' (cyd-olygydd, Gwasg Prifysgol Cymru 2003, 2015), 'Globalising Welsh Studies' (cyd-olygydd, Gwasg Prifysgol Cymru 2024) a’i hunangofiant arobryn, 'Sugar and Slate' (Penguin 2024).  Mae hi'n byw gyda'i theulu yng ngogledd Cymru.  

Cyfarwyddwr, Academi Wales

Daeth Ceri yn Gyfarwyddwr Academi Wales ym mis Ebrill 2024.  Cyn hyn, treuliodd dros 20 mlynedd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn arwain timau gweithredol a pholisi, ac yn datblygu a chyflwyno rhaglenni hyfforddi mewn amrywiaeth o gyd-destunau.  
 
Ymunodd â’r gwasanaeth sifil fel arbenigwr, yn archwiliwr patentau o fewn y Swyddfa Eiddo Deallusol, cyn symud ymlaen i weithio ar bolisi hawlfraint, cymorth busnes, a hyfforddiant. 

Oddi yno aeth i Dŷ'r Cwmnïau, lle bu’n aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros strategaeth a pholisi yn ogystal ag yn Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiannau Cymunedol. 

Yn 2018, ymunodd â Llywodraeth Cymru i arwain ar bolisi amgylcheddol, cyn dechrau ei swydd bresennol yn Academi Wales.

Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar y rhaglen hon, a ddyfernir drwy broses ddethol gystadleuol. Mae’n bwysig eich bod yn cyflwyno amcanion a chanlyniadau cryf sy’n cyd-fynd â chi’ch hun a’ch sefydliad.

Er mwyn sicrhau bod y grŵp cynadleddwyr yn elwa o gyfuniad perthnasol o brofiad, rydym yn defnyddio nifer o feini prawf i ddidoli ceisiadau gan gynnwys y cymhelliant i wneud cais a sut y bydd ymgeiswyr yn cymhwyso’r dysgu er eu budd eu hunain, eu sefydliad, a’r gwasanaeth cyhoeddus ehangach, rhoddir ystyriaeth hefyd i gynrychiolaeth sector a rhanbarthol.

Bydd lleoedd yn cael eu dyfarnu i'r ymgeiswyr hynny sy'n darparu amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Haf ac sy'n gallu dangos elw byddant yn ei roi ar y buddsoddiad.

Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais:

  • Amcanion Personol- Yn gryno, disgrifiwch eich rôl arwain a’ch cyfrifoldebau ar hyn o bryd (100 i 150 gair)
  • Amcanion yr Adran/Sefydliad- Beth yw eich amcanion dysgu ar gyfer yr Ysgol Haf? (100 i 150 gair)
  • Datganiad Canlyniadau Personol- Sut bydd yr Ysgol Haf yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn eich gwaith? Sut byddwch chi'n defnyddio'r gwersi a ddysgir? (100 i 150 gair)

Mae deilliannau dysgu’n ddatganiadau sy’n disgrifio dysgu arwyddocaol a hanfodol y mae dysgwyr wedi’i gyflawni ac y gallant ei arddangos mewn ffordd ddibynadwy ar ôl yr Ysgol Haf. Mewn geiriau eraill, mae deilliannau dysgu’n dangos yr hyn y byddwch yn gallu ei wneud erbyn diwedd y rhaglen.

Dylai deilliannau dysgu:

  • Adlewyrchu gwybodaeth, sgiliau neu ymddygiadau hanfodol
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau’r profiad dysgu
  • Adlewyrchu'r canlyniad y dymunwch ei gael o’r digwyddiad, nid y dull na’r broses
  • Bod o leiaf 100 gair a hyd uchafswm o 150 o eiriau.

Esiampl o beth sy'n addas mewn cais

Fel Pennaeth Gwasanaeth, fy ffocws i yw creu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol sydd wedi’u datblygu ar y cyd. Er mwyn cyflawni hyn, fy nod yw gwella ymgysylltiad rhanddeiliaid ac ymgysylltiad tîm trwy wella sgiliau a mewnwelediad i dechnegau ymgysylltu effeithiol. Mae'r nod hwn yn rhan annatod o fy nghynllun datblygu personol a bydd yn cyfrannu at fy ngwerthusiad perfformiad.

Yn dilyn yr Ysgol Haf, byddaf yn adolygu fy nysgu gyda fy rheolwr ac yn ceisio cymorth ar gyfer rhoi camau gweithredu ar waith. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn nealltwriaeth Emmanuel Gobillot ynghylch lles ac ymgysylltiad gweithwyr, o ystyried yr heriau y mae fy nhîm yn eu hwynebu wrth gyflawni amcanion busnes.

Erbyn diwedd yr Ysgol Haf, rwy'n bwriadu creu cynllun gweithredu, gan ddefnyddio’r dulliau a ddysgwyd, arferion da, a chefnogaeth gan gyfoedion i drosi'r hyn a ddysgwyd dros yr wythnos yn weithredoedd. Ym mis Gorffennaf, byddaf yn rhannu fy mhrofiadau a'm cynllun gweithredu gyda'r Prif Weithredwr i sicrhau cyfatebiaeth ac effaith.

Esiampl o beth sy'n anaddas mewn cais

Rwyf yn disgwyl gwella fy sgiliau ymgysylltu yn yr Ysgol Haf drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a thrwy wrando ar y siaradwyr.

Mae’n bwysig fy mod yn meddu ar y sgiliau hyn i fy ngalluogi i wneud fy ngwaith.

Mae rhaglen yr Ysgol Haf yn ymddangos yn ddiddorol dros ben a dylai nifer o’r sesiynau fy helpu gyda fy nysgu a fy natblygiad.

Esiampl o beth sy'n addas mewn enghraifft bersonol

Bydd mynychu’r Ysgol Haf yn fy helpu i gael dealltwriaeth glir o fy sgiliau ymgysylltu, gan nodi cryfderau a meysydd i'w gwella. Bydd yr eglurder hwn yn fy ngrymuso ar gyfer creu cynllun gweithredu personol â ffocws yn seiliedig ar y ddealltwriaeth y byddaf wedi’i chael yn ystod y rhaglen. 

Dros y 12 mis canlynol, bydd y cynllun hwn yn llywio fy ymdrechion i olrhain a gwella'r sgiliau hyn, gan alluogi cynnydd cyson. Yn ogystal, bydd fy natblygiad yn cael ei drafod a'i werthuso fel rhan o fy mhroses adolygu datblygiad rheolaidd gyda fy rheolwr. Bydd y trafodaethau hyn yn helpu i asesu fy nghyflawniadau, mireinio fy null o weithio, a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â fy nodau proffesiynol a phersonol. 

Bydd y cyfuniad o’r Ysgol Haf a’m cynllun gweithredu personol yn allweddol i sicrhau twf ystyrlon, gan gefnogi fy nhaith tuag at well sgiliau ymgysylltu a datblygiad gyrfa ehangach.

Esiampl o beth sy'n anaddas mewn enghraifft bersonol

Hoffwn ddod i’r Ysgol Haf fel fy mod yn gallu bod yn arweinydd sy’n ymgysylltu’n well.

Esiampl o beth sy'n addas mewn enghraifft sefydliadol

O ganlyniad i fynychu’r Ysgol Haf, byddaf yn gallu defnyddio amrywiaeth o becynnau a thechnegau i ennyn ymgysylltiad eraill yn well yn y broses o ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau, gan annog rhanddeiliaid, cymunedau ac unigolion allweddol i gyfrannu at hyn ac i berchnogi’r canlyniadau.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i fy ngwaith gyda thimau gwasanaethau brys yng Nghanolbarth Cymru, i ystyried sut y gallwn ddatblygu gwasanaeth mwy ymatebol, cydlynus sy’n berthnasol i gymunedau yn yr ardal.

Ym mis Gorffennaf, byddaf yn trefnu sesiwn ar gyfer fy nhîm i rannu’r pecynnau a’r technegau a ddysgwyd yn yr Ysgol Haf ac i ymgorffori’r rhain yn ein cynlluniau ar gyfer y tîm er mwyn bwrw ymlaen â’n prif amcanion busnes. 

Esiampl o beth sy'n anaddas mewn enghraifft sefydliadol

Rwyf eisiau gallu ymgysylltu'n well ag eraill a gobeithiaf y bydd yr Ysgol Haf yn rhoi'r sgiliau i mi i wneud hyn.

  • Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn a fydd yn cael eu cynnig drwy broses ddethol gystadleuol. Dyfernir lleoedd i’r ymgeiswyr hynny sy’n darparu amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Haf ac sy’n gallu dangos y byddant yn creu elw ar buddsoddiad.
  • Ni fu dangos elw ar fuddsoddiad erioed yn bwysicach nag yn yr hinsawdd sydd ohoni.  Nid yw elw ar fuddsoddiad yn ymwneud ag enillion ariannol yn unig. Mae'n golygu'r effaith gynaliadwy'r dysgu arnoch chi a'ch sefydliad a sut mae hyn yn cysylltu â gwasanaethau a ddarperir ar gyfer pobl Cymru. Mae'n arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n gweithio drwy gyfnodau heriol ac yn ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i'w canlyniadau sefydliadol.
  • Nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer yr Ysgol Haf gan fod y galw am leoedd bob blwyddyn yn fwy na’r hyn y gallwn ni ei gynnig.

£600 + TAW. Mae hyn yn cynnwys:

  • Mynediad at raglen ddysgu lawn yr Ysgol Haf.
  • Llety (nos Fawrth 23 i nos Iau 25 Mehefin 2026). Sylwch mai llety sylfaenol i fyfyrwyr yw hwn
  • Brecwast, cinio a phryd nos yn ystod y digwyddiad.

Rhaid i chi dalu unrhyw gostau cysylltiedig personol, megis teithio i’r digwyddiad ac yn ôl, papurau newydd, bil bar ac yn y blaen.

Sylwch, os tynnwch yn ôl o'r rhaglen ar ôl derbyn lle ar yr Ysgol Haf, efallai y bydd yn ofynnol i'ch sefydliad dalu'r gost lawn.

Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau o hyd at 100% tuag at gost cynrychiolwyr Ysgol Haf 2026. Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, grwpiau sydd mewn lleiafrif a grwpiau difreintiedig.

I wneud cais am fwrsariaeth

Rhowch dystiolaeth eich bod yn bodloni’r meini prawf i fod yn gymwys (50 i 100 gair). Mae angen i’ch ymateb gyd-fynd â'r meini prawf isod:

  • Rydych chi’n rhan o grŵp sy’n cael ei dangynrychioli, grŵp lleiafrifol neu grŵp difreintiedig o fewn eich sefydliad.
  • Maint eich sefydliad.

Mae Academi Wales yn rhan o Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi ddarparu'r manylion canlynol yn eich cais:

  • Enw’r llawn y sefydliad sy'n talu i chi fod yn bresennol
  • Enw a chyfeiriad y swyddog bilio
  • Cyfeiriad e-bost y swyddog bilio

Cyflenwr: Llywodraeth Cymru
Cyfeiriad y cyflenwr: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ

I gadarnhau eich lle, rhaid i chi roi copi o'ch archeb brynu (PO) i ni. Byddwn yn anfonebu eich sefydliad am eich ffi cynadleddwyr ar ôl yr Ysgol Haf.

Gellir talu hefyd â cherdyn credyd busnes trwy GOV.UK Pay.

Os oes angen rhagor o fanylion arnoch am y gofynion anfonebu, cysylltwch â'n tîm cyllid yn AW.Busnes@llyw.cymru.

Mae Academi Wales yn rhan o Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi ddarparu'r manylion canlynol yn eich cais:

  • Cyfeiriad e-bost rheolwr cyllid y gangen

I gadarnhau eich lle, rhaid i reolwr cyllid eich cangen ddarparu'r manylion canlynol i AW.Busnes@llyw.cymru:

  • Canolfan elw / Canolfan cost
  • Cod WBS
  • Eich rhif staff / cyflogres 6 digid

Byddwn yn anfon trosglwyddiad cofnodi i gasglu eich ffioedd am y cwrs ar ôl y digwyddiad.

Sylwer: gallai peidio â darparu’r wybodaeth briodol am gyllid beryglu eich lle yn y gynhadledd.

Os oes arnoch angen rhagor o fanylion am y gofynion trosglwyddo, cysylltwch â’n tîm cyllid yn AW.Busnes@llyw.cymru.

Os ydych chi'n gweithio yn sectorau gwasanaeth cyhoeddus neu wirfoddol yng Nghymru ac os hoffech fod yn rhan o'r profiad dysgu deinamig hwn, gwnewch gais am Ysgol Haf 2026 erbyn 27 Ebrill 2026.

Os yw eich sefydliad ar y rhestr gyswllt ganlynol, efallai y byddwch am hysbysu cyswllt eich sefydliad i roi gwybod iddynt eich bod yn bwriadu gwneud cais.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych wedi derbyn lle erbyn 22 Mai 2026.

Gwybodaeth

Mae ceisiadau nawr ar gau.

Dydd Mawrth 23 Mehefin

  • 9.30yb i 11.30yb: cofrestru a phennu ble byddwch yn aros
  • 12.00yp: cinio
  • 1.00yp: rhaglen yn dechrau

Dydd Gwener 26 Mehefin

  • 12.30yp: diwedd y rhaglen
  • Ie, dim ond trwy ddod i bob un o'r 4 diwrnod Ysgol Haf y byddwch chi'n cael y budd llawn o'r cyfle hwn.

  • Rydym yn annog y cynrychiolwyr i breswylio ar y cwrs, ond efallai y byddai'n well gennych aros gartref a theithio os ydych yn byw yn yr ardal. Rhowch wybod cyn gynted â phosibl os nad oes angen llety arnoch chi.

  • Nid oes cyfleusterau gofal plant na crèche yn y brifysgol. Disgwylir i gynrychiolwyr wneud eu trefniadau gofal plant eu hunain.

  • Mae prydau bwyd a lluniaeth wedi'u cynnwys yn y rhaglen (nid yw costau alcohol, y bar na’r caffi yn gynwysedig).

    • Brecwast: rhwng 7.00yb a 8.30yb
    • Swper: 7.30yp
  • Byddwn yn casglu’r wybodaeth hon fel rhan o’r broses gwneud cais. Rhowch wybod yn ôl y cyfarwyddyd os oes gennych chi ofynion dietegol meddygol neu benodol. Ar gyfer dewisiadau dietegol, nodwch fod y Brifysgol yn gweini amrywiaeth o fwyd. Mae archfarchnad hefyd o fewn cerdded i'r campws.

  • Nodwch fod y signal ffôn a gwe yn gallu bod yn afreolaidd o achos y lleoliad anghysbell, ac yn ddibynnol ar y tywydd.

    Mae Wi-Fi ar gael.

  • Lled-ffurfiol.

  • Byddwn yn tynnu lluniau ac yn gofyn am adborth a sylwadau gydol y digwyddiad. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu'r deunyddiau ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol; neu mae'n bosibl y byddwn yn eu defnyddio at ddibenion marchnata'r digwyddiad a hyfforddiant gan Academi Wales yn y dyfodol. Byddwch yn cael cyfle i gytuno neu anghytuno i gael eich cynnwys yn y deunyddiau hyn pan fyddwch yn llenwi'r ffurflen gais.

  • Cyflwynir yr Ysgol Haf yn Saesneg. Fodd bynnag, darperir gwybodaeth a deunyddiau i gynrychiolwyr yn ddwyieithog, a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael yn ystafell y cyfarfod llawn. Os byddai’n well gennych ymuno â grwp hwyluso sy’n siarad Cymraeg, nodwch hyn yn eich cais.

  • Mae'n rhaid i chi gwblhau unrhyw set cyn-gwaith, bydd hwn ar gael ar yr hwb cynrychiolwyr.

  • Gwahoddir cynadleddwyr llwyddiannus i gofrestru ar hyb cynadleddwyr yr Ysgol Haf. Mae hwn yn safle caeedig, diogel a gellir ei gyrchu unrhyw bryd, yn unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Bydd y hyb yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth bwysig cyn y digwyddiad, cael trafodaethau a rhwydweithio gyda'ch cyd-gynadleddwyr.

    Mae'n bwysig eich bod yn mewngofnodi i'r hyb i dderbyn diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth allweddol am y rhaglen. Rydym yn argymell eich bod yn clicio’r botwm Tanysgrifio, a dewiswch yr opsiwn Fel maen nhw'n digwydd i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth iddi gael ei rhannu.

    Bydd angen porwr gwe cyfredol arnoch fel Microsoft Edge, Safari neu Google Chrome i gael mynediad i'r hyb.

Cyrraedd y Llanbed (dolen allanol)

Trenau - Trafnidiaeth Cymru (dolen allanol)

Amserlennu bysiau (dolen allanol)

Rhannu ceir

Gyda'ch sêl bendith fe wnawn ni rannu eich manylion cyswllt pan fydd y rhestr o gynrychiolwyr wedi ei chadarnhau. Yna gallwch wneud eich trefniadau eich hunain ar gyfer rhannu car i deithio i'r digwyddiad ac yn ôl.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, anfonwch e-bost atom.