English

Ysgol Haf 2025 - mwy o wybodaeth

Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Mae Owen Evans yn gyfrifol am arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn ogystal â rheolaeth, staffio a threfniadaeth Estyn. Mae’n rhoi cyngor annibynnol i Weinidogion Cymru, sy’n cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau yng Nghymru. Yn ogystal, mae Owen yn chwarae rôl allweddol yn gweithio’n agos gyda chyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio eraill yng Nghymru, i roi sylfaen i gynllunio a gweithio ar y cyd. Yn ogystal, fel Swyddog Cyfrifyddu Estyn, mae’n sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n briodol a’u bod yn rhoi gwerth am arian. Yn ogystal, mae’r Prif Arolygydd yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar safonau ac ansawdd addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Cafodd Owen, sy’n Gymro Cymraeg, ei addysg yn Ysgol Penweddig a Choleg Ceredigion, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ymunodd Owen ag Estyn o’i swydd fel Prif Weithredwr S4C, y darlledwr Cymraeg. Cyn ymuno ag S4C, roedd yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus. Rhwng 2008 a 2010, roedd yn gyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned Cymru, ac am 10 mlynedd cyn hynny bu’n gweithio i BT, gan gynnwys fel aelod o dîm y DU yn datblygu strategaeth band eang BT. Mae wedi gwasanaethu fel aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn flaenorol bu’n gadeirydd Bwrdd Datblygu Addysg Caerdydd.

Ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd cynghori Marie Curie yng Nghymru, yn rhan o’r rhaglen Siaradwyr i Ysgolion ac mae’n gadeirydd WEPCo. Mae’n aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth.

Cyd-gyflwynydd rhaglen y BBC 'Artificial Intelligence: Decoded' ac awdur 'Technology Is Not Neutral: A short guide to technology ethics'. Mae Dr Stephanie Hare yn awdur, ymgynghorydd a phrif siaradwr sy'n canolbwyntio ar effaith deallusrwydd artiffisial ar fusnes a chymdeithas. Mae ei llyfr 'Technology Is Not Neutral: A Short Guide to Technology Ethics' yn archwilio'r materion sy'n ymwneud â Deallusrwydd Artiffisial a Big Tech yn ogystal â'i effeithiau ar ddynoliaeth.

Mae arbenigedd Stephanie yn y man hwnnw lle mae busnes, technoleg, llywodraethu a moeseg yn cwrdd yn yr oes o gyfalafiaeth gwyliadwriaeth sydd ohoni. Cafodd Stephanie ei dewis ar gyfer menter Menywod Arbenigol y BBC ac mae bellach yn sylwebu yn rheolaidd ar y BBC. Hi yw cyflwynydd Artificial Intelligence: Decoded y BBC ac mae'n cyfrannu'n rheolaidd at slot Business Matters y BBC World Service.

Mae Stephanie yn gyflwynydd a hwylusydd difyr ar gyfer digwyddiadau, gan gyfuno trylwyredd academaidd â chynhesrwydd a dull cyflwyno deinamig pan fydd ar y llwyfan. Cyn dod yn sylwebydd a chyfathrebwr cyfryngau byd-eang, gweithiodd Stephanie i Accenture, Palantir ac Oxford Analytica. Cyhoeddwyd ei gwaith yn The Washington Post, The Guardian/Observer, WIRED, Harvard Business Review a The Financial Times, a ddewisodd 'Technology Is Not Neutral: A Short Guide to Technology' fel un o'i lyfrau gorau yn haf 2022. Ar hyn o bryd mae llyfr Dr Hare wedi'i gynnwys ar faes llafur Ysgol y Gyfraith Harvard.

Mae Stephanie Hare wedi ymgynghori a chyflwyno digwyddiadau ar gyfer llawer o gwmnïau a brandiau. Mae'r rhain yn cynnwys LEGO, KPMG, IKEA, y Gymdeithas Frenhinol, Sefydliad Vodafone, BAE Systems, Citywire, CERN, Mishcon de Reya, the Internet of Things Alliance Australia, Sefydliad Alan Turing, Mayer Brown, 7 Bedford Row, Fujitsu, y Data Lab, Vistage a SOLACE, prif rwydwaith y DU ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus.

Mae gan Stephanie PhD ac MSc o Ysgol Economeg Llundain ac astudiodd ym Mhrifysgol Illinois yn Urbana-Champaign, gan gynnwys blwyddyn yn Université de la Sorbonne (Paris IV). Bu’n dal Cymrodoriaeth Wadd Alastair Horne yng Ngholeg St Antony, Rhydychen.

WHETSTON / strategic foresight

Mae Thimon de Jong yn rhedeg WHETSTON / strategic foresight, melin drafod sy'n arbenigo mewn ymddygiad dynol a newid cymdeithasol yn y dyfodol a'r goblygiadau i arweinyddiaeth a strategaeth fusnes. Mae'n brif gyflwynydd byd-eang (rhithwir) ac yn hyfforddwr arweinyddiaeth poblogaidd. Mae ei gleientiaid yn cynnwys Morgan Stanley, Vodafone, IKEA a Nike. 

Mae Thimon hefyd yn darlithio yn adran seicoleg gymdeithasol Prifysgol Utrecht lle mae'n dysgu myfyrwyr meistr sut y gellir cymhwyso ymchwil academaidd yn ymarferol i wella strategaeth fusnes. Mae ganddo radd meistr mewn Astudiaethau Diwylliannol gydag isradd mewn Astudiaethau Busnes Rhyngwladol. 

Mae'n gyn-gyfarwyddwr mewnwelediadau a strategaeth yn TrendsActive, yn gyn-ymchwilydd yn FreedomLab Future Studies ac yn gyn-brif olygydd RELOAD Magazine.

Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae Neil wedi treulio ei yrfa fel gwas cyhoeddus yn gweithio mewn llywodraeth ganolog, ranbarthol a lleol yn ogystal â'r GIG a'r sector gwirfoddol.   Cyn ei rôl bresennol, fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, bu'n gweithio yn Swyddfa'r Cabinet gyda chyfrifoldeb gweithredol am ddiwygio'r gweithlu a safonau proffesiynol. Roedd hyn yn dilyn ei benodiad yn Brif Swyddog Pobl i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, lle roedd yn gyfrifol am wasanaethau carchardai, prawf a llys ledled Cymru a Lloegr. 

Yn fwy lleol, ef yw Cadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar ôl gweithio mewn rôl wirfoddol ers ei fod yn 17 oed. Yn ystod ei yrfa, gwasanaethodd Neil fel Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru gan arwain nifer o ymchwiliadau cyhoeddus i Lafur Mudol a Hawliau Dynol, ac roedd yn Ymddiriedolwr Stonewall UK ac Ymddiriedolaeth Sefydliad Banc Lloyds. 

Yn ystod ei yrfa, mae Neil wedi cyhoeddi nifer o bapurau ar arweinyddiaeth a datblygu rheolaeth gan dreulio amser yn Ysgol Lywodraethu JFK, gan ddatblygu dulliau newydd o fynd i’r afael ag arweinyddiaeth gwasanaeth cyhoeddus.

Mae e wedi'i gydnabod yn rhyngwladol am ei arbenigedd ac mae wedi gweithio yn Sgandinafia, yr Unol Daleithiau, Canada, India ac Affrica Is-Sahara.

Mae'n Gydymaith i'r Sefydliad Siartredig ar gyfer datblygu personél a dyfarnwyd CBE iddo yn 2022 am ei gyfraniad eithriadol ym meysydd Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar y rhaglen hon, a ddyfernir drwy broses ddethol gystadleuol. Mae’n bwysig eich bod yn cyflwyno amcanion a chanlyniadau cryf sy’n cyd-fynd â chi’ch hun a’ch sefydliad.

Er mwyn sicrhau bod y grŵp cynadleddwyr yn elwa o gyfuniad perthnasol o brofiad, rydym yn defnyddio nifer o feini prawf i ddidoli ceisiadau gan gynnwys y cymhelliant i wneud cais a sut y bydd ymgeiswyr yn cymhwyso’r dysgu er eu budd eu hunain, eu sefydliad, a’r gwasanaeth cyhoeddus ehangach, rhoddir ystyriaeth hefyd i gynrychiolaeth sector a rhanbarthol.

Bydd lleoedd yn cael eu dyfarnu i'r ymgeiswyr hynny sy'n darparu amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Haf ac sy'n gallu dangos elw byddant yn ei roi ar y buddsoddiad.

Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais:

  • Amcanion Personol- Yn gryno, disgrifiwch eich rôl arwain a’ch cyfrifoldebau ar hyn o bryd (100 i 150 gair)
  • Amcanion yr Adran/Sefydliad- Beth yw eich amcanion dysgu ar gyfer yr Ysgol Haf? (100 i 150 gair)
  • Datganiad Canlyniadau Personol- Sut bydd yr Ysgol Haf yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn eich gwaith? Sut byddwch chi'n defnyddio'r gwersi a ddysgir? (100 i 150 gair)

Mae deilliannau dysgu’n ddatganiadau sy’n disgrifio dysgu arwyddocaol a hanfodol y mae dysgwyr wedi’i gyflawni ac y gallant ei arddangos mewn ffordd ddibynadwy ar ôl yr Ysgol Haf. Mewn geiriau eraill, mae deilliannau dysgu’n dangos yr hyn y byddwch yn gallu ei wneud erbyn diwedd y rhaglen.

Dylai deilliannau dysgu:

  • Adlewyrchu gwybodaeth, sgiliau neu ymddygiadau hanfodol
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau’r profiad dysgu
  • Adlewyrchu'r canlyniad y dymunwch ei gael o’r digwyddiad, nid y dull na’r broses
  • Bod o leiaf 100 gair a hyd uchafswm o 150 o eiriau.

Esiampl o beth sy'n addas mewn cais

Fel Pennaeth Gwasanaeth, fy ffocws i yw creu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol sydd wedi’u datblygu ar y cyd. Er mwyn cyflawni hyn, fy nod yw gwella ymgysylltiad rhanddeiliaid ac ymgysylltiad tîm trwy wella sgiliau a mewnwelediad i dechnegau ymgysylltu effeithiol. Mae'r nod hwn yn rhan annatod o fy nghynllun datblygu personol a bydd yn cyfrannu at fy ngwerthusiad perfformiad.

Yn dilyn yr Ysgol Haf, byddaf yn adolygu fy nysgu gyda fy rheolwr ac yn ceisio cymorth ar gyfer rhoi camau gweithredu ar waith. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn nealltwriaeth Emmanuel Gobillot ynghylch lles ac ymgysylltiad gweithwyr, o ystyried yr heriau y mae fy nhîm yn eu hwynebu wrth gyflawni amcanion busnes.

Erbyn diwedd yr Ysgol Haf, rwy'n bwriadu creu cynllun gweithredu, gan ddefnyddio’r dulliau a ddysgwyd, arferion da, a chefnogaeth gan gyfoedion i drosi'r hyn a ddysgwyd dros yr wythnos yn weithredoedd. Ym mis Gorffennaf, byddaf yn rhannu fy mhrofiadau a'm cynllun gweithredu gyda'r Prif Weithredwr i sicrhau cyfatebiaeth ac effaith.

Esiampl o beth sy'n anaddas mewn cais

Rwyf yn disgwyl gwella fy sgiliau ymgysylltu yn yr Ysgol Haf drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a thrwy wrando ar y siaradwyr.

Mae’n bwysig fy mod yn meddu ar y sgiliau hyn i fy ngalluogi i wneud fy ngwaith.

Mae rhaglen yr Ysgol Haf yn ymddangos yn ddiddorol dros ben a dylai nifer o’r sesiynau fy helpu gyda fy nysgu a fy natblygiad.

Esiampl o beth sy'n addas mewn enghraifft bersonol

Bydd mynychu’r Ysgol Haf yn fy helpu i gael dealltwriaeth glir o fy sgiliau ymgysylltu, gan nodi cryfderau a meysydd i'w gwella. Bydd yr eglurder hwn yn fy ngrymuso ar gyfer creu cynllun gweithredu personol â ffocws yn seiliedig ar y ddealltwriaeth y byddaf wedi’i chael yn ystod y rhaglen. 

Dros y 12 mis canlynol, bydd y cynllun hwn yn llywio fy ymdrechion i olrhain a gwella'r sgiliau hyn, gan alluogi cynnydd cyson. Yn ogystal, bydd fy natblygiad yn cael ei drafod a'i werthuso fel rhan o fy mhroses adolygu datblygiad rheolaidd gyda fy rheolwr. Bydd y trafodaethau hyn yn helpu i asesu fy nghyflawniadau, mireinio fy null o weithio, a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â fy nodau proffesiynol a phersonol. 

Bydd y cyfuniad o’r Ysgol Haf a’m cynllun gweithredu personol yn allweddol i sicrhau twf ystyrlon, gan gefnogi fy nhaith tuag at well sgiliau ymgysylltu a datblygiad gyrfa ehangach.

Esiampl o beth sy'n anaddas mewn enghraifft bersonol

Hoffwn ddod i’r Ysgol Haf fel fy mod yn gallu bod yn arweinydd sy’n ymgysylltu’n well.

Esiampl o beth sy'n addas mewn enghraifft sefydliadol

O ganlyniad i fynychu’r Ysgol Haf, byddaf yn gallu defnyddio amrywiaeth o becynnau a thechnegau i ennyn ymgysylltiad eraill yn well yn y broses o ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau, gan annog rhanddeiliaid, cymunedau ac unigolion allweddol i gyfrannu at hyn ac i berchnogi’r canlyniadau.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i fy ngwaith gyda thimau gwasanaethau brys yng Nghanolbarth Cymru, i ystyried sut y gallwn ddatblygu gwasanaeth mwy ymatebol, cydlynus sy’n berthnasol i gymunedau yn yr ardal.

Ym mis Gorffennaf, byddaf yn trefnu sesiwn ar gyfer fy nhîm i rannu’r pecynnau a’r technegau a ddysgwyd yn yr Ysgol Haf ac i ymgorffori’r rhain yn ein cynlluniau ar gyfer y tîm er mwyn bwrw ymlaen â’n prif amcanion busnes. 

Esiampl o beth sy'n anaddas mewn enghraifft sefydliadol

Rwyf eisiau gallu ymgysylltu'n well ag eraill a gobeithiaf y bydd yr Ysgol Haf yn rhoi'r sgiliau i mi i wneud hyn.

  • Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn a fydd yn cael eu cynnig drwy broses ddethol gystadleuol. Dyfernir lleoedd i’r ymgeiswyr hynny sy’n darparu amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Haf ac sy’n gallu dangos y byddant yn creu elw ar buddsoddiad.
  • Ni fu dangos elw ar fuddsoddiad erioed yn bwysicach nag yn yr hinsawdd sydd ohoni.  Nid yw elw ar fuddsoddiad yn ymwneud ag enillion ariannol yn unig. Mae'n golygu'r effaith gynaliadwy'r dysgu arnoch chi a'ch sefydliad a sut mae hyn yn cysylltu â gwasanaethau a ddarperir ar gyfer pobl Cymru. Mae'n arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n gweithio drwy gyfnodau heriol ac yn ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i'w canlyniadau sefydliadol.
  • Nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer yr Ysgol Haf gan fod y galw am leoedd bob blwyddyn yn fwy na’r hyn y gallwn ni ei gynnig.

£600 + TAW. Mae hyn yn cynnwys:

  • Mynediad at raglen ddysgu lawn yr Ysgol Haf.
  • Llety (nos Fawrth 1 Gorffennaf i nos Iau 3 Gorffennaf 2025). Sylwch mai llety sylfaenol i fyfyrwyr yw hwn
  • Brecwast, cinio a phryd nos yn ystod y digwyddiad.

Rhaid i chi dalu unrhyw gostau cysylltiedig personol, megis teithio i’r digwyddiad ac yn ôl, papurau newydd, bil bar ac yn y blaen.

Sylwch, os tynnwch yn ôl o'r rhaglen ar ôl derbyn lle ar yr Ysgol Haf, efallai y bydd yn ofynnol i'ch sefydliad dalu'r gost lawn.

Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau i dalu 100% o gost cynadleddwyr Ysgol Haf 2025. Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, grwpiau sydd mewn lleiafrif a grwpiau difreintiedig.

I wneud cais am fwrsariaeth

Rhowch dystiolaeth eich bod yn bodloni’r meini prawf i fod yn gymwys (50 i 100 gair). Mae angen i’ch ymateb gyd-fynd â'r meini prawf isod:

  • Rydych chi’n rhan o grŵp sy’n cael ei dangynrychioli, grŵp lleiafrifol neu grŵp difreintiedig o fewn eich sefydliad.
  • Maint eich sefydliad.

Mae Academi Wales yn rhan o Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi ddarparu'r manylion canlynol yn eich cais:

  • Enw’r llawn y sefydliad sy'n talu i chi fod yn bresennol
  • Enw a chyfeiriad y swyddog bilio
  • Cyfeiriad e-bost y swyddog bilio

Cyflenwr: Llywodraeth Cymru
Cyfeiriad y cyflenwr: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ

I gadarnhau eich lle, rhaid i chi roi copi o'ch archeb brynu (PO) i ni. Byddwn yn anfonebu eich sefydliad am eich ffi cynadleddwyr ar ôl yr Ysgol Haf.

Gellir talu hefyd â cherdyn credyd busnes trwy GOV.UK Pay.

Os oes angen rhagor o fanylion arnoch am y gofynion anfonebu, cysylltwch â'n tîm cyllid yn AW.Busnes@llyw.cymru.

Mae Academi Wales yn rhan o Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi ddarparu'r manylion canlynol yn eich cais:

  • Cyfeiriad e-bost rheolwr cyllid y gangen

I gadarnhau eich lle, rhaid i reolwr cyllid eich cangen ddarparu'r manylion canlynol i AW.Busnes@llyw.cymru:

  • Canolfan elw / Canolfan cost
  • Cod WBS
  • Eich rhif staff / cyflogres 6 digid

Byddwn yn anfon trosglwyddiad cofnodi i gasglu eich ffioedd am y cwrs ar ôl y digwyddiad.

Sylwer: gallai peidio â darparu’r wybodaeth briodol am gyllid beryglu eich lle yn y gynhadledd.

Os oes arnoch angen rhagor o fanylion am y gofynion trosglwyddo, cysylltwch â’n tîm cyllid yn AW.Busnes@llyw.cymru.

Dydd Mawrth 1 Gorffennaf

  • 9.30yb i 11.30yb: cofrestru a phennu ble byddwch yn aros
  • 12.00yp: cinio
  • 1.00yp: rhaglen yn dechrau

Dydd Gwener 4 Gorffennaf

  • 12.30yp: diwedd y rhaglen
  • Ie, dim ond trwy ddod i bob un o'r 4 diwrnod Ysgol Haf y byddwch chi'n cael y budd llawn o'r cyfle hwn.

  • Rydym yn annog y cynrychiolwyr i breswylio ar y cwrs, ond efallai y byddai'n well gennych aros gartref a theithio os ydych yn byw yn yr ardal. Rhowch wybod cyn gynted â phosibl os nad oes angen llety arnoch chi.

  • Nid oes cyfleusterau gofal plant na crèche yn y brifysgol. Disgwylir i gynrychiolwyr wneud eu trefniadau gofal plant eu hunain.

  • Mae prydau bwyd a lluniaeth wedi'u cynnwys yn y rhaglen (nid yw costau alcohol, y bar na’r caffi yn gynwysedig).

    • Brecwast: rhwng 7.00yb a 8.30yb
    • Swper: 7.30yp
  • Byddwn yn casglu’r wybodaeth hon fel rhan o’r broses gwneud cais. Rhowch wybod yn ôl y cyfarwyddyd os oes gennych chi ofynion dietegol meddygol neu benodol. Ar gyfer dewisiadau dietegol, nodwch fod y Brifysgol yn gweini amrywiaeth o fwyd. Mae archfarchnad hefyd o fewn cerdded i'r campws.

  • Nodwch fod y signal ffôn a gwe yn gallu bod yn afreolaidd o achos y lleoliad anghysbell, ac yn ddibynnol ar y tywydd.

    Mae Wi-Fi ar gael.

  • Lled-ffurfiol.

  • Byddwn yn tynnu lluniau ac yn gofyn am adborth a sylwadau gydol y digwyddiad. Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu'r deunyddiau ar ein gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol; neu mae'n bosibl y byddwn yn eu defnyddio at ddibenion marchnata'r digwyddiad a hyfforddiant gan Academi Wales yn y dyfodol. Byddwch yn cael cyfle i gytuno neu anghytuno i gael eich cynnwys yn y deunyddiau hyn pan fyddwch yn llenwi'r ffurflen gais.

  • Cyflwynir yr Ysgol Haf yn Saesneg. Fodd bynnag, darperir gwybodaeth a deunyddiau i gynrychiolwyr yn ddwyieithog, a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael yn ystafell y cyfarfod llawn. Os byddai’n well gennych ymuno â grwp hwyluso sy’n siarad Cymraeg, nodwch hyn yn eich cais.

  • Mae'n rhaid i chi gwblhau unrhyw set cyn-gwaith, bydd hwn ar gael ar yr hwb cynrychiolwyr.

  • Gwahoddir cynadleddwyr llwyddiannus i gofrestru ar hyb cynadleddwyr yr Ysgol Haf. Mae hwn yn safle caeedig, diogel a gellir ei gyrchu unrhyw bryd, yn unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Bydd y hyb yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth bwysig cyn y digwyddiad, cael trafodaethau a rhwydweithio gyda'ch cyd-gynadleddwyr.

    Mae'n bwysig eich bod yn mewngofnodi i'r hyb i dderbyn diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth allweddol am y rhaglen. Rydym yn argymell eich bod yn clicio’r botwm Tanysgrifio, a dewiswch yr opsiwn Fel maen nhw'n digwydd i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth iddi gael ei rhannu.

    Bydd angen porwr gwe cyfredol arnoch fel Microsoft Edge, Safari neu Google Chrome i gael mynediad i'r hyb.

Cyrraedd y Llanbed (dolen allanol)

Trenau - Trafnidiaeth Cymru (dolen allanol)

Amserlennu bysiau (dolen allanol)

Rhannu ceir

Gyda'ch sêl bendith fe wnawn ni rannu eich manylion cyswllt pan fydd y rhestr o gynrychiolwyr wedi ei chadarnhau. Yna gallwch wneud eich trefniadau eich hunain ar gyfer rhannu car i deithio i'r digwyddiad ac yn ôl.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, anfonwch e-bost atom.