English

Ysgol Aeaf 2025 - mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tím drwy anfon e-bost at Ysgol Aeaf.

Roedd Nazir Afzal OBE yn Brif Erlynydd y Goron ar gyfer Gogledd Orllewin Lloegr ac yn gyn Gyfarwyddwr yn Llundain. Roedd yn Brif Weithredwr Comisiynwyr Heddlu a Throseddu’r wlad ac, yn fwyaf diweddar, yn Gynghorydd Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru. Yn ystod gyrfa 30 mlynedd, mae wedi erlyn yr achosion uchaf eu proffil yn y wlad a chynghori ar lawer o rai eraill ac wedi arwain yn genedlaethol ar nifer o bynciau cyfreithiol, gan gynnwys Trais yn erbyn Menywod a Merched, cam-drin plant yn rhywiol, a thrais ar sail anrhydedd. Roedd yn gyfrifol am fwy na 100,000 o erlyniadau bob blwyddyn. Fe wnaeth ei erlyniadau yng nghyswllt y ‘Rochdale grooming gang’, fel y'u gelwid, a channoedd o rai eraill dorri tir newydd a newid tirwedd amddiffyn plant.

Ef yw Canghellor Prifysgol Manceinion – y brifysgol fwyaf sydd ar un safle yn y DU, y brifysgol fwyaf poblogaidd yn y DU ar gyfer ceisiadau, y brifysgol sydd ar y brig ar gyfer cyflogadwyedd, yn safle rhif 28 yn fyd-eang, 44000 o fyfyrwyr, 13000 o staff, 550000 o gyn-fyfyrwyr, 25 o Enillwyr Gwobr Nobel

Mae'n dod yn Gadeirydd Theatr Lowry – "National Theatre of the North."

Mae'n Gadeirydd Panel Diogelu Cenedlaethol Eglwys Loegr

Mae ar fwrdd Asiantaeth Safonau annibynnol newydd y Diwydiannau Creadigol

Cynghorydd Strategol i’r People’s Powerhouse

Roedd yn aelod o Sefydliad Annibynnol Safonau yn y Wasg

Noddwr Cymdeithas y Partneriaid Diogelu

Mae'n aelod o Bwyllgor Moeseg Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu

Ef oedd Cadeirydd annibynnol cyntaf Asiantaeth Ddiogelu'r Eglwys Gatholig.

Mae'n gynghorydd i Bikal Technologies (UK) Ltd, sy'n datblygu cynnyrch Deallusrwydd Artiffisial a 5G, gan ddefnyddio ymchwil gan brifysgolion yn bennaf i drosglwyddo i gynnyrch masnachol.

Ef oedd Cadeirydd yr Adolygiad Annibynnol o Ddiwylliant Brigâd Dân Llundain a'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

Mae'n Ymddiriedolwr Sefydliad WOW (World of Women)

Mae ei hunangofiant "The Prosecutor" a gyhoeddwyd yn 2020 yn cael ei addasu ar gyfer drama Brydeinig mewn sawl rhan ar hyn o bryd. Cyhoeddwyd ei lyfr newydd "The Race to the Top" ym mis Medi 2022. Ei raglen 'Desert Island Discs' ar BBC R4 oedd y 3ydd mwyaf poblogaidd yn 2021.

Mae Nazir yn diwtor ar gyfer sawl rhaglen arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus a phreifat. Mae wedi gwneud cyflwyniadau i ddwsinau o sefydliadau amrywiol yn y wlad hon a thramor. Mae wedi rhoi cannoedd o gyfweliadau ym mhob math o gyfryngau. Mae Nazir yn rhoi cryn dipyn o amser i waith elusennol ac mae'n ymddiriedolwr a Noddwr i nifer o gyrff anllywodraethol gan gynnwys ServiceSix, DVAssist, Jan Trust, Samantha Sykes Foundation, Karma Nirvana, Halo Project a SaveraUK a bu'n Gadeirydd Mosaic Trust Tywysog Cymru.

Mae'n Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn a Phrifysgol Glyndŵr a dyfarnwyd Doethuriaethau er Anrhydedd yn y Gyfraith iddo gan Brifysgol Birmingham, Manceinion, Bradford, Caerlŷr a South Bank Llundain. Mae wedi cadeirio cynadleddau yn Efrog Newydd, Madrid, Paris, Norwy a Genefa. Mae wedi cynorthwyo llywodraethau Somalia, Wcráin a Phacistan ar ddiwygio Rheolaeth y Gyfraith.

Mae Nazir wedi cael llawer o anrhydeddau. Yn 2005, dyfarnwyd OBE iddo gan y Frenhines am ei waith. Mae hefyd wedi cael yr anrhydedd o fod yr unig gyfreithiwr erioed i erlyn achos gerbron y Frenhines. Yn 2007, derbyniodd Wobr Cyfiawnder Llywodraeth y DU a dyfarnwyd “Gwobr y Bobl” papur newydd y Daily Mirror iddo, yn sgil pleidlais ymhlith y darllenwyr. Dewiswyd Nazir hefyd ar gyfer yr Asian Power 100 ynghyd â rhestr Muslim Power 100, gan ei gydnabod fel un o’r 100 o Fwslimiaid ac Asiaid blaenllaw mwyaf dylanwadol yn y DU.  Fe'i rhestrir yn y Pakistan Power100 sy'n ei ystyried yn un o'r 100 o bobl fwyaf dylanwadol o dras Pacistanaidd yn y byd heddiw. Ef oedd "Dyn y Flwyddyn 2012" yr Asian Media Group. Yn fwyaf diweddar, derbyniodd y Wobr Cyflawniad Oes yng ngwobrau Pride of Birmingham 2022. Enillodd y wobr "Disruptor for Good" gyntaf erioed yng Ngwobrau Northern Power Women 2022.

Roedd y ffilm BBC "Three Girls" yn seiliedig ar ei achos

“An inspiring figure, forensically intelligent” – Golygyddol y Times, Tachwedd 2012

“Until recently crimes encountered by pioneering prosecutor rarely troubled a courtroom, now these issues have risen to the top of the Policy agenda” – The Independent, Gorffennaf 2012

“The authentic face of British Justice” – Proffil Dydd Sadwrn y New York Times, 2013

SIY Global Leadership

Mae Natalia Bojanic wedi hwyluso gweithdai mewn ystod eang o leoliadau, o elusennau i gwmnïau cyfreithiol ac mae wedi gweithio gyda chwmnïau ar draws gwahanol ddiwydiannau, megis Lululemon, Amex a CancerCare. Mae ei chefndir addysgu’n amrywiol, gan gyfuno doethineb hynafol o Fwdhaeth Tibet ag ymwybyddiaeth ofalgar seciwlar o Search Inside Yourself, Sefydliad Arweinyddiaeth a ddechreuodd yn Google ac a ddatblygwyd gan arweinwyr meddwl ym maes deallusrwydd emosiynol, ymwybyddiaeth ofalgar a niwrowyddoniaeth. Ar hyn o bryd mae Natalia yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Seicoleg a Niwrowyddoniaeth Iechyd Meddwl yn King's College Llundain.

Mae hi hefyd yn gyd-sylfaenydd Form Nutrition, sef B Corp sy'n defnyddio busnes fel grym er daioni. Mae’n fusnes newydd a ddisgrifiwyd gan y Telegraph fel brand 'sy’n trawsnewid'. Cyn hynny roedd hi'n Gyfarwyddwr Cysylltiadau Cyhoeddus yn y diwydiant nwyddau moethus, yn gweithio i frandiau fel LVMH a Land Rover.

Cyd-gyflwynydd rhaglen y BBC 'Artificial Intelligence: Decoded' ac awdur 'Technology Is Not Neutral: A short guide to technology ethics'. Mae Dr Stephanie Hare yn awdur, ymgynghorydd a phrif siaradwr sy'n canolbwyntio ar effaith deallusrwydd artiffisial ar fusnes a chymdeithas. Mae ei llyfr 'Technology Is Not Neutral: A Short Guide to Technology Ethics' yn archwilio'r materion sy'n ymwneud â Deallusrwydd Artiffisial a Big Tech yn ogystal â'i effeithiau ar ddynoliaeth.

Mae arbenigedd Stephanie yn y man hwnnw lle mae busnes, technoleg, llywodraethu a moeseg yn cwrdd yn yr oes o gyfalafiaeth gwyliadwriaeth sydd ohoni. Cafodd Stephanie ei dewis ar gyfer menter Menywod Arbenigol y BBC ac mae bellach yn sylwebu yn rheolaidd ar y BBC. Hi yw cyflwynydd Artificial Intelligence: Decoded y BBC ac mae'n cyfrannu'n rheolaidd at slot Business Matters y BBC World Service.

Mae Stephanie yn gyflwynydd a hwylusydd difyr ar gyfer digwyddiadau, gan gyfuno trylwyredd academaidd â chynhesrwydd a dull cyflwyno deinamig pan fydd ar y llwyfan. Cyn dod yn sylwebydd a chyfathrebwr cyfryngau byd-eang, gweithiodd Stephanie i Accenture, Palantir ac Oxford Analytica. Cyhoeddwyd ei gwaith yn The Washington Post, The Guardian/Observer, WIRED, Harvard Business Review a The Financial Times, a ddewisodd 'Technology Is Not Neutral: A Short Guide to Technology' fel un o'i lyfrau gorau yn haf 2022. Ar hyn o bryd mae llyfr Dr Hare wedi'i gynnwys ar faes llafur Ysgol y Gyfraith Harvard.

Mae Stephanie Hare wedi ymgynghori a chyflwyno digwyddiadau ar gyfer llawer o gwmnïau a brandiau. Mae'r rhain yn cynnwys LEGO, KPMG, IKEA, y Gymdeithas Frenhinol, Sefydliad Vodafone, BAE Systems, Citywire, CERN, Mishcon de Reya, the Internet of Things Alliance Australia, Sefydliad Alan Turing, Mayer Brown, 7 Bedford Row, Fujitsu, y Data Lab, Vistage a SOLACE, prif rwydwaith y DU ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus.

Mae gan Stephanie PhD ac MSc o Ysgol Economeg Llundain ac astudiodd ym Mhrifysgol Illinois yn Urbana-Champaign, gan gynnwys blwyddyn yn Université de la Sorbonne (Paris IV). Bu’n dal Cymrodoriaeth Wadd Alastair Horne yng Ngholeg St Antony, Rhydychen.

Trompenaars Hampden-Turner

Mae Fons yn ddamcaniaethwr sefydliadol o'r Iseldiroedd ac yn sylfaenydd a chyfarwyddwr yr ymgynghoriaeth reoli ryngddiwylliannol Trompenaars Hampden-Turner.

Mae'n cael ei gydnabod ledled y byd am ei waith fel ymgynghorydd, hyfforddwr, siaradwr ysgogol ac awdur llyfrau amrywiol ar amrywiaeth o bynciau ym maes diwylliant a busnes.

Cafodd Fons Trompenaars ei MA mewn Economeg yn y Vrije Universiteit Amsterdam yn 1979 a'i PhD o Ysgol Wharton ym Mhrifysgol Pennsylvania yn 1983 ar gyfer y traethawd ymchwil ‘The Organization of Meaning and the Meaning of Organization’.

Mae wedi treulio dros 30 mlynedd yn helpu arweinwyr Fortune 500 i adeiladu cysylltiadau ystyrlon i reoli a datrys eu problemau busnes a diwylliant er mwyn cynyddu effeithiolrwydd a pherfformiad byd-eang, yn enwedig ym meysydd arweinyddiaeth, arloesi, globaleiddio, dealltwriaeth ryngddiwylliannol a rheoli newid diwylliant trwy gysoni gwahaniaethau (ar sail ethnigrwydd, rhywedd neu genhedlaeth, proffesiynol, sefydliadol ac ati).

Mae Fons wedi trosi ei ddull yn ganlyniadau arloesol, ymarferol a phroffidiol ym mhob maes busnes rhyngwladol.

Yn y gofod academaidd, mae'n Gyd-gyfarwyddwr yn y Servant-Leadership Centre for Research and Education (SERVUS) yn VU Amsterdam.

Ym mis Hydref 2023, dyfarnodd Ffederasiwn Cymdeithasau Rheoli Pobl y Byd (WFPMA) ei wobr nodedig Gwobr George Petitpas i Fons Trompenaars - un o feddylwyr rheoli mwyaf dylanwadol y byd mewn seremoni yn Lisbon, Portiwgal.

Cafodd Riding the Waves of Culture: Understanding Cultural Diversity in Business ei gynnwys gan Thinkers50 ymhlith y deg uchaf ar y Management Classics Booklist 2024.

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae’r rôl yn rhoi cyngor a chefnogaeth i'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus i gymryd gweledigaeth hirdymor ar benderfyniadau polisi. Gwaith y comisiynydd yw diogelu a hyrwyddo anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Derek Walker yw’r ail Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ar ôl dechrau’r rôl ar 1af o Fawrth 2023, pan alwodd am ‘newid bryd a thrawsnewidiol’ yng Nghymru.

Cyn hynny, ef oedd prif weithredwr Cwmpas, asiantaeth datblygu fwyaf y DU. Treuliodd Derek 12 mlynedd fel Prif Swyddog Gweithredol, yn gweithio i gefnogi pobl a cymunedau i greu swyddi a chryfhau cymunedau, a newidiodd ffocws y sefydliad ar ddatblygu sy’n diwallu anghenion y cenedlaethau’r presennol heb gyfaddawdu ar anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Dechreuodd Derek ei yrfa fel swyddog polisi i Gynghorau Llundain, yn Llundain a Brwsel. Mae hefyd wedi gweithio fel Pennaeth Materion Allanol yn y Gronfa Loteri Fawr (Cymru), fel Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd yn TUC Cymru ac ef oedd cyflogai cyntaf Stonewall Cymru.

Magwyd Derek ar fferm ger Cwmbrân ac mae’n rhedwr brwd a chwaraewr tenis, wrth ei fodd yn darllen ac yn ddysgwr Cymraeg. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’r bartner Mike ac mae ganddo ddau o blant. Ei uchelgais tra yn Ysgol Gyfun Croesyceiliog oedd bod yn newyddiadurwr ac mae ganddo radd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol o Brifysgol Caerdydd. Mae'n hapus sut mae bywyd wedi troi allan ac mae’n dweud mai bod yn warcheidwad buddiannau pobl sydd heb eu geni eto yw’r fraint fwyaf.

Atebwch y cwestiynau canlynol yn eich cais:

  • Amcanion Personol - Yn gryno, disgrifiwch eich rôl arwain a’ch cyfrifoldebau ar hyn o bryd (rhwng 50 a 100 gair)
  • Amcanion yr Adran/Sefydliad - Beth yw eich amcanion dysgu ar gyfer yr Ysgol Aeaf? (rhwng 50 a 100 gair)
  • Datganiad Canlyniadau Personol - Sut bydd yr Ysgol Aeaf yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau yn eich gwaith? Sut byddwch chi'n defnyddio'r gwersi a ddysgir? (rhwng 50 a 100 gair)

Wrth gyflwyno eich cais, byddwch yn cael eich cynnwys mewn proses sifftio ar gyfer lle. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer Ysgol Aeaf 2025 a fydd yn cael eu dyfarnu i ymgeiswyr sydd wedi nodi amcanion a chanlyniadau cryfion sy’n cyd-fynd â nhw eu hunain a’u sefydliad. Mae’n bwysig eich bod yn ateb cwestiynau’r amcanion personol yn llawn, i gefnogi’r broses sifftio.

£600 + TAW. Mae hyn yn cynnwys:

  • mynediad at raglen ddysgu lawn yr Ysgol Aeaf
  • pecyn cynrychiolydd
  • llety (dydd Mawrth 4 Chwefror i dydd Gwener 7 Chwefror 2025)
  • brecwast, cinio a phryd nos yn ystod y digwyddiad

Rhaid i chi dalu unrhyw gostau personol sy'n codi, megis teithio i'r digwyddiad ac oddi yno.

Sylwch: Os dyfernir lle i chi ac yn ddiweddarach rydych chi’n penderfynu tynnu’n ôl o’r rhaglen, mae gan Academi Wales yr hawl i godi tâl gweinyddu ar eich sefydliad – ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth.

Digwyddiad preswyl yw’r Ysgol Aeaf a darperir llety ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.

Adran o Lywodraeth Cymru yw Academi Wales. Mae angen rhoi’r manylion canlynol yn eich cais:

  • Enw a cyfeiriad yr sefydliad sy'n talu i chi fod yn bresennol
  • Enw a chyfeiriad e-bost y swyddog bilio

Cyflenwr: Llywodraeth Cymru
Cyfeiriad cyflenwr: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ

I gadarnhau eich lle, bydd angen i chi ddarparu rhif gorchymyn prynu. Caiff eich sefydliad ei anfonebu am eich ffi cynadleddwr yn dilyn eich presenoldeb yn Ysgol Aeaf 2025.

Am ragor o fanylion ynglyn â gofynion anfonebu, cysylltwch â’n tîm cyllid ar AW.Busnes@llyw.cymru.

Adran o Lywodraeth Cymru yw Academi Wales. I gefnogi eich cais, rhowch y manylion canlynol:

  • Cyfeiriad e-bost rheolwr cyllid cangen

I gadarnhau eich lle, rhaid i'ch rheolwr cyllid cangen ddarparu'r manylion canlynol i AW.Busnes@llyw.cymru:

  • Canolfan elw
  • Cod gweithgarwch
  • Rhif personél neu enw’r cynrychiolydd

Byddwn yn cyhoeddi trosglwyddiadau cofnodi i gasglu ffioedd y cwrs ar ôl y digwyddiad.

Os oes angen rhagor o fanylion arnoch chi am y gofynion trosglwyddo cyfnodolyn, cysylltwch â’n tîm cyllid ar AW.Busnes@llyw.cymru.

Dydd Mawrth 4 Chwefror

  • 11 yb: cofrestru a dyrannu llety (os fyddwch yn cyrraedd cyn 11 yb, rhowch wybod i ni)
  • 12 yp: cinio
  • 1 yp: rhaglen yn dechrau

Dydd Gwener 7 Chwefror

  • 12.30 yp: diwedd y rhaglen

Lle bo hynny’n berthnasol, mae’n ofynnol i chi gwblhau’r holl waith a osodwyd ymlaen llaw gan y siaradwyr.

Bydd cynrychiolwyr llwyddiannus yn cael eu cofrestru ar hyb cynrychiolwyr yr Ysgol Aeaf.  Mae hwn yn safle caeedig diogel a gallwch fynd iddo unrhyw bryd, yn unrhyw le ac ar unrhyw ddyfais. Bydd yr hyb yn rhoi cyfle i rannu gwybodaeth bwysig cyn y digwyddiad, cael trafodaethau a rhwydweithio â’ch cyd-gynrychiolwyr.

Mae’n bwysig eich bod yn mewngofnodi i’r hyb i gael diweddariadau rheolaidd a gwybodaeth bwysig am y rhaglen.

Bydd angen porwr gwe cyfredol arnoch fel Microsoft Edge neu Google Chrome i gael mynediad i'r hyb.

  • Oes - rhaid i gynrychiolwyr fod yn bresennol drwy gydol y rhaglen. Mae wedi cael ei chynllunio'n bwrpasol ac ni fyddwch yn elwa'n llawn oni fyddwch yn cwblhau pob agwedd.

  • Ydyn – fodd bynnag, rydym yn eich annog i fanteisio ar ran breswyl y rhaglen. Os ydych chi’n byw’n lleol, efallai y byddwch yn cymudo’n ôl ac ymlaen i’ch cartref – rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib os nad oes angen llety. Mae dal yn ofynnol i gynadleddwyr nad ydyn nhw’n aros i dalu’r ffi o £600 a TAW.

  • Nid oes cyfleusterau gofal plant na crèche ar gael. Bydd gofyn i chi wneud eich trefniadau gofal plant eich hun.

  • Mae prydau a lluniaeth wedi eu cynnwys yn y rhaglen (fodd bynnag nid yw alcohol na lluniaeth y bar neu'r caffi yn gynwysedig)

    • Brecwast: rhwng 7.30 a 8.30 yb bob dydd
    • Swper: 7.30 yp.

    Mae bar bychan sy’n derbyn arian parod a chaffi ar y safle. Noder: nid oes peiriant codi arian yn y lleoliad nac yn agos ato. Codwch arian cyn dod os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r cyfleusterau hyn.

  • Nodwch ar eich ffurflen gais os oes angen unrhyw gymorth arnoch neu os oes gennych unrhyw anghenion meddygol neu ddietegol penodol. Os oes angen, byddwn yn cysylltu â chi i drafod hyn yn nes at y digwyddiad.

  • Mae’r Ysgol Aeaf yn Saesneg ei chyfrwng. Ond mae’r deunyddiau a'r pecynnau i gynrychiolwyr ar gael yn ddwyieithog.

    • Oherwydd lleoliad anghysbell y ganolfan, efallai na fydd llawer o signal ffôn symudol. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio llinell ddaearol 24/7.
    • Mae Wifi ar gael ym mhobman heblaw am y capel
    • Fflachlamp: Safle bach yw Nant Gwrtheyrn ond, o achos ei leoliad, mae symud rhwng y neuadd weithgaredd a'r llety (yn enwedig yn y nos) yn gallu bod yn arbennig o dywyll felly byddai fflachlamp yn ddefnyddiol.
    • Pethau ymolchi, sychwr gwallt ac ati
    • Arian parod (sylwch: nid oes peiriannau arian na siopau gerllaw)
    • Cyflenwad o de, llaeth a bisgedi, gan fod gan rai o'r bythynnod geginau (ond cyflenwir yr holl fwyd a lluniaeth eraill yn ystod y digwyddiad)
    • Sesiynau ystafell ddosbarth - mae croeso i chi wisgo’n hamddenol.
    • Taith gerdded - awgrymwn eich bod yn dod â dillad cynnes, cyfforddus ar gyfer yr awyr agored, ac esgidiau cryf. Bydd hi'n anodd rhagweld y tywydd a gall droi'n oer iawn.
    • Mae’n dipyn o draddodiad bod pobl sy’n dod i’r Ysgol Aeaf yn mynd ar daith gerdded ben bore ar hyd llwybr yr arfordir cyn i sesiynau ddechrau. Os hoffech chi wneud hyn dewch â fflachlamp, esgidiau addas a dillad cynnes priodol.
  • Cadwn yr hawl i dynnu lluniau/fideo yn ystod y digwyddiad a gallant gael eu defnyddio at bwrpas cyhoeddusrwydd a chreu gwybodaeth dysgu.

  • Trafnidiaeth Cymru (allanol)

    Trenau

    www.thetrainline.com (allanol)

    Rhannu car

    Gyda'ch sêl bendith fe wnawn ni rannu eich manylion cyswllt pan fydd y rhestr o gynrychiolwyr wedi ei chadarnhau. Yna gallwch wneud eich trefniadau eich hunain ar gyfer rhannu car i'r digwyddiad ac oddi yno.

  • Tîm yr Ysgol Aeaf

    YsgolAeaf@llyw.cymru

    03000 256 687

    Nant Gwrtheyrn - y Lleoliad

    Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd LL53 6NL
    01758 750 334

    Nant Gwrtheyrn (allanol)

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tím drwy anfon e-bost at Ysgol Aeaf.