Ysgol Aeaf 2026

Cynulleidfa
Arweinwyr a swyddogion gweithredol uwch / haen uchaf, megis Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yng Nghymru
Dyddiadau
3 i 6 Chwefror 2026, Preswyl
Cost
£600 + TAW
Gwybodaeth
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5 Rhagfyr 2025.
‘Agweddau Arweinyddiaeth Myfyrio - Ailgysylltu - Ailddychmygu’
Trosolwg
Mae Academi Wales yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Ysgol Aeaf 2026 yn dychwelyd i leoliad godidog Nant Gwrtheyrn – lle sy’n ysbrydoli ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrio a chreu cysylltiadau.
Mae rhaglen flaenllaw eleni, Agweddau Arweinyddiaeth wedi'i chynllunio i gryfhau, ysbrydoli a chysylltu uwch arweinwyr ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae'r rhaglen yn archwilio beth mae'n ei olygu i arwain yn gydweithredol, yn foesegol, ac yn ddychmygus mewn cyfnod o gymhlethdod, cyfyngiadau a newid. Mae'n cefnogi uwch-weithredwyr i gryfhau eu gwydnwch arweinyddiaeth, ehangu eu persbectif, ac ailegnïo eu hymrwymiad i werth cyhoeddus.
Mae Agweddau Arweinyddiaeth yn meithrin arweinyddiaeth sy'n cael ei yrru gan werthoedd, sy'n canolbwyntio ar y boblogaeth, ac sy'n ymateb i heriau lleol a byd-eang o wydnwch hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol i drawsnewid digidol a lles.
Trwy brofiadau dysgu trochol, ymarfer myfyriol, a deallusrwydd cydweithredol, mae cyfranogwyr yn archwilio'r hyn y mae'n ei olygu i arwain gyda dilysrwydd, tosturi a gweledigaeth yng nghyd-destun gwasanaeth cyhoeddus Cymru.
Coetsio gweithredol
Am yr ail flwyddyn yn olynol, bydd yr Ysgol Aeaf yn cynnwys 2 x 1 awr o goetsio gweithredol un-i-un, a gyflwynir cyn ac ar ôl y rhaglen. Mae'r gefnogaeth deilwriedig hon yn galluogi cyfranogwyr i gymhwyso eu dysgu mewn cyd-destun, myfyrio ar eu heffaith fel arweinydd, ac ymgorffori meddwl newydd mewn ymarfer bob dydd.
Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ddiben ac ysgogwyr cyffredin i sicrhau ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom.
Manteision i chi
Mae Agweddau Arweinyddiaeth yn cynnig cyfle unigryw i gamu'n ôl o'r pethau o ddydd i ddydd, i oedi a myfyrio ar eich taith arweinyddiaeth, ailgysylltu â phwrpas a chyfoedion, ac ailddychmygu dyfodol gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
- Myfyrio: Creu lle ar gyfer dealltwriaeth bersonol a myfyrio ar y cyd ar eich cyfraniad fel arweinydd, eich effaith a'ch gwaddol yng nghyd-destun gwasanaeth cyhoeddus Cymru.
- Ailgysylltu: Cryfhau perthnasoedd, meithrin ymddiriedaeth ar draws sectorau, ac ymrwymo i bwrpas cyffredin ac uchelgais gyfunol Arwain dros Gymru.
- Ailddychmygu: Herio meddwl sefydledig, creu posibiliadau newydd o fewn systemau, gwasanaethau, a dulliau arweinyddiaeth sy'n diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol.
Sylwadau gan gynadleddwyr Ysgol Aeaf 2025:
"Sesiynau ardderchog sy'n ysgogi’r meddwl. Llawer o bethau defnyddiol iawn i fynd yn ôl i'r swyddfa"
"Roeddwn i'n meddwl bod gennych siaradwyr rhagorol eleni; roedd safon uchel y rhai a oedd yn bresennol yn ei gwneud hi'n wirioneddol werth chweil ac yn dda i rwydweithio. Roedd y Cadeirydd yn wych eleni hefyd"
"Roedd yr holl siaradwyr yn addysgiadol iawn ac yn rhoi cyd-destun ehangach i mi ystyried materion sy'n berthnasol i'm maes gwaith"
Ymhlith y siaradwyr mae
Gwybodaeth
Ymddygiad arweinyddol
Bydd y rhaglen hyfforddiant yma yn gymorth i chi ddatblygu eich ymddygiad arweinyddol yn y meysydd canlynol:
Dysgu a hunan-ymwybyddiaeth
Dygnwch a gwydnwch
Canolbwyntio ar ddinasyddion ac ansawdd
Hyrwyddo arloesi a newid
Datblygu cydweithio a phartneriaethau
Ymwybyddiaeth a sgiliau gwleidyddol
Rhannu arweinyddiaeth
Synnwyr strategol
Cynulleidfa darged
Mae’r Ysgol Aeaf wedi'i datblygu'n benodol ar gyfer arweinwyr a swyddogion gweithredol uwch / haen uchaf, megis Prif Weithredwyr a Chyfarwyddwyr o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Cost
Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ac mae’r ffi o £600 + TAW yn cynnwys yr holl ddarpariaeth dysgu a datblygu, llety un ddeiliadaeth ar y safle a’r bwrdd llawn. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cyfarwyddiadau ymuno unwaith y byddan nhw wedi derbyn eu lle.
Ni fydd y rhaglen yn talu eich costau teithio.
Nodwch, os cewch le yn yr Ysgol Aeaf ac yna tynnu’n ôl o’r rhaglen ar ôl derbyn, efallai y bydd yn ofynnol i’ch sefydliad dalu tâl gweinyddol.
Bwrsariaethau
Rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o fwrsariaethau o hyd at 100% tuag at gost cynrychiolwyr Ysgol Aeaf 2026. Rydym yn annog ceisiadau gan grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, yn lleiafrif, ac yn ddifreintiedig a/neu lle mae gan sefydliad elusennol gyllid cyfyngedig. Ni fydd eich costau teithio yn cael eu talu gan y rhaglen.
I wneud cais am fwrsariaeth
Darparwch dystiolaeth eich bod yn bodloni’r cymhwyster (50 i 100 gair). Mae angen i'ch ymateb gyd-fynd â'r meini prawf isod:
- Rydych chi’n rhan o grŵp sy’n cael ei dangynrychioli, yn lleiafrif neu’n ddifreintiedig o fewn eich sefydliad, a/neu lle mae gan eich sefydliad elusennol gyllid cyfyngedig.
- Maint eich sefydliad.
- Gwerth y bwrsari rydych chi’n gwneud cais amdano.
Sut i wneud cais
Mae Academi Wales yn arfogi arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r rhwydweithiau i ddatrys y problemau mwyaf cymhleth sy’n bodoli heddiw. Ochr yn ochr â’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd y cwrs hwn yn eu rhoi i chi, rydym yn awyddus i bwysleisio pŵer meithrin cysylltiadau â’ch cyfoedion yn yr ystafell.
Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn a fydd yn cael eu cynnig drwy broses ddethol gystadleuol, gyda chynrychiolwyr yn cael eu dewis o bob rhan o’r sector cyhoeddus i alluogi ystod eang o safbwyntiau yn yr ystafell ac i’ch cefnogi i gryfhau eich rhwydweithiau proffesiynol. Bydd lleoedd yn cael eu dyfarnu i'r ymgeiswyr hynny sy'n dangos amcanion cryf ar gyfer cymryd rhan yn yr Ysgol Aeaf ac sy'n gallu dangos tystiolaeth o’u hadenillion o fuddsoddi.
Ni fu dangos gwerth o fuddsoddiad erioed yn bwysicach nag yn yr hinsawdd sydd ohoni. Nid elw ariannol yn unig yw gwerth o fuddsoddiad. Dyma effaith gynaliadwy'r dysgu i chi a’ch sefydliad a sut mae hyn yn cysylltu â gwasanaethau a ddarperir ar gyfer pobl Cymru. Mae’n arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n gweithio drwy gyfnodau heriol ac sy’n ceisio gwneud gwelliannau sylweddol i’w canlyniadau sefydliadol ar lefel systemig.
I wneud cais am le, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein hon yn datgan eich amcanion ar gyfer mynychu'r digwyddiad erbyn 5 Rhagfyr 2025.
Cadwch y dyddiadau 3 i 6 Chwefror yn eich calendr nes y byddwn yn cadarnhau canlyniad eich cais.
Mwy o wybodaeth
Gwybodaeth
I gael rhagor o fanylion, gweler ein gwybodaeth fanwl.
Adnoddau dan sylwDod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
Cysylltwch â niYsgol Aeaf
LinkedInDilynwch ni ar Academi Wales
#UnGwasanaethCyhoeddusCymru