Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan

Ymarferwyr gwelliant parhaus yn gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sydd â sylfaen wybodaeth eang am dechnegau gwelliant parhaus.
Digwyddiadau
Ymwelwch ein rhestr chwarae YouTube i weld fideos o'n digwyddiadau.
Pam ymuno â’n Cymuned Ymarfer ni?
- Cysylltu â phobl sy’n gwneud yr un math o waith, yn wynebu’r un problemau ac sy’n dathlu'r un llwyddiannau â chi.
- Cyfarfod ymarferwyr o’r un anian â chi sy’n rhannu eich brwdfrydedd dros welliant parhaus mewn gwasanaethau cyhoeddus.
- Cryfhau cysylltiadau rhwng gwasanaethau cyhoeddus – creu cysylltiadau rhwng amrywiaeth o sefydliadau fel eu bod yn gallu manteisio ar wybodaeth a phrofiadau ei gilydd.
- Astudiaethau Achos – deall sut mae sicrhau buddion mewn meysydd megis arbed costau, gwella gwasanaethau a gwneud mwy gyda’r un faint.
- Digwyddiadau – mynd i ddigwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol drwy gydol y flwyddyn, ac efallai annerch y gynulleidfa ynddyn nhw. Chwilio'r digwyddiadau AWCIC ar y gweill.
- Lleihau camgymeriadau a sicrhau buddion – byddwn ni'n rhannu’r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu gan ein profiadau da a drwg ac yn trafod syniadau ynghylch methodoleg.
- Dangos eich gwaith – byddwn yn cyhoeddi astudiaethau achos o’ch adolygiadau, eich ymyriadau a gwaith arall ar welliant parhaus.
- Cyfrannu – gadewch i bobl eraill yn y gymuned ddysgu o’ch gwaith.
- Dod o hyd i gyfleoedd i gydweithio ar brosiectau gydag ymarferwyr mewn sefydliadau eraill.
- Newid y ffordd rydyn ni’n gweithio drwy ddefnyddio dysgu ar y cyd i lywio’r gwaith o wneud penderfyniadau.
- Dylanwadu ar newid a’r gwaith o lunio polisïau drwy ddefnyddio data a phrofiadau o’r gymuned.
Ymunwch â'n Cymuned Ymarfer
Gallwch ymuno â Chymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan yn ardal Rhwydweithiau ein gwefan lle gallwch gael gafael ar wybodaeth am welliant parhaus gan gynnwys offer, technegau a deunyddiau diweddar.
Rhaid bod gennych gyfrif Academi Wales ac wedi mewngofnodi i'ch cyfrif Academi Wales i allu ymuno â'r rhwydwaith hwn.
Gwobrau AWCIC
Mae'r Gwobrau AWCIC yn ddigwyddiad ar ei ben ei hun sy'n dathlu'r gydnabyddiaeth bwysig o'r gwaith caled sy'n cael ei wneud gan ymarferwyr gwelliant parhaus y gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.
Am gymryd rhan?
Cysylltwch ag AWCIC@llyw.cymru, dilynwch ni ar LinkedIn ar Academi Wales a thanysgrifiwch i'n Bwletin i dderbyn y rhybuddion a diweddariadau digwyddiadau.
Adnoddau dan sylw
Dod o hyd i adnoddau dysgu cysylltiedig
Cysylltwch â ni
AWCIC
LinkedIn
Dilynwch ni ar Academi Wales
#UnGwasanaethCyhoeddusCymru